Blog

Postiwyd - 25-06-2018

Casgliadau / Digido / Newyddion a Digwyddiadau

Cofio “Cymry 1818”

Ar ddechrau haf 1818 roedd criw o Gardis mentrus o ardal Cilcennin ar fin cwblhau taith eithriadol o hir a thrafferthus.  Mae’n annhebygol bod yr un ohonyn nhw wedi crwydro fawr pellach na’u milltir sgwâr cyn hynny, ond roedd yr ysfa i adael bro eu mebyd i geisio bywyd gwell wedi eu hysgogi i deithio dros dair mil o filltiroedd o berfeddion Ceredigion i Ogledd America.

Ymuno â Chymry a oedd eisoes wedi ymsefydlu yn Paddy’s Run yng ngorllewin Ohio oedd eu bwriad – a phwy fyddai’n gweld bai arnynt? Roedd yno diroedd gwastad a ffrwythlon a digonedd o gyfleoedd i ymfudwyr glew a oedd yn barod i fentro.  Yng nghefn gwlad Cymru, roedd cymunedau’n dioddef gorthrwm a thlodi yn sgil twf yn y boblogaeth, trethi a rhenti uchel a chyfres o gynaeafau gwael yn 1815 a 1816. ‘Does dim rhyfedd felly bod John Jones Tirbach, tafarnwr “Y Ship” ym mhentref Pennant, wedi llwyddo i ddwyn perswâd ar chwe theulu estynedig o’r ardal i godi pac a’i morio hi am America.

 

Ar 1 Ebrill 1818 aeth mintai o tua 36 o ymfudwyr ar gwch o harbwr Aberaeron i Lerpwl ac yna, ar ôl cael hyd i long addas, dyma fentro ar draws yr Iwerydd. Ar ôl mordaith o bron i ddeufis – a cholli merch fach ar y môr – glaniodd y Cymry yn Chesapeake Bay gan fynd yn eu blaenau wedyn mewn wagenni i Pittsburgh ac yna ar gychod fflat i lawr afon Ohio.  Croniclwyd hanes eu taith ynghyd â rhai o’r profiadau cyntaf gawson nhw yn eu cartref newydd gan Virgil H Evans, yn The Family Tree of John Jones Tirbach.

Daeth trobwynt yn hanes y criw ar ôl iddyn nhw lanio yn nhref Gallipolis yn ne ddwyrain Ohio. Penderfynwyd rhoi’r gorau i’r holl deithio blinedig ac yn hytrach na bwrw am gymuned Gymreig Paddy’s Run, ymgartrefodd y Cymry yn y fan a’r lle.  Yn ddiweddarach, daeth y fintai hon yn adnabyddus fel “Cymru 1818” a sefydlwyr y gymuned Gymreig enwog yn siroedd Jackson a  Gallia yn ne ddwyrain y Ohio.

 

Ychydig iawn o Gymry a’u dilynodd am nifer o flynyddoedd ond yn y tridegau dechreuodd yr ymfudo o’r newydd, gyda theulu fan hyn a theulu fan draw yn codi pac ac ymuno â’u cymdogion gynt yn Jackson a Gallia.  Erbyn 1850 roedd tua 3,000 o Gardis wedi croesi’r Iwerydd er mwyn dechrau bywyd newydd yn ardal Tyn Rhos, Moriah, Nebo, Centerville, Peniel, Oak Hill a Horeb.  Aethant  â’u diwylliant, eu traddodiadau a’u crefydd gyda nhw ac yn ôl un adroddiad yn Y Cenhadwr Americanaidd, nid oedd Jackson a Gallia yn ddim ond Sir Aberteifi ar raddfa fawr!

Ddwy ganrif yn ddiweddarach, mae’r cof am yr ymfudwyr hyn yn fyw o hyd ar bob ochr i’r Iwerydd ac mae’r cysylltiadau rhwng de ddwyrain Ohio a Cheredigion yn parhau.  Trwy ymdrechion Canolfan Madog ym Mhrifysgol Rio Grande, cymwynaswyr megis Evan a Bet Davis a threfnwyr dathliadau Cymru-Ohio 2018 yn ardal Aberaeron, cynhelir fflam y berthynas rhwng Cymru ac Ohio.  Gweledigaeth a haelioni Evan a Bet Davis fu’n gyfrifol hefyd am sicrhau bod stori’r ymfudo o Gymru i Ohio ar gof a chadw at y dyfodol.  Mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, crëwyd Gwefan Cymru-Ohio i gofnodi’r holl hanes a sicrhau parhad y berthynas yn y byd modern.

 

Menna Morgan

Mynediad Digidol

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archives

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog