Blog

Postiwyd - 29-06-2018

Casgliadau / Collections / Digido

Datgelu’r Gwrthrychau: Barddoniaeth

Ym mis Hydref eleni bydd y Llyfrgell yn rhannu nifer o eitemau ychwanegol o’i chasgliadau ar Europeana Collections, sef llwyfan ddiwylliannol ddigidol Ewropeaidd. Fel rhan o’r prosiect ‘The Rise of Literacy’ mae’r Llyfrgell yn cydweithio â 12 sefydliad Ewropeaidd er mwyn olrhain datblygiad llythrennedd yn Ewrop. Yn y gyfres flog wythnosol -‘Datgelu’r Gwrthrychau‘, bydd rhai o gyfraniadau’r Llyfrgell yn cael eu datguddio fesul thema.

Yr wythnos hon, cyfrolau’n cynnwys barddoniaeth sy’n mynnu ein sylw. Dyma ddetholiad o’r eitemau fydd yn cael eu digido yn sgil y prosiect.

 

Huw Jones (gol.) – Diddanwch Teuluaidd, 1763

Golygwyd y gyfrol farddonol ‘Diddanwch Teuluaidd’ gan Huw Jones. Casgliad ydoedd o weithiau beirdd mwyaf nodedig Môn, gan gynnwys Goronwy Owen, Lewis Morris, Hugh Hughes ac eraill. Argraffwyd y gyfrol yn Llundain, ond fe’i hailgyhoeddwyd yn ddiweddarach – yng Nghaernarfon ym 1817 ac yn Lerpwl ym 1879.

Roedd Goronwy Owen yn fardd ac yn athro nodedig. Ym 1757 hwyliodd o Lundain i Virginia wedi iddo dderbyn swydd fel athro mewn ysgol ramadeg yn Williamsburgh. Pan oedd yn iau, cyfansoddodd lawer iawn o gampweithiau barddonol. Edmygwyd ei waith gan y genhedlaeth ddilynol o feirdd ac fe efelychwyd Owen gan nifer ohonynt.

Athro barddol enwog oedd Lewis Morris a bu Goronwy Owen yn ddisgybl iddo. Cyfansoddodd nifer o weithiau caeth a rhydd o natur amharchus a chyhoeddwyd nifer ohonynt yn y gyfrol hon.

Roedd Hugh Hughes hefyd yn athro barddol ac yn gyfaill agos i Lewis Morris a’i frodyr. Gellir canfod casgliad o’i gyfansoddiadau yn ‘Diddanwch Teuluaidd’.

John Ceiriog Hughes – Oriau’r hwyr: sef, gweithiau barddonol John Ceiriog Hughes, 1860

Roedd John Ceiriog Hughes yn fardd Cymreig enwog ac ‘Oriau’r hwyr’ oedd ei gyhoeddiad cyntaf. Ymhlith ei hoff themâu oedd natur, serch a gwladgarwch. I gymharu â safonau cyfredol, yr oedd ei gerddi’n hynod sentimental o ran eu cynnwys a’u tôn, ond yn boblogaidd iawn serch hynny yn eu cyfnod. Yn y gyfrol hon, gellir canfod darnau poblogaidd sydd wedi eu hadrodd, eu haddasu’n ganeuon, a’u clywed ar lwyfannau ar draws Cymru am genedlaethau lawer. Ac eithrio’r Beibl, ‘Oriau’r hwyr’ oedd cyfrol fwyaf poblogaidd Cymru, o ran gwerthiant, yn y 1860au. Gwerthwyd 30,000 o gopïau rhwng 1860 a 1872.

Sarah Jane Rees, Caniadau Cranogwen, 1870

Bardd, athrawes a golygydd nodedig oedd Sarah Jane Rees, neu Cranogwen. Enillodd ei gwobr nodedig gyntaf fel bardd yn Eisteddfod Aberystwyth ym 1865 ar y pwnc ‘Y Fodrwy Briodasol’. Casgliad o’i gwaith a geir yn ‘Caniadau Cranogwen’ ac fe gyhoeddwyd y gyfrol ym 1870 ar ôl ei llwyddiannau. Roedd Cranogwen hefyd yn siaradwraig gyhoeddus nodedig, yn bregethwr ac yn ymgyrchydd brwd; daeth yn olygydd ar ‘Y Frythones’ ym 1878, sef cylchgrawn Cymreig yn trafod materion menywod.

Alun Lewis, Raiders’ Dawn and other poems, 1942

Roedd Alun Lewis yn fardd ac yn awdur straeon byrion nodedig. Casgliad o’i waith a geir yn y gyfrol ‘Raiders’ Dawn and other poems’. Lluniwyd y cerddi hyn rhwng 1940 a 1941 pan oedd Lewis yng ngwersyll milwrol Bordon, lle dderbyniodd hyfforddiant milwrol. Ysbrydolwyd y rhan fwyaf o ddelweddau Lewis gan fytholeg Feiblaidd a Groegaidd, ac roedd tuedd ganddo i siapio ei gerddi fel damhegion neu alegorïau. Gwerthwyd yr argraffiadau cyntaf o’r gyfrol yn gyflym tu hwnt ac fe’i hail-argraffwyd chwe gwaith.

Eisiau darllen mwy o gofnodion o’r gyfres hon? Gweler isod:

 

Elen Hâf Jones – Swyddog Prosiectau Mynediad Digidol

Crëwyd y cofnod yma fel rhan o brosiect ‘The Rise of Literacy’, Europeana

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Tagiau: , , ,

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archives

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog