Postiwyd - 06-07-2018
Casgliadau / Collections / Digido
Datgelu’r Gwrthrychau: Dramâu
Ym mis Hydref eleni bydd y Llyfrgell yn rhannu nifer o eitemau ychwanegol o’i chasgliadau ar Europeana Collections, sef llwyfan ddiwylliannol ddigidol Ewropeaidd. Fel rhan o’r prosiect ‘The Rise of Literacy’ mae’r Llyfrgell yn cydweithio â 12 sefydliad Ewropeaidd er mwyn olrhain datblygiad llythrennedd yn Ewrop. Yn y gyfres flog wythnosol -‘Datgelu’r Gwrthrychau‘, bydd rhai o gyfraniadau’r Llyfrgell yn cael eu datguddio fesul thema.
Yr wythnos hon, dramâu sy’n mynnu ein sylw. Dyma ddetholiad o’r eitemau fydd yn cael eu digido yn sgil y prosiect.
Twm o’r Nant (Thomas Edwards), Tri Chryfion Byd, 1789
Roedd Twm o’r Nant (Thomas Edwards) yn ddramodydd nodedig ac yn awdur nifer o anterliwtiau. Ymhlith ei weithiau mwyaf poblogaidd oedd ‘Tri Chryfion Byd’. Personolir tlodi, cariad a marwolaeth yn yr anterliwt ac y maent oll yn pregethu, adrodd, cynghori a sylwebu drwy gydol y ddrama fywiog a ddigri. Fel llawer o weithiau eraill Twm o’r Nant, y mae ‘Tri Chryfion Byd’ yn cynnwys sylwebaeth gymdeithasol.
R. J. Derfel, Brad y Llyfrau Gleision, 1854Bardd, awdur a sosialydd nodedig oedd R. J. Derfel. Ef oedd awdur y ddrama enwog ‘Brad y Llyfrau Gleision’ sef ei ymatebiad uniongyrchol i adroddiadau addysg 1847. Portreadir Cymru fel gwlad odidog a Duwiol yn y ddrama, ac o’r herwydd, y mae’n lleoliad annioddefol yn llygaid gythreuliaid uffern. Er hynny, maent yn derbyn â hoffter clerigwyr Eglwysig Cymru, grŵp a ddarparodd lawer o dystiolaeth wrth lunio adroddiadau 1847. Wedi cyhoeddiad y Llyfrau Gleision cyhuddwyd rhai clerigwyr o frad, yn bennaf oll gan Anghydffurfwyr teyrngar. Yn ystod yr ail act danfona Beelzebub (tywysog y cythreuliaid) tri archwilydd i Gymru i asesu cyflwr y wlad a’i phobl, nid yn annhebyg i’r tri dirprwy a benodwyd i lunio adroddiadau 1847. Fodd bynnag, cyflawnir y ‘brad’ gan glerigwyr yr Eglwys. Yr oedd rhai o’r farn, gan gynnwys Derfel, bod eu tystiolaeth wedi cynorthwyo, a hyd yn oed bwydo beirniadaethau gwrth Cymreig Llyfrau Gleision 1847. Ysbrydolwyd y ddrama gan chwedl ‘Brad y Cyllyll Hirion’.
Beriah Gwynfe Evans, Chwareu-gan : drama yn null Shakespeare ar “Owain Glyndwr”, 1879Dramodydd a newyddiadurwr nodedig oedd Beriah Gwynfe Evans. Ysgrifennodd lawer o ddramâu, a oedd fel rheol wedi eu selio ar ddigwyddiad neu ffigyrau hanesyddol. Gwobrwywyd ei ddrama ‘Owain Glyndwr’ yn eisteddfod Llanberis, ac fe dorrodd tir newydd. Mae’n bosib dadlau i’r gwaith ysbrydoli symudiad yn ei faes lenyddol yng Nghymru. Llwyfannwyd fersiwn newydd o’r ddrama yng Nghaernarfon ym 1911 ar gyfer arwisgiad Tywysog Cymru.
Idwal Jones, Pobl yr ymylon: drama bedair act, 1927Gweithiodd Idwal Jones fel ysgolfeistr, ond yr oedd hefyd yn fardd a dramodydd nodedig. Ystyrir ‘Pobl yr ymylon’ fel ei waith pwysicaf. Archwilia’r ddrama pedair act ystyr parchusrwydd a dadleua’r dramodydd yn erbyn rhai disgwyliadau cymdeithasol.
Eisiau darllen mwy o gofnodion o’r gyfres hon? Gweler isod:
- Cyhoeddiadau Crefyddol
- Cyfrolau Barddoniaeth
- Baledi
- Cyhoeddiadau Cymreig tu hwnt i Gymru
- Llenyddiaeth Plant
- Llyfrau Teithio
- Llyfrau Hanes
- Cerddoriaeth
- Cyhoeddiadau Gwleidyddol a Radicalaidd
- Y Llyfrau Gleision
- Llyfrau Gwyddonol a Mathemategol
- Llyfrau Coginio a Ffordd o Fyw
Elen Hâf Jones – Swyddog Prosiectau Mynediad Digidol
Crëwyd y cofnod yma fel rhan o brosiect ‘The Rise of Literacy’, Europeana
Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English