Postiwyd - 08-03-2017
#CaruCelf / Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau
#CaruCelf – Elin Jones
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched mae’r Gwleidydd Elin Jones wedi dewis Bro gan Mary Lloyd Jones fel un o’i hoff ddarnau o gelf ymgyrch #CaruCelf
Meddai Elin Jones:
“Datganiad o liw a lle yw gwaith Mary Lloyd Jones i fi. Mae’n artist eang, ond wedi gwreiddio yn ei chymuned. Mae’n adlewyrchu yn berffaith y gymysgedd yna sy’n perthyn i bob tirlun, pob bro. Yn y Llyfrgell Genedlaethol, y darn Bro sy’n nodweddu ei gwaith orau. Ynddo mae’r lliwiau cryf a dwfn yn adlewyrchu cadernid y testun – ei Bro. I fi, Mary Lloyd Jones yw un o artistiaid mawr ein cenedl. Mae’n lys-genhades i’w chelf, ac yn arbennig felly i artistiaid sy’n Gymraeg ac yn fenywod.”
Dolenni Defnyddiol:
Mary Lloyd Jones – ArtUK
Casgliad Celf LLGC
Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English