Blog - Arddangosfeydd

Postiwyd - 10-09-2018

Arddangosfeydd / Casgliadau / Cerddoriaeth / Collections

Dawn anhygoel Morfydd Owen

A refined and beautiful talent: thoughts on the centenary of the death of Morfydd Owen (1891-1918) yw teitl cyflwyniad Dr Rhian Davies yn y Drwm ar 11 Medi.  Mae’r dyddiad yn arwyddocaol gan mai can mlynedd i’r dyddiad hwn y claddwyd Morfydd Owen ym mynwent Ystumllwynarth.  Bu farw’r gyfansoddwraig, y gantores a’r pianydd yn drasig o ifanc ar 7 Medi 1918 yn chwech ar hugain mlwydd oed.  Mae’r cyflwyniad yn perthyn i gyfres o nifer o ddigwyddiadau a drefnwyd gan Gŵyl Gregynog i nodi canmlwyddiant ei marwolaeth.  Dr Rhian Davies yw Cyfarwyddwr Artistig yr ŵyl a’r prif awdurdod ar Morfydd Owen. Dyfarnwyd doethuriaeth iddi gan Brifysgol Bangor yn 1999 am ei thraethawd ymchwil arni.

Ganwyd Morfydd Owen ar 1 Hydref 1891 yn Nhrefforest ac fe’i magwyd ar aelwyd gerddorol iawn.  Cafodd yrfa ddisglair dros ben yn astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd gyda’r Athro David Evans ac enillodd radd Mus. Bac. yn 1912.  Mynychodd yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain, 1912-1917, ac enillodd Fedal Arian Charles Lucas am gyfansoddi Nocturne, gwaith i gerddorfa.  Fe’i hetholwyd yn Aelod o’r Academi Gerdd Frenhinol yn 1918.

Derbyniwyd Morfydd Owen yn aelod o Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1912 a’i henw barddol oedd ‘Morfydd Llwyn-Owen’ sef cyfuniad o’i henw a chartref ei thad Plas Llwyn Owen, Bontdolgadfan, ger Llanbrynmair.  Cafwyd perfformiad sensitif o’i chân ‘Yr oenig’ yng nghystadleuaeth y Rhuban Glas yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Yr oedd yn ddawnus iawn, meddai ar lais mezzo-soprano cyfoethog, yr oedd yn bianydd medrus, ac yn gallu cyfansoddi mewn amryw o arddulliau o emyn-donau i ddarnau cerddorfaol.  Sefydlwyd ysgoloriaeth er cof amdani ym Mhrifysgol Caerdydd a’r enillydd cyntaf oedd Grace Williams yn 1923.  Cedwir llawysgrifau o gerddoriaeth Morfydd Owen a’i memorabilia personol yn Adran Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Caerdydd.

I nodi canmlwyddiant geni Morfydd Owen yn 1991 darlledwyd drama-ddogfen gan S4C ac yn yr Hydref dangosir ffilm Morfydd ar y sianel.  Mae’n ymwneud â pherthynas Morfydd Owen a’i gŵr Dr Ernest Jones a briododd mewn Swyddfa Gofrestru yn Llundain ar ôl carwriaeth fer.  Awdur y sgript yw Siwan Jones.  Bu Rhian Blythe neu ‘Morfydd’ yma yn y Llyfrgell yn ymchwilio i’w hanes diddorol.

Bydd arddangosfa fechan o eitemau o gasgliadau’r Llyfrgell i’w gweld yn Ystafell Summers ar 11 Medi i gyd-fynd â’r cyflwyniad ar Morfydd Owen.  Yn eu plith mae llawysgrifau cerddorol, llythyrau yn ei llaw, ffotograffau, rhaglenni cyngherddau a dwy gyfrol goffa i Morfydd Owen a gyflwynwyd gan Dr Ernest Jones i’w dad-yng-nghyfraith William Owen.

Ann Francis Evans

Postiwyd - 13-07-2018

#CaruCelf / Arddangosfeydd / Blog Kyffin / Collections

Môrluniau Kyffin Williams

Mae morluniau llawn emosiwn Kyffin Williams sydd i’w gweld yn arddangosfa canmlwyddiant yr artist yma yn y Llyfrgell Genedlaethol yn sefyll ar wahân i’w weithiau mwy adnabyddus, ac fe ddylsent gael eu dathlu yn eu rhinwedd eu hun. Mae arddull hynod fynegiadol y gweithiau unlliw hyn yn llwyddo i gyfleu symudiad a thrais moroedd stormus mewn modd hynod effeithiol, gan adlewyrchu brwydr mewnol guddiedig yr artist.

Gellir olrhain cysylltiad Kyffin gyda Bae Trearddur a leolir ar arfordir gorllewinol Ynys Cybi oddi ar arfordir Ynys Môn, lle seiliwyd nifer o’i forluniau, yn ôl i’w blentyndod. Yn blentyn ifanc 6 mlwydd oed a fyddai’n troi’n 7 yr wythnos ganlynol cafodd ei anfon i ffwrdd i Ysgol Breswyl Bae Trearddur ym mis Mai 1925. Nododd yn ei hunangofiant ‘Across the Straits’: ‘It did not take me long to fall under the spell of the island’s mood. The storms, the sea mists, the wrecks, the wailing sirens, and in summer the peculiar haze that hung over the island, all made Trearddur Bay a very special place’.

Yn y llyfr ‘The Sea and the Land’ a gyhoeddwyd yn 1998, nododd yr artist y canlynol am y dechneg impasto mynegiadol a ddefnyddiai mewn gweithiau fel ‘Môr Garw’: ‘These great storms have always excited me and I seem to be stimulated by the noise and energy of the waves – to such an extent that, when I transfer my frenzied scribbles onto canvas, my own energy attacks the canvas… These paintings are not easy to control for often they try to take over and I lose my tones in a confusion of white wave and spray… My personal chemistry demands the excitement of a storm at sea.’

Fel y dywedodd yr awduron Rian Evans a Nicolas Sinclair yn eu llyfr, ‘The Light and the Dark’ a gyhoeddwyd yn ddiweddar, roedd yr artist a ddioddefodd o epilepsi ac iselder gydol ei oes yn cydnabod ei fod yn mynegi ei deimladau mwyaf cythryblus drwy ei forluniau. Mewn cyfweliad yn 2000, nododd yr artist y teimlai y gallai esbonio ei angen i osod lliwiau gwrthgyferbyniol cryf ger ei gilydd ar y gynfas, fel y gwelir yn y morluniau yma, o achos ei frwydr gydag epilepsi: ‘It might be part of the epilepsy, the excitement – the epileptic shock of dark against light it’s very exciting you see. Van Gogh was an epileptic and he had the same love of contrast’. Wedi ei ddylanwadu gan artistiaid eraill nodedig a ddefnyddiai’r gyllell palet i daenu’r paent, fel Gustave Courbet a Van Gogh, roedd Evans a Sinclair hefyd yn gweld tebygrwydd yma rhwng morluniau Kyffin a’r gwaith ‘The Wave’ gan Hokusai a morluniau dramatig August Strindberg. Byddai’r artist yn dychwelyd i baentio’r pwnc gydol ei oes.

 

Morfudd Bevan – Curadur Celf

Postiwyd - 08-06-2018

#CaruCelf / Arddangosfeydd / Blog Kyffin / Collections

Kyffin 100: Dathlu’r canmlwyddiant gyda’r genhedlaeth nesaf

Fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant geni Kyffin Williams, mae Gwasanaeth Addysg y Llyfrgell wedi bod yn cyflwyno nifer o weithgareddau ar gyfer ysgolion, colegau a theuluoedd yn seiliedig ar un o arlunwyr mwyaf nodedig a phoblogaidd Cymru.

Gydol y flwyddyn bydd gweithdai am ddim yn cael eu darparu ar gyfer disgyblion cynradd ac uwchradd i gydfynd â phrif arddangosfa’r Llyfrgell Kyffin Williams: Tu ôl i’r Ffrâm, ac y mae llyfryn dwyieithog sy’n bwrw golwg ar fywyd a gwaith Kyffin yn cael ei ddosbarthu yn rhad ac am ddim i bawb sy’n cymryd rhan yn y gweithdai.

Yn barod eleni bu ysgolion o bob rhan o Gymru yn ymweld â’r Llyfrgell Genedlaethol i ddysgu mwy am yr arlunydd o Ynys Môn, fel disgyblion Ysgol Trimsaran ac Ysgol Mynydd y Garreg, Sir Gaerfyrddin. Wedi iddynt gymryd rhan yn y Diwrnod Meddiannu ym mis Ionawr, bu iddynt ddychwelyd eto ym mis Mai i fwynhau arddangosfa Kyffin a’r gweithdy.

Ym mis Ebrill cludwyd detholiad o baentiadau a darluniau gwreiddiol gan Kyffin Williams o storfeydd y Llyfrgell i Benygroes, Gwynedd fel rhan o brosiect Campweithiau Mewn Ysgol. Cyflwynwyd gweithdai ar arddull a thechnegau Kyffin gan ddau arlunydd blaenllaw o Gymru i ddisgyblion dwy ysgol; bu Catrin Williams yn astudio rhai o dirluniau Kyffin gyda phlant Blwyddyn 4 Ysgol Bro Lleu, tra bod Eleri Jones yn arwain sesiwn ar bortreadau Kyffin i fyfyrwyr Blwyddyn 12 Ysgol Dyffryn Nantlle, i’w cynorthwyo gyda’u gwaith cwrs Lefel A.

Kyffin Williams oedd thema stondin Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Llanelwedd hefyd. Gydol yr wythnos bu arddangosfa fach am ei waith a’i yrfa yn gefndir i weithgareddau celf lle rhoddwyd cyfle i ymwelwyr ieuanc efelychu’r arlunydd drwy atgynhyrchu rhannau o un o’i dirluniau mewn paent acrylic ar gynfas. Yn ystod gweithdy ar y dydd Mawrth, dan arweiniad yr artist Catrin Williams, dangoswyd i’r plant sut mae creu darluniau pastel yn null Kyffin Williams. Bydd rhai o’r gweithiau a gynhyrchwyd yn ystod y sesiynau yma yn cael eu harddangos yn Ystafell Addysg y Llyfrgell tan fis Medi.

Bydd Kyffin Williams: Tu ôl i’r Ffrâm yn rhedeg tan y 1af o Fedi yn Oriel Gregynog y Llyfrgell, ac mae’r arddangosfa yn cynnwys tasgau ar gyfer teuluoedd sy’n ymweld – rhowch gynnig ar ‘Cwis Kyffin’ a crëwch eich campwaith eich hun.

Am wybodaeth bellach ynglŷn â’r gweithdai am ddim, mae croeso i chi gysylltu gyda’r Gwasanaeth Addysg ar:
01970 632988
01970 632431
addysg@llgc.org.uk

Postiwyd - 09-04-2018

Arddangosfeydd / Casgliadau / Collections

Jack Lowe a The Lifeboat Station Project

Mae eleni yn ‘Flwyddyn y Môr’ yng Nghymru, lle bydd unigolion a sefydliadau o bob math yn dathlu arfordir hynod Cymru. Ond er mor hyfryd yw’n harfordir, nid yw heb ei thrafferthion; ers bron i ddau gan mlynedd mae criwiau badau achub yr RNLI wedi bod yn brysur yn achub bywydau ar y môr, ac mae un dyn wedi penderfynu ymgymryd â phrosiect uchelgeisiol sydd, yng ngeiriau Jack Lowe, “about the lifeboat volunteers, for the lifeboat volunteers.”

The Lifeboat Station Project yw menter y ffotograffydd Jack Lowe i gofnodi pob un o’r 238 gorsaf RNLI o gwmpas y DU ac Iwerddon. Ond nid â chamera bach hwylus ar ei ysgwydd mae Jack yn tynnu’r lluniau hynod yma, ond yn hytrach â chamera mawr Fictoraidd, lle mae’n creu ffotograffau ar wydr yn ei ystafell dywyll symudol – hen ambiwlans o’r enw Neena!

Does neb erioed wedi ymgymryd â phrosiect o’r fath raddfa, er bod y syniad ei hun yn deillio o draddodiad cynnar o dynnu lluniau criwiau’r bad achub. Bwriad Jack yw archwilio teimlad o falchder gwirfoddolwyr unigryw’r RNLI – unigolion o gefndiroedd amrywiol sy’n rhoi o’u hamser i ddiogelu dyfroedd Ynysoedd Prydain. Bydd ymweld â phob Gorsaf Bad Achub RNLI yn y DU ac Iwerddon yn creu archif heb ei thebyg, a fydd yn diogelu agwedd hanfodol o ddiwylliant Ynysoedd Prydain ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Ddydd Sadwrn, agorodd yr arddangosfa gyntaf erioed o brintiau The Lifeboat Station Project yma yn y Llyfrgell, a bydd i’w gweld drwy’r flwyddyn. Yn ogystal ag ugain print ambroteip unigryw o rhai o orsafoedd RNLI Cymru, ynghyd â’u criwiau, mae Jack hefyd wedi rhannu ambell i stori sy’n cyd-fynd â’r lluniau, a gallwch ddarllen a chlywed y rhain drwy ddefnyddio’r Ap Smartify.

Mwy o wybodaeth

Postiwyd - 08-03-2018

#CaruCelf / Arddangosfeydd / Blog Kyffin / Collections

Kyffin Williams 100: Wyneb Esmwyth Merch

Tra ar ei anterth, fe gomisiynwyd Kyffin i beintio cyfres o bortreadau, er iddo gyfaddef bod llawer gwell ganddo greu portreadau o dan ei bwysau ei hun.

Mae ein sioe ddiweddaraf Kyffin Williams: Tu ôl i’r Ffrâm yn dangos amrywiaeth o bortreadau wedi eu dethol o gasgliad Kyffin – yn lluniau cynnar o’i gyfnod fel myfyriwr, i gomisiynau’r arlunydd sefydledig – ond y portreadau mwyaf diddorol yw’r rhai wedi eu creu er ei foddhad ef ei hun.

Ymhlith y portreadau i’w gweld mae nifer o ferched. Dywedodd Kyffin nad oedd peintio merched wedi dod yn hawdd iddo, ac y bu iddo gymryd tua ugain mlynedd nes bod yn hapus i beintio wyneb esmwyth merch:

“The reason for this was my use of the palette knife for, painting in broad rough areas of paint, it was difficult to achieve the delicacy necessary”.

Wrth deithio yn y Wladfa yn 1968/69 bu Norma Lopez o Drevelin yn dipyn o ffefryn ganddo. Disgrifiodd Norma fel merch gynhyrfus oedd yn gwenu drwy ei llygaid mawr brown. Tua wyth oed oedd hi ac roedd wrth ei bodd yn pryfocio’r arlunydd, a phan nad oedd yn chwarae gyda’i brawd Paulino, roedd yn hapus iawn i fodelu i Kyffin. Fe greodd Kyffin sawl portread ohoni, ond ni fu’n llwyddiannus wrth ei pheintio mewn olew gan na fyddai’r cyfrwng wedi gweddu i’w chymeriad hwyliog.

Roedd Kyffin wrth ei fodd â phobl, yn arbennig brodorion ei ynys; y bobl bu’n gwylio yn fachgen ifanc wrth ymweld â phlwyfolion gyda’i dad y clerigwr. Efallai mai dyna pam yr oedd yn troi at ddarlunio’r bobl o’i gwmpas, fel y braslun ‘Dynes â Chadach’ sydd yn ein casgliad (darlun gorffenedig ‘Mrs Hughes’ mewn casgliad preifat, a ‘Mrs Rowlands’ yng nghasgliad Cyngor Sir Fôn). Portread cyfansawdd ydyw, o amryw o fenywod yr oedd Kyffin yn eu hadnabod ar yr ynys, rhai a arferai fynd o gwmpas eu gwaith glanhau yn amyneddgar a hawddgar.

Mae lluniau Kyffin yn llawn emosiwn, ac wrth weithio ar bortread byddai’n hapus iawn i ddal tebygrwydd yr eisteddwr, ond yr oedd teimlad y llun yr un mor bwysig iddo; roedd yn well ganddo ddal prudd-der yn hytrach na gwen. Mae ‘Miss Parry’ yn bortread sydd yn cyfleu henaint a’r hyn dybia Kyffin oedd teimladau a meddyliau’r to hŷn oedd “wedi blino ac yn barod i orffwys”.

Mae cyfle i fwynhau’r portreadau yma ar waliau Oriel Gregynog tan 1 Medi 2018, felly dewch am dro i gyfarfod y lleian anhysbys, Michelle, Norma Lopez, Miss Parry ac eraill.

 

Lona Mason – Pennaeth Graffeg, Sgrin a Sain

Postiwyd - 16-02-2018

#CaruCelf / Arddangosfeydd / Blog Kyffin / Casgliadau / Collections

Kyffin Williams – Golwg y tu ôl i’r ffrâm

Mae’r Llyfrgell yn ferw o weithgarwch heddiw wrth i ni lansio ein harddangosfa newydd Kyffin Williams: Tu Ôl i’r Ffrâm. Felly, beth sy’n eich disgwyl yma?

Mae 4 thema o fewn i’r arddangosfa, ‘Hunan’, ‘Artist’, ‘Pobl’ a ‘Lleoedd’, sydd i’w gweld yn Oriel Gregynog a’r Anecs ar ail lawr y Llyfrgell. Yr artist ei hun fydd yn eich tywys drwy’r sioe gyda nifer o’i eiriau ei hun o’i ddyddiaduron, llythyrau a chyhoeddiadau i’w gweld ar y waliau o gwmpas y gweithiau celf. I’r rhai hynny ohonoch sydd am dyrchu’n ddyfnach mae cyfle i sganio gweithiau dethol gan ddefnyddio’r Ap Smartify; y Llyfrgell ac Oriel Ynys Môn yw’r sefydliadau cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio’r dechnoleg newydd hon.

Wrth ddod i mewn i’r arddangosfa, byddwch yn dod wyneb yn wyneb â chymysgedd o ddelweddau o Kyffin mewn gweddau amrywiol, o’r brasluniau cynnar o’r dyn ifanc meddylgar i’r artist hŷn mwy profiadol sydd â’i lygaid yn syllu atoch mewn modd digon heriol. Cyniga’r dyddiaduron a’r llythyrau olwg ddyfnach ar gymeriad yr artist, gyda llythyr annwyl a anfonodd at ‘Mummy & Daddy’ pan yn yr ysgol breswyl yn Nhrearddur yn un o’r uchafbwyntiau.

Yn ‘Artist’ bydd modd gweld datblygiad Kyffin fel artist a’r dylanwadau pennaf arno, yn enwedig ei gysylltiad â Van Gogh a’r tebygrwydd a welodd rhwng ei hun a’i gyd-epileptig. Mae’r ddau baentiad, ‘Heulflodau gyda Mynyddoedd tu Hwnt’ a ‘Brain a Storm ar Ddod’ yn nodedig, yr olaf o’r ddau yn enwedig wrth gael ei gymharu’n aml gydag un o weithiau enwocaf Van Gogh, ‘Wheatfield with Crows’. Yn y llun hwn gwelir Kyffin yn dynwared cyfuniadau lliwiau cryfion ac awyr fygythiol Van Gogh, sydd yn ôl pob tebyg yn dynodi unigrwydd yr artist. Nid yw rhai o’r gweithiau sy’n dyddio o’i amser yn y Slade yn nodweddiadol ‘Kyffin-aidd’, ond yn cynnig cipolwg diddorol o’r broses o berffeithio’i grefft.

Wedi troi’r cornel, mae parau niferus o lygaid yn eich gwylio o’r cynfasau ar y waliau. Mae gosodiad y ffigwr ar y cynfas ym mhortreadau Kyffin yn fwriadol ac yn ddiddorol. Soniodd yn ei lyfr ‘Portraits’: “The placing of the head within the confines of the canvas can show the personality of the sitter.” Yn wir, mae’r cymeriadau mwy hyderus yn llenwi’r cynfas ac yn edrych yn syth atoch, tra bod y cymeriadau mwy swil neu niwrotig yn dueddol o gael eu lleoli i’r ochr ac yn edrych i ffwrdd. Miss Parry yw un o’n ffefrynnau; cymeriad rhannol ddychmygol sy’n darlunio diddordeb Kyffin gyda mynd yn hŷn,“especially those who sit and wait for the end to come”.

Er nad oedd Kyffin yn ystyried ei hun yn baentiwr portreadau traddodiadol, roedd ganddo obsesiwn â phobl. Dywedodd unwaith: “I feel that the land and its people are almost part of me”. Treuliodd Kyffin ei blentyndod ymysg bryniau a dyffrynnoedd gogledd Cymru a swynwyf ef gan dirlun Cymru a’i phobl, yn enwedig ffigwr y ffermwr sydd yn gymeriad cyson yn ei waith ac sy’n addurno waliau sawl ystafell fyw ac oriel. Gellir gweld rhai o’r enghreifftiau gorau o’r gweithiau yma yn yr arddangosfa.

‘Lleoedd’ yw’r adran fwyaf a’r mwyaf arwyddocaol yn y sioe. Roedd ei waith yn y genre hwn mor doreithiog, roedd hi’n ofnadwy o anodd crynhoi’r casgliad helaeth i ffitio’r gofod; ond gyda pheth help oddi wrth Kyffin ei hun (byddai’n aml yn rhestru’i hoff weithiau mewn cyfweliadau ac yn ei ddyddiaduron) rydym wedi ceisio cynrychioli’r goreuon o’r gweithiau hynny sydd wedi’u hysbrydoli gan fynyddoedd a morluniau Cymru a thu hwnt.

Mae’r wal anferth o dirluniau Cymreig sydd wedi cael eu hongian yn null salon yn gydnabyddiaeth i apwyntiad yr artist yn Aelod o’r Academi Frenhinol yn 1973, ac yn ddiweddglo addas i’r arddangosfa. Bu hongian y gweithiau mewn dull sydd erioed wedi’i ddefnyddio yn y Llyfrgell cyn hyn yn sialens i’r tîm, ond efallai mai dyma yw ein huchafbwynt personol o’r arddangosfa gyfan.

Mae rhyw 13 o flynyddoedd wedi pasio ers i ni gysegru arddangosfa gyfan i Kyffin a gobeithiwn y byddwch yn mwynhau’r profiad a dod ar draws rhai ffefrynnau eich hun… ac efallai cael eich ysbrydoli i greu eich campwaith eich hun hyd yn oed. Rhannwch eich profiadau gyda ni ar y cyfryngau cymdeithasol trwy ddefnyddio #Kyffin100 [Twitter: @ArddangosfaLLGC] a chofiwch lawrlwytho Ap Smaritfy cyn eich ymweliad.

 

Uned Arddangosfeydd

Postiwyd - 05-02-2018

Arddangosfeydd / Casgliadau

Teithiwr Chwilfrydig: Thomas Pennant a’r ‘Daith Gartref’

“I beg to be considered not as a Topographer but as a curious traveller willing to collect all that a traveller may be supposed to do in his voyage”

 

Ym mis Mai 1773 ysgrifennodd y naturiaethwr Thomas Pennant o Neuadd Downing, Sir y Fflint, am ei gynlluniau i gynhyrchu llyfr o ‘travels at home’. Daeth y gwaith hwnnw i olau dydd dan y teitl Tours in Wales, a gyhoeddwyd mewn tair cyfrol rhwng 1778 ac 1783. Roedd yn waith arloesol a thra dylanwadol, a fyddai’n parhau i siapio syniadau pobl am Gymru am ganrif a rhagor.

Roedd Pennant eisoes yn adnabyddus yn rhyngwladol erbyn i’r Tours ymddangos. Gwyddai pobl amdano fel awdur y British Zoology a ddarluniwyd mor gywrain, fel un a ohebai’n gyson â rhai o naturiaethwyr mawr Ewrop y ddeunawfed ganrif (yn cynnwys y Comte de Buffon a Carl Linnaeus), ac fel arloeswr anturus y ddwy daith i’r Alban a ysbrydolodd Dr Samuel Johnson a James Boswell a’u Journey to the Western Isles. Llwyddodd partneriaeth Pennant â’r artist Moses Griffith i ddwyn golygfeydd yng Nghymru ac yn yr Alban i sylw cynulleidfa cryn dipyn yn ehangach, ac i symbylu cannoedd lawer o bobl i ymgymryd â theithio gartref drostynt eu hunain.

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gartref i gasgliad helaeth o weithiau cyhoeddedig ac o lawysgrifau Pennant, yn ogystal â llawer o luniau dyfrlliw Moses Griffith. Bydd rhai o’r rhain yn cael eu harddangos yn Ystafell Summers rhwng 5 a 9 Chwefror 2018. Mae prosiect y ‘Teithwyr Chwilfrydig’, sy’n cael ei gynnal ar y cyd rhwng Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a Phrifysgol Glasgow dan nawdd yr AHRC, wedi bod yn twrio yn yr archif ryfeddol hon gan ddod wyneb yn wyneb â phleserau (a thrychinebau!) y profiad o deithio yng Nghymru a’r Alban yn y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dyma ddechreuadau twristiaeth fodern – ac mae cynhysgaeth gymhleth Pennant yn dal i fod gyda ni heddiw.

I ddarganfod mwy am y prosiect, gw. http://curioustravellers.ac.uk/cy

Mary-Ann Constantine (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru)

Tagiau:

Postiwyd - 26-01-2018

#CaruCelf / Arddangosfeydd / Blog Kyffin / Casgliadau / Collections

Kyffin Williams: Dathlu Canmlwyddiant

Mae ein tîm arddangosfeydd yn brysur iawn wrth i ni agosáu at ein prif arddangosfa eleni ‘Kyffin Williams: Tu Ôl i’r Ffrâm’ sy’n agor ar yr 16eg o Chwefror. Mae cymaint o gasgliadau anhygoel i ddewis ohonynt – nid y paentiadau yn unig, ond hefyd llythyrau, dyddiaduron ac effemera o archif nad yw wedi’i gweld cyn hyn. Mae hi wedi bod yn dasg anferthol ond pleserus iawn; mae digonedd o ddeunyddiau i lenwi ein horiel eang sawl gwaith!

Ar yr un pryd rydym wedi bod yn paratoi bron i 70 eitem ar gyfer arddangosfa yn Oriel Ynys Môn sy’n dwyn y teitl ‘Kyffin Williams: Dathlu’r Canmlwyddiant’ ac sy’n agora r y 3ydd o Chwefror. Yn gyfnewid am y benthyciad yma mae ambell i em yn dod yma ar fenthyg o gasgliad Oriel Ynys Môn, a fydd i’w gweld yn ein harddangosfa ni yma yn y Llyfrgell. Un o’r rhain yw darlun cynhyrfiol o storm ar draws y Fenai, sef yr un olygfa â phaentiad olew yn ein casgliad o’r enw ‘Storm yn Nesáu’. Ian Jones, Rheolwr Casgliadau ac Adeiladau yn Oriel Môn sylwodd ar y cysylltiad rhwng ei darlun nhw a’n paentiad olew ni: “Y teitl a roddodd Kyffin ar y darn oedd ‘Biwmares’, ond golygfa o’r Fenai ac Eryri y tu hwnt o Glanrafon, ger Llangoed. Mae Biwmares yng nghanol y darlun tu ôl i’r coed ar lannau’r Fenai.”

Roedd Kyffin yn gefnogwr ffyddlon o’r Llyfrgell ac Oriel Ynys Môn a byddai wrth ei fodd o wybod ein bod yn parhau i gydweithio er mwyn rhannu ei gasgliadau gyda’r genedl.

Am y newyddion diweddaraf am yr arddangosfa dilynwch ni ar
Twitter: @arddangosfallgc
Instagram: @llgcymru
#Kyffin100

 

Uned Arddangosfeydd

Postiwyd - 08-12-2017

#CaruCelf / Arddangosfeydd / Blog Kyffin / Casgliadau

Ymgyrch Fframio’r Dyfodol – Kyffin Williams

Mae cadw, diogelu, catalogio a dehongli ein casgliadau yn elfen hanfodol o waith Llyfrgell Genedlaethol Cymru, er mwyn sicrhau eu bod ar gael i’r cyhoedd. Fel cartref i nifer sylweddol o baentiadau amlycaf Kyffin Williams ac wrth inni ddathlu ei fywyd yn 2018, mae cadw a diogelu rhain a sicrhau eu bod yn cael eu fframio’n gywir yn rhan anatod o’r broses gadwraeth.

Nid yn unig y mae ffrâm yn diogelu paentiad rhag difrod, ond mae hefyd yn effeithio ar olwg y gwaith gorffenedig. Yn wir gall ffrâm dda ychwanegu’n fawr at unrhyw waith celf gan ddyrchafu profiad y sawl sy’n edrych ar y cynnwys. Mae dewis y ffrâm gywir ar gyfer darn o gelf heb os yn grefft ynddi’i hun. Roedd gan Kyffin syniadau pendant ynglŷn â sut i fframio’i baentiadau, ac mae’r Llyfrgell wedi cychwyn prosiect cadwraeth newydd i ail-fframio rhai o’i weithiau gyda’r bwriad o anrhydeddu gweledigaeth gwreiddiol yr artist.

Bydd Ymgyrch Codi Arian Fframio’r Dyfodol yn ariannu’r prosiect cadwraeth allweddol hwn er mwyn galluogi bod gweithiau Kyffin yn cael eu gofalu amdanynt a’u gwerthfawrogi gan genedlaethau’r dyfodol.

Bydd fframio un darn o waith yn costio o gwmpas £2,000 a bydd cael cefnogaeth hael ein cefnogwyr yn ein galluogi ni i wneud mwy o’r gwaith. Bydd pob cyfraniad wirioneddol yn gwneud gwahaniaeth ac yn diogelu gweithiau eiconig i’r dyfodol.

 

Rhian Haf Evans, Swyddog Codi Arian

Postiwyd - 20-11-2017

Arddangosfeydd / Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau

Ymadawiad Arthur

Ymhen llai na mis, bydd arddangosfa Arthuraidd y Llyfrgell yn cau ei drysau am y tro olaf, a bydd ein harwr yn dychwel i’r fro dirion nad ery cwyn yn ei thir.

I nodi Archwilio eich Archif eleni, cynhaliwyd dau ddigwyddiad yn y Llyfrgell Genedlaethol ar 15 Tachwedd i ddwyn sylw at thema chwedloniaeth mewn archifau yma.

Yn ei gyflwyniad awr ginio, trafododd Scott Lloyd, o Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, chwedlau ac archaeoleg, gan dynnu ar enghreifftiau o dros ganrif o archifo gan y Comisiwn.

Aeth Maredudd ap Huw, curadur yr arddangosfa Arthuraidd, ag ymwelwyr ar drywydd y brenin yn ei aml weddau: o’r cymeriad chwedlonol Cymreig mewn ffynonellau megis Llyfr Du Caerfyrddin a Llyfr Gwyn Rhydderch, trwy ei ymddangosiadau yn llenyddiaeth Ffrainc, ac yn ôl i’r derbyniad cymysg a gafodd ym Mhrydain y Tuduriaid.

Go brin i’r Brenin Arthur greu archifau erioed: roedd yn llawer rhy brysur i gadw cofnodion, ffeilio llythyrau, ac archwilio cyfrifon. Er hynny, gellir gweld a mwynhau llawysgrifau a llyfrau yn ymwneud â’r brenin yn ystafell Hengwrt y Llyfrgell hyd ei ymadawiad ar Ragfyr 16.

Wedyn, ninnau, yn drist a distaw, at y drin awn eto draw …

Maredudd ap Huw
Curadur Llawysgrifau

<- Cofnodion Hŷn

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog