Blog

Postiwyd - 12-05-2016

Gwasanaethau Darllenwyr / Newyddion a Digwyddiadau

“Does dim byd gwell na chael bocs o ddogfennau o’r archif a darllen trwy lythyrau a dyddiaduron pobl.”

Yng ngeiriau cân y Manic Street Preachers, rhoddodd llyfrgelloedd bwer i ni, ond beth sy’n digwydd yn wirioneddol y tu ôl i’r silffoedd llyfrau ym mhwerdy diwylliannol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru?

O nofelwyr i achyddion, myfyrwyr PhD a beirdd, siaradom â rhai o ddarllenwyr niferus ac amrywiol Llyfrgell Genedlaethol Cymru i gael gwybod beth a wnânt y tu ôl i’r silffoedd llyfrau.

“Does dim byd gwell na chael bocs o ddogfennau o’r archif a darllen trwy lythyrau a dyddiaduron pobl.”
Calisita Williams, myfyriwr PhD y Brifysgol Agored.  

“Dw i’n astudio ar gyfer PhD mewn hanes yn y Brifysgol Agored mewn cydweithrediad â Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Teitl fy thesis yw ‘Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Hunaniaeth Genedlaethol 1870-1916’.  Mae fy thesis yn archwilio datblygiad Llyfrgell Genedlaethol Cymru a sut y cafodd ei threfnu a’i rheoli. Mae’n gwerthuso effaith gwasanaeth y llyfrgell ac yn archwilio’r cysylltiad rhwng LlGC a hunaniaeth genedlaethol Gymreig.

“Cefais fy ngeni yn Surrey a byw wedyn yn Hampshire a Swydd Buckingham. Mynychais y Royal Latin School yn Buckingham lle roedd gennyf ddiddordeb arbennig mewn Drama a Hanes. Pan oeddwn yn 18 roedd gen i awydd i fod yn actores felly mi ddois i Aberystwyth i astudio Drama. Ar ôl gorffen gweithiais yn Siop Lyfrau Prifysgol Aberystwyth am tua saith blynedd. Mae’n debyg nad oeddwn yn hollol siwr beth oeddwn am wneud. Ar hap penderfynais ddechrau gwirfoddoli gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn garddio ac roeddwn wrth fy modd, a rhoddwyd cyfle i mi redeg gweithdai plant a helpu cynllunio digwyddiadau. Roedd y staff yn Llanerchaeron mor gefnogol ac fe’m cymhellwyd ganddynt i geisio gwneud gradd meistr mewn Hanes a Threftadaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth. Dechreuodd pethau o’r fan honno. Dechreuais yr MA yn rhan-amser a’i fwynhau’n fawr a dechreuais hefyd wirfoddoli yn LlGC. Gweithiais ar brosiect gwirfoddol dan y teitl ‘Cofnodion Corfforaethol’ oedd yn cynnwys didoli trwy ddeunydd archifol y llyfrgell ei hun a’i drawsysgrifo – gan edrych ar gofnodion caffael a hawliau pori defaid! Dyma lle dechreuodd fy niddordeb yn hanes y llyfrgell a dechreuais ddatblygu cais PhD ac roeddwn y ddigon ffodus i fedru sicrhau lle astudio yn y Brifysgol Agored.
Does dim byd wir yn well na chael bocs o ddogfennau o’r archif a darllen trwy lythyrau a dyddiaduron pobl – daw hanes yn wirioneddol fyw yn yr adegau hynny.

Pan dw i’n gweithio yn Ystafell Ddarllen y De, lle gall darllenwyr edrych ar ddeunydd llawysgrif, dw i’n hoffi eistedd yn agos at y ffenestr, eto, mae’r golygfeydd yn wych, a’r haul(pan yn disgleirio) yn llifo i mewn.

“Mae’r llyfrgell – fel Aberystwyth – yn seiliedig iawn ar gymuned ac mae’n gyffredin iawn i weld, ac eistedd gyda’r un pobl pob dydd. Yn aml dw i wedi dechrau siarad gyda pobl yn y caffi a dod o hyd i ddarllenwyr eraill sy’n gweithio mewn maes tebyg neu oedd hyd yn oed yn adnabod, yn bersonol, rhai o’r pobl a astudiaf!”

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog