Blog - Newyddion a Digwyddiadau

Postiwyd - 15-10-2018

Casgliadau / Collections / Digido / Newyddion a Digwyddiadau / Ymchwil

Llawysgrifau Peniarth: cynhaeaf cymysg

Yn ôl ym mis Mawrth, cyhoeddwyd y grŵp cyntaf o Lawysgrifau Peniarth a ddigidwyd fel rhan o gynllun uchelgeisiol i gyflwyno holl gynnwys y casgliad ar-lein.

Yr wythnos hon, gyda’r Llyfrgell yn dathlu eitemau a chasgliadau sydd wedi eu cynnwys ar Gofrestr Cof y Byd y Deyrnas Gyfunol, dan adain UNESCO, mae’n bleser cyhoeddi fod delweddau 25 llawysgrif arall o Gasgliad Peniarth newydd ymddangos ar ein gwefan. Dyma nhw, wedi eu dosbarthu fesul cyfnod:

O’r bedwaredd ganrif ar ddeg, fe groesawn lawysgrif Gymraeg 190, sy’n cynnwys testunau crefyddol megis Lucidar ac Ymborth yr Enaid, ynghyd â dwy lawysgrif gyfreithiol Seisnig, 328 a 329, yr ola’n cynnwys testun y Magna Carta.

O ddechrau’r bymthegfed ganrif, croesewir testunau crefyddol Lladin a Saesneg 334. O ganol y ganrif honno, wele lawysgrif Ladin o Rydychen, 336, sy’n cynnwys gwaith Petrarch, ynghyd â thestun pwysig Gwassanaeth Meir yn 191. Mae’r cnwd yn fwy toreithiog yn ail hanner y ganrif, gyda llawysgrif 175 o Gyfraith Hywel yn ymddangos am y tro cyntaf, ynghyd â chalendr yn llaw Gutun Owain (186), a cherddi yn llaw Huw Cae Llwyd (189).

Yn ofer y chwiliais am gynnyrch dechrau’r unfed ganrif ar bymtheg, ond fe gynrychiolir ail hanner y ganrif honno’n helaeth gan lawysgrifau Roger Morris, Coed-y-talwrn (169), Thomas Evans, Hendreforfudd (187), Thomas Wiliems y geiriadurwr (188), Simwnt Fychan (189), a thestun arall o Gwassanaeth Meir (192). Nac anghofier hefyd yr achau a geir yn 193, a’r testunau meddygol yn 184, 206 a 207.

Ni fyddai Robert Vaughan yn esgeuluso casglu llawysgrifau ei oes ei hunan, wrth reswm, ac o’r ail ganrif ar bymtheg, cyhoeddir casgliad cywyddau ac englynion 184, gramadegau a geirfâu yn llaw John Jones, Gellilyfdy (295, 296, 302, 304 a 305), a llawysgrifau yn llaw Robert Vaughan ei hunan (180 a 185).

Ac yna, ar ei phen ei hun megis, un llawysgrif yn unig o’r ddeunawfed ganrif, sef pregethau Cymraeg 324, efallai o sir Drefaldwyn.

Am restr gyflawn o holl lawysgrifau Peniarth sydd ar gael yn ddigidol, gweler y dudalen a neilltuir i’r casgliad ar ein gwefan. Ac mae’n braf gallu dweud fod y gwaith o ddigido’n parhau, diolch i’n digidwyr dyfal!

Maredudd ap Huw
Curadur Llawysgrifau

 

Postiwyd - 19-09-2018

Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau

Cofnodion Llongau Aberystwyth

Creu data agored cysylltiedig ar gyfer cofrestri llongau Fictorianaidd

Mae gwirfoddolwyr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi bod yn trawsgrifio cofnodion llongau o’r 19eg ganrif ar gyfer Aberystwyth, ac mae’r rhain bellach yn cael eu rhannu’n agored gan Wicimediwr Cenedlaethol y Llyfrgell ar Wikidata.

 

Am y tro cyntaf mae’n bosib gweld a chwestiynu’r cofnod hanesyddol cyfoethog hwn er mwyn i ni gael cipolwg ar fywyd yn Aberystwyth yn y 19eg ganrif.

 

Yn y 18fed a’r 19eg Ganrif, nid oedd yn hawdd cyrraedd Gorllewin Cymru. Cyn dyfodiad y trên a dyfeisio tarmac, y ffordd orau o gael nwyddau i mewn ac allan o Orllewin Cymru oedd ar longau. Roedd y llongau’n ddiwydiant ffyniannus yn nhrefi a phentrefi ar hyd arfordir Gorllewin Cymru ac nid oedd Aberystwyth yn eithriad. Mae cofnodion am fwy na 500 o longau a gofrestrwyd yn Aberystwyth yn goroesi yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Archifdy Sir Ceredigion.

 

Harbwr Aberystwyth gan Alfred Worthington

 

Dechreuodd gwirfoddolwyr yn y Llyfrgell Genedlaethol drawsgrifio cofnodion llongau Aberystwyth yn 2012. Roedd y data a ddetholwyd ganddynt yn cynnwys gwybodaeth am y llongau, eu criw a’r teithiau a ymgymerwyd ganddynt.

 

Yn 2016 dechreuodd y Llyfrgell archwilio’r posibilrwydd o gyfoethogi rhai elfennau o’r data gan ddefnyddio Wikidata fel llwyfan i’w rannu. Os nad ydych chi’n gyfarwydd â Wikidata, mae’n rhan o’r teulu o wefannau Wikimedia, sy’n cynnwys Wikipedia, ac mae’n gronfa ddata enfawr o ddata agored, am ddim. Nid yw Wikidata yn chwech oed eto ond mae eisoes yn cynnwys 50 miliwn o eitemau data am bob math o bynciau, a ychwanegwyd gan wirfoddolwyr a sefydliadau sy’n dymuno rhannu eu data gyda’r byd. Cydweithiodd Wicimediwr y Llyfrgell gydag Archifdy Sir Ceredigion, sy’n dal gwybodaeth ychwanegol am y llongau, er mwyn creu data cysylltiedig am y llongau eu hunain. Roedd y data hwn yn cynnwys manylion megis math a maint pob llong, dyddiad a lleoliad yr adeiladwaith ac, lle y gwyddys, eu tynged.

 

O hyn, roeddem yn gallu dechrau cloddio yn y data, a chreu darluniau dadlennol. Os ydych chi am weld yr enwau mwyaf poblogaidd ar gyfer llongau a gofrestrwyd yn Aberystwyth, er enghraifft, gallwn adfer a chyflwyno’r wybodaeth hon yn hawdd. Dangosodd map o leoliadau adeiladu’r llongau rhai ffeithiau diddorol hefyd. Fel y byddech chi’n ei ddisgwyl, adeiladwyd llawer o’r llongau yn lleol yn Aberystwyth, Borth ac Aberdyfi, er enghraifft, ond mae’r data hefyd yn dangos bod dwsinau o longau wedi’u hadeiladu yng Nghanada. Darganfyddwyd, trwy ychydig ymchwil, fod llywodraeth y dydd yn mor bryderus am ymosodiad Ffrengig eu bod wedi sefydlu iardiau adeiladu llongau yn fwriadol mewn tiroedd mwy diogel, fel Ynys Tywysog Edward oddi ar Arfordir Canada, er mwyn diogelu’r gallu i symud nwyddau o gwmpas y Deyrnas Unedig.

 

Map Geiriau o’r enwau llongau mwyaf poblogaeth

 

Chwith; llongau adeiladwyd yng Nghanada. Dde; llongau adeiladwyd yn Aberystwyth ac Aberdyfi

Roeddem hefyd yn gallu plotio’r holl longddrylliadau a grybwyllir yn y cofnodion. Mae hyn nid yn unig yn tanlinellu’r peryglon o hwylio yn y 19eg ganrif, ond mae’n dangos sut mae llongau o bentrefi bach Gorllewin Cymru wedi teithio’r byd. O India, Tsieina ac Affrica i Dde America a hyd yn oed y Polyn Deheuol, roedd morwyr Cymru wedi teithio’r byd hysbys.

 

 

Lleoliad llongddrylliadau a gofnodwyd yn y cofnodion llongau

 

Ar ôl y gwaith trawsgrifio cychwynnol, roedd llawer o’r gwirfoddolwyr a oedd wedi gweithio ar y casgliad yn awyddus i wneud mwy, i gasglu mwy o wybodaeth am y llongau, eu criw a’u perchnogion, felly yn 2017 gosodwyd cyfres o dasgau newydd. Dechreuodd gwirfoddolwyr chwilio am ffotograffau a phaentiadau o’r llongau, ymchwilio i dynged mwy o’r llongau, cofnodi perchnogion pob llong a dechrau’r dasg enfawr o ymchwilio i fywydau meistr pob llong a enwir yn y cofnodion.

 

Er y bydd y dasg o nodi’r holl feistri llongau yn cymryd peth amser eto, mae’r cyntaf o’r tasgau bellach wedi’i gwblhau. Mae data am berchnogion pob llong yn bodoli yn y cofnodion llongau gwreiddiol, ond nid oedd hyn o fewn sgôp y prosiect gwreiddiol, felly rydym ni’n ddiolchgar iawn i ddau o’r gwirfoddolwyr a oedd yn gweithio ar y prosiect gwreiddiol, Lilian a Myfanwy am fynd yn ôl drwy’r cofnodion, a ffynonellau eraill megis y ‘Crew List Index Project’ a thynnu’r data allan. Mae llawer o’r data bellach wedi’i ymgorffori gyda gweddill y data ar gyfer y llongau ar Wikidata. Ar wahân i ddarparu ffordd hawdd i chwilio ac archwilio’r data a gedwir yn y casgliad, mae’r Wikidata yn ein galluogi i holi a darlunio’r data mewn ffyrdd newydd, sy’n ein helpu i ddeall yn well beth mae’r cofnodion yma’n ei ddweud wrthym.

 

Mae’r data newydd nawr yn golygu, ar gyfer llawer o longau, y gallwn siartio eu perchnogaeth trwy gydol eu bywyd ar y moroedd. Rydym hefyd wedi gallu creu eitemau data ar gyfer pob un o berchnogion y llongau, boed yn unigolion neu gwmnïau llongau sefydledig. Gwyddomy lleoliad lle seliwyd y cwmnïau, a lle roedd unigolion yn byw, ac rydym yn gwybod, o’u henwau prun ai oeddent yn ddynion neu’n fenywod.

 

Er enghraifft, allan o’r 630 o berchnogion a nodwyd, mae 47 yn fenywod. Byddai angen mwy o ymchwil, ond ar yr olwg gyntaf, mae’n edrych fel bod y rhan fwyaf o’r 47 wedi cymryd perchnogaeth yn dilyn marwolaeth eu gwŷr.

 

Mae’r cofnodion yn dangos sut yr oedd y llongau’n newid dwylo’n rheolaidd. Os y cymerwn ni’r ‘Volunteer’ (enw addas), gallwn lunio siart sy’n dangos ei holl berchnogion, y llongau eraill y mae’r bobl hynny berchen, a pherchenogion eraill y llongau hynny – sydd yn peintio darlun cymhleth o’r busnes perchnogaeth llongau yng Ngorllewin Cymru. A dylid nodi, mewn sawl achos, mai prif gyfranddalwyr neu berchennog/rheolwr penodedig yw’r 630 o berchenogion a nodir. Roedd gan lawer o’r llongau hyn gyfranddalwyr lluosog, gan olygu bod gan nifer o bobol o gefndir gwahanol, y gallu i fforddio buddsoddi yn y fasnach longau prysur.

 

 

Perchnogion y  ‘Volunteer’ efo llongau a perchnogion cysylltiedig

 

Gallwn hefyd weld pwy oedd y unigolion pwysig yn Aberystwyth trwy chwilio’r data am berchnogion llongau yn ôl y nifer y llongau yr oeddent yn berchen. Daeth Thomas Jones, gwneuthurwr llongau Aberystwyth i’r blaen, yn berchen fwy na 20 o longau o un adeg i’r llall.

 

Perchnogion llongau yn ol  nifer o llongau

 

Llinell amser o longau sydd yn berchen i Thomas Jones

Mae Wikidata, fel Wikipedia, yn llwyfan y gall unrhyw un ei olygu felly nawr gall unrhyw un helpu i wella’r data. Os ydynt yn gweld camgymeriadau, neu os oes ganddynt wybodaeth ychwanegol, gellir ei ychwanegu’n hawdd i Wikidata. Mae ein gwirfoddolwyr yn dal i weithio’n galed i gasglu rhagor o ddata, felly bydd y data sy’n gysylltiedig â chofnodion Llongau Aberystwyth yn parhau i dyfu dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod. Mae pawb yn rhydd i archwilio ac ailddefnyddio’r data, felly ar gyfer y rhai yn eich plith sy’n dechnegol, mae croeso i chi hacio, creu, mashio ac ail-weithio ein data, a sicrhewch eich bod yn rhannu’r canlyniadau gyda ni!

 

 

Jason Evans

Wicimediwr Cenedlaethol

Tagiau: , , , , , ,

Postiwyd - 16-08-2018

#CaruMapiau / Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau

Humphrey Llwyd y gŵr a roddodd Gymru ar y map


Ar 21 Awst 2018 bydd 450 o flynyddoedd wedi mynd heibio ers marwolaeth un o wŷr pwysicaf cyfnod y Dadeni, Humphrey Llwyd o Ddinbych. I goffáu’r digwyddiad hwn bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru’n cynnal arddangosfa am Llwyd a’i waith.

Ganed Humphrey Llwyd yn 1527 yn Ninbych. Bu’n astudio yn Rhydychen a enillodd radd Meistr yn 1551. Yn 1553 aeth i weithio i Iarll Arundel a pharhaodd dan ei nawdd am weddill ei fywyd.
Mae’n ymddangos mai un o swyddogaethau Llwyd oedd casglu llyfrau ar gyfer llyfrgell Arundel yn ogystal ag ar gyfer Llyfrgell yr Arglwydd Lumely, mab yng nghyfraith Arundel, priododd Llwyd gyda’i chwaer. Yn y pen draw daeth y ddwy Lyfrgell, yn cynnwys rhai o lyfrau Llwyd ei hun, yn rhan o’r Casgliad Brenhinol sydd bellach yn y Llyfrgell Brydeinig.

Pan ddychwelodd Llwyd i Ddinbych cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol ar gyfer Bwrdeistrefi Dinbych yn 1563 ac yna helpodd i lywio’r Mesur ar gyfer cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg drwy’r Tŷ Cyffredin.

Yn 1566 aeth gydag Arundel ar daith ar y Cyfandir lle cafodd ei gyflwyno i Abraham Ortelius a daeth y ddau yn gyfeillion mynwesol. Ar ôl dychwelyd adref, ysgrifennodd Llwyd at Ortelius o leiaf ddwywaith yn darparu gwybodaeth am Gymru a gyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth gan Ortelius yn ei atlas Theatrum Orbis Terrarum, yn cynnwys y map o Gymru Cambriae Typus, y gwaith y mae’n fwyaf adnabyddus amdano. Yn ogystal â’i fapiau cynhyrchodd Llwyd nifer o weithiau am hanes Cymru na chafodd eu cyhoeddi tan ar ôl ei farwolaeth.


Y llythyr a ddangosir yma yw’r ei lythyr olaf at Ortelius, a ysgrifennwyd o’i wely angau, sy’n cynnwys un o’u weithiau gyda’r mapiau yr oedd wedi’u gwneud. Mae’n ymddiheuro nad yw ei waith mewn gwell trefn ac mae’n edifar nad oes ganddo ddigon o amser ar ôl i’w gwella, bu farw 18 diwrnod yn ddiweddarach. Mae’r llythyr, a gadwyd gan Ortelius, yn dyst i’r parch tuag at y Cymro hollddysgedig, a ddaeth yn un o’i edmygwyr pennaf.


Yn ystod ei fywyd fe’i disgrifiwyd fel “the most famous antiquarius of all our country” ac fe’i disgrifiwyd gan ei fywgraffydd Anthony Wood fel “a person of great eloquence, an excellent rhetorician, a sound philosopher, and a most noted antiquary, and a person of great skill and knowledge in British affairs.”

Mae enw da Llwyd fel un o wŷr blaenllaw cyfnod y Dadeni ac yn wir fel un o grewyr hunaniaeth Gymreig fodern wedi’i esgeuluso yn y blynyddoedd ers ei farwolaeth. Fe’i disgrifiwyd gan Saunders Lewis fel “un o ddyneiddwyr pwysicaf Cymru a ffigwr allweddol yn hanes y Dadeni yng Nghymru”.

Yn ddiweddar, fodd bynnag, mae cyfraniad Llwyd wedi cael ei werthfawrogi o’r newydd, mae prosiect parhaus dan nawdd Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau yn seiliedig ar ei waith “Humphrey Llwyd – Inventor of Britain”, a’r flwyddyn nesaf bydd canlyniadau’r prosiect hwn yn cael eu dangos ochr yn ochr ag arddangosfa fawr am Llwyd yma yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Cynhelir yr arddangosfa bresennol rhwng 20 a 31 Awst yn Ystafell Summers. Dewch draw i ddysgu mwy am y gŵr a roddodd Cymru ar y map.

Postiwyd - 09-08-2018

#CaruMapiau / Casgliadau / Newyddion a Digwyddiadau

#CaruMapiau – Dr Shaun Evans

Dr Shaun Evans yw Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, canolfan ymchwil i Gymru gyfan sydd wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Bangor ac sy’n edrych ar faterion yn ymwneud â hanes, diwylliant a thirweddau Cymru drwy lygaid ei hystadau a’u casgliadau treftadaeth ddiwylliannol. @YstadauCymru

‘Dydi’r lle yma ddim digon mawr i’r ddau ohonon ni’ – beth sy’n digwydd ar ffiniau ystadau?

Mae fy nghyfraniad terfynol i’r gyfres o flogiau ar fapiau ystadau Cymreig yn canolbwyntio ar thema ffiniau. Fel y trafodwyd o’r blaen, roedd perchenogaeth tir yn rhan allweddol o hawliau’r uchelwyr Cymreig i statws, anrhydedd ac awdurdod. Roedd y cysylltiadau hyn rhwng tir a grym yn arwain yn aml at haeriadau cryfion ynghylch eu tiriogaeth gan berchenogion ystadau a dyna oedd un o’r prif ysgogiadau i gynhyrchu mapiau ystâd: cofnodion sy’n pwysleisio’n weledol leoliad, maint a chyfansoddiad tiriogaeth unigolion.

Comisiynwyd y mwyafrif llethol o fapiau ystadau i ddangos y tiroedd a oedd yn perthyn i un ystâd. Fel rheol, ni ddangosir fawr ddim manylion am dir nad oedd yn eiddo i’r unigolyn a gomisiynodd y map. Fodd bynnag, maent yn nodi’n aml pwy oedd yn berchen ar y tiroedd cyfagos, gan nodi enwau tirfeddianwyr cymdogol ar ymylon y tiriogaethau a farciwyd ar y map. Gwelir hyn yn arbennig os nad oedd yr ystâd dan sylw yn uned gyfan gyda’i gilydd, ond yn hytrach yn glytwaith o diroedd wedi’u cymysgu â daliadau ystadau eraill.

Y cwestiwn rwyf eisiau edrych arno yn y blog hwn yw beth oedd yn digwydd ar y ffiniau rhwng dwy ystâd?

Roedd ffiniau yn aml wedi’u nodi yn y tirwedd gan nodweddion ffisegol megis coed, afonydd, gwrychoedd, waliau a ffosydd. Ceir hefyd lawer o enghreifftiau yng Nghymru o gerrig ffiniau yn nodi ffiniau ystâd yn y tirwedd, megis ar y Mynyddoedd Du yn Sir Frycheiniog, lle gwelir llinell o gerrig o ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn nodi ffiniau tiroedd teulu Macnamara o Llangoed Hall. Mewn rhai mannau ceid hefyd draddodiad o ‘guro’r terfynau’, lle roedd grwpiau o bobl leol yn cerdded o amgylch terfynau maenor neu blwyf, a thrwy hynny sicrhau bod y terfynau yn ddwfn yng nghof y boblogaeth leol.

Er gwaetha’r ceisiadau hyn i sicrhau terfynau, roeddent yn destun anghydfodau cyson, a allai’n aml arwain at achosion cyfreithiol.

Yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ceir map sy’n canolbwyntio ar ffiniau dwy ystâd a oedd yn sefyll o amgylch rhan o Afon Cothi ym mhlwyf Cynwyl Gaeo yn Sir Gaerfyrddin. Mae’n ymddangos i’r map gael ei gynhyrchu mewn ymateb i achos cyfreithiol a ddaeth gerbron Llys y Sesiwn Fawr yn 1778 gan John Johnes, sgweier Dolaucothi, yn erbyn William Davys o Kencoed (Cefn-Coed Mawr) yn ymwneud â ‘the watercourse’ ( Eaton Evans & Williams Solicitors Records, 3281, 7469).


Ymgais yw’r map i wahaniaethu rhwng y ddwy ystâd, gyda thiroedd Mr Johnes wedi’u hamlinellu mewn du a rhai Mr Davys mewn coch a gwyrdd (roedd y tiroedd mewn gwyrdd yn rhai a ddaeth i feddiant Mr Davys yn ddiweddar, a chyn hynny’n rhan o ystâd Millfield/Maesyfelin). Mae’r map yn dangos pa mor agos oedd y ddau dŷ ac er mai plasty Dolaucothi yn amlwg oedd yr adeilad gwychaf (gyda gerddi ffurfiol o’i amgylch ac adeiladau allan yn cynnwys ysgubor a melin), mae’r map yn rhoi’r argraff bod Kencoed yn rhy agos i fod yn braf. Roedd y ddwy ystâd yn ymyrryd â haeriadau tiriogaethol ei gilydd.

Mae llinell felen ar y map yn nodi’r terfyn rhwng y ddwy ystâd, sydd gan mwyaf yn dilyn llwybr yr afon, er bod dwy ran fechan, wedi’u nodi mewn glas, y cyfeirir atynt fel ‘unknown property’. Mae 28 o rifau wedi’u nodi ar y tiroedd sy’n ffinio’r afon ac mae’r rhain yn gysylltiedig â nodiadau ac eglurhadau ysgrifenedig ar ochr y map.

Yr hyn a ddaw i’r amlwg o’r nodiadau hyn yw bod y ddwy ystâd wedi bod yn gwneud defnydd helaeth o’r afon fel rhan o’u cynlluniau i reoli tir ac adnoddau. Cyfeiria dau o’r nodiadau at ‘the water diverted from its usual channel to Kencoed’ a ‘the trench made by Richard Davies about 30 years past to convey water to Kencoed’; tra cyfeirir hefyd at ‘the reservoir of water for watering Cae-cwm-yr-hen-dŷ Issa and other lands of Dolecothy demesne’ ac ‘a trench to convey water to Cae Rodyn & other lands of Dolecothy demesne in winter and spring for watering the same’.

Roedd ystadau Dolaucothi a Kencoed wedi ailgyfeirio neu sianelu’r afon i gwrdd â’u hanghenion, gyda nodiadau’n cyfeirio at y canlynol:

– ‘The place the water formerly divided, part going to the mill and the remainder thro Henberllan to Dolecothy mansion’;
– ‘The channel of the watercourse formerly in the upper part of Cae Rodyn and Cae Tŷ Bach’;
– ‘That part of the trench which conveyed the water by Waynnefain hedge, years past & upwards’;
– ‘A trench that formerly conveyed the water to Dolecothy’.

Fodd bynnag, nid oedd y cynlluniau’n gydnaws â’i gilydd, gan arwain at anghydfod ynghylch yr adnoddau dŵr. Mae un o’r nodiadau’n crybwyll ‘the new trench cut by Mr. Johnes and ye water diverted from thence by Mr. Davys’ servants to the ancient channel’; ac mae eraill yn cyfeirio at ‘the trench that conveys the water in dispute to Kencoed’ a ‘the trench for conveying the water in dispute to water Cae-cwm-yr-hen-dŷ Issa and other lands at Dolecothy demesne.’ Yn ogystal â’r anghydfod ynghylch y dŵr, roedd y gwahanol gynlluniau a oedd wedi arwain at ailgyfeirio’r afon wedi symud, neu o leiaf gymhlethu, y terfyn rhwng y ddwy ystâd, gydag un o’r nodiadau’n cyfeirio at ‘the piece of land in dispute’.

Ni wyddys beth oedd canlyniad yr achos yn y Sesiwn Fawr, er bod y map yn rhoi’r argraff nad oedd yr ardal yn gallu cynnal honiadau’r ddwy ystâd gymdogol. Nid yw’n syndod efallai i Kencoed a’r tiroedd o’i gwmpas gael eu prynu gan ystâd Dolaucothi yn 1856 (Dolaucothi Estate Records, 179). Roedd agosrwydd Kencoed i’r ystâd fwy, yn ogystal â’r gystadleuaeth roedd yn ei achosi o ran defnyddio’r afon, yn ysgogiad sylweddol i gyfuno’r ddwy ystâd, gan lyncu’r tiroedd a dod â hwy o fewn cylch awdurdod Dolaucothi.

Dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn bwriadu hyrwyddo ymchwil bellach i gasgliadau Cymru o fapiau ystadau. I gael gwybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith, newyddion a digwyddiadau, anfonwch e-bost at iswe@bangor.ac.uk i danysgrifio i’n rhestr ohebu.

Postiwyd - 02-08-2018

#CaruMapiau / Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau

#CaruMapiau – Shaun Evans

Dr Shaun Evans yw Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, sef canolfan ymchwil Cymru gyfan ym Mhrifysgol Bangor sy’n edrych ar faterion yn ymwneud â hanes, diwylliant a thirweddau Cymru, drwy lygaid yr ystadau a’u casgliadau treftadaeth ddiwylliannol.  @YstadauCymru

Coed a choetiroedd

Roedd yr hanesydd a’r ecolegydd Oliver Rackham (1939-2015) yn honni mai’r unig ffodd y gellir deall natur coetiroedd yw trwy brosesau hanesyddol. Yng nghyd-destun Cymru, nid yw’r ddealltwriaeth o’r safbwyntiau hanesyddol hyn wedi’i datblygu gymaint ag y gallai, ac mae’n parhau’n ddibynnol iawn ar waith hollbwysig William Linnard yn Welsh Woodlands and Forests: History and Utilization (1982).

Cyn yr 20fed ganrif roedd y mwyafrif llethol o goetiroedd a choed yng Nghymru wedi’u lleoli ar diroedd a oedd yn eiddo i ystadau bonedd. Mae map o ddemên Bodrhyddan yn Sir y Fflint, sydd wedi ei gynnwys mewn atlas o’r ystadau yn dyddio o 1756, yn rhoi rhywfaint o syniad o le blaenllaw coed a choetiroedd yn nhirweddau’r ystadau. Yma, mae coed yn rhan allweddol o’r gerddi sy’n amgylchynu Bodrhyddan; gwelir eu bod ar hyd ochr y brif ffordd at y tŷ ac ar hyd y llwybrau a’r lonydd eraill; saif ambell goeden fawr (coed derw mwy na thebyg) yn y parcdir; mae ardaloedd bychain o goedlannau a phorfeydd coediog; gwelir bod coed yn nodi hen ffiniau caeau; ac maent yn rhan o’r gwrychoedd.


Ers yr oesoedd canol, bu coetiroedd yn rhan bwysig o dirweddau hamdden uchelwyr; roedd coedwigoedd canoloesol yn rhan annatod o hela. Yn ddiweddarach, roedd coed a choetiroedd yn aml yn rhan hanfodol o greu tirweddau wedi’u dylunio, gyda phwyslais ar yr hardd a’r anhygoel. Gwelir awgrym clir o hyn yng nghynllun John Davenport yn 1791 o welliannau arfaethedig yn Nanteos, plasty Thomas Powell yn Sir Aberteifi. Ni chafodd y cynllun ei weithredu, ond mae’n dangos safle a rhywogaethau’r coedd a oedd i’w plannu neu eu cadw i greu’r dirwedd esthetig ddymunol.



Roedd pwyslais symbolaidd pwysig ar goed unigol mewn nifer o’r ystadau. Roedd Ceubren yr Ellyll, derwen gau fawr ar ystâd Nannau yn Sir Feirionnydd, yn ymgorffori chwedl a oedd wrth wraidd hunaniaeth y teulu Vaughan. Credwyd mai yn y fan hon y gorweddai ysgerbwd ac ysbryd Hywel Sele (un o hynafiaid teulu’r Vaughan) a laddwyd gan Glyndŵr ar ôl gweithred fradwrus. Ar ôl i’r hen goeden dderw ddisgyn yn 1813, defnyddiwyd y pren i greu amrywiaeth o drysorau teuluol ar gyfer y Vaughaniaid, yn cynnwys set o chwe chwpan llwncdestun ar ffurf mes, a oedd yn symbol o gysylltiadau pwysig â hynafiaeth a thir, sef eu bod wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn yr ardal leol. Mae enghreifftiau niferus o’r math yma. Mae’n arwyddocaol, bod Meredith Hughes yn ei fap yn 1774 o ystâd Bachymbyd yn Sir Ddinbych, wedi sicrhau bod tair castanwydden o’r enw ‘Y Tair Chwaer i’w gweld yn y tiroedd islaw Bachymbyd. Yn ôl chwedl deuluol, plannwyd y coed ar ddiwedd y 17eg ganrif gan dair chwaer o’r teulu Salesbury i nodi eu cariad a’u hoffter o’i gilydd. Yn yr un modd â Derwen Nannau, mae’n enghraifft o berchnogion yr ystâd yn cysylltu rhannau o’u hunaniaeth â choed ar eu tir.



Yn ogystal â’u harwyddocâd esthetig a diwylliannol, roedd coed a choetiroedd yn chwarae rôl economaidd bwysig yng ngweithrediad yr ystadau. O gyfnod cynnar, roeddent yn aml yn cael eu rheoli’n ddwys, yn bennaf trwy docio a phrysgoedio er mwyn darparu amrywiaeth enfawr o gynhyrchion, tanwydd a bwyd yn amrywio o siarcol, i goed pensaernïol, mes ar gyfer porthiant anifeiliaid a rhisgl ar gyfer trin crwyn. Roedd coetiroedd yn gallu bod yn asedau economaidd gwerthfawr i’r ystadau ac roeddent yn aml yn cael eu diogelu’n ffyrnig gan landlordiaid a’u hasiantau. Gwelir tystiolaeth o’u harwyddocâd economaidd gan benderfyniad rhai teuluoedd i gomisiynu mapiau yn benodol am y coetiroedd yn eu perchnogaeth. Enghraifft dda o hyn yw map 1774 o Goed Canaston, sy’n gysylltiedig ag ystâd Slebech yn Sir Benfro.

Daeth coedwigaeth yn rhan fawr o waith rhai ystadau, yn arbennig o’r 19eg ganrif, a gwelir hyn gyda chynlluniau coedwigo enfawr, cyflogi mwy o goedwigwyr proffesiynol (yn enwedig o’r Alban) a sefydlu melinau mawr ar yr ystadau.

Mae dogfennau ystadau, yn cynnwys mapiau ystadau, yn chwarae rhan hollbwysig i wella ein dealltwriaeth o’r ‘prosesau hanesyddol’ sy’n sail i asedau coetiroedd Cymru. Yn y Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ym Mhrifysgol Bangor, rydym yn dechrau ystyried rhai o’r cyfleoedd ymchwil sy’n cydgysylltu ecoleg, hanes, coedwigaeth, rheoli tir ac archifau – gan gysylltu ymchwil gyda pholisi ac ymarfer. Yn gynharach eleni, gwnaethom greu partneriaeth gyda Chymdeithas Myfyrwyr Coedwigaeth Bangor (BFSA)  a’r elusen Treftadaeth Coetiroedd  i drefnu digwyddiad oedd yn canolbwyntio ar orffennol, presennol a dyfodol rheoli coetiroedd. Hynny yw, sut y gellir defnyddio gwell dealltwriaeth o fframwaith hanesyddol rheoli coetiroedd ar ystadau Cymru i hyrwyddo egwyddorion rheoli coetiroedd cynaliadwy yn yr 21ain ganrif yng Nghymru?

Un ffordd bwysig y gall mapiau ystadau gyfrannu at yr agenda hwn yw trwy’r Rhestr Coetiroedd Hynafol (AWI) , a reolir gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r set ddata hon yn nodi ardaloedd yng Nghymru sydd wedi eu gorchuddio’n barhaus â choetiroedd ers tua 1600, gan felly cynhyrchu ecosystemau sy’n tueddu i fod yn fwy amrywiol o ran ecoleg, yn bwysig o ran diwylliant ac yn haeddu cael eu hamddiffyn. Hyd yma, mae’r Rhestr o Goetiroedd Hynafol yng Nghymru wedi ei seilio’n bennaf ar y coetiroedd a farciwyd ar fapiau OS o’r 19eg ganrif. Mae’n ymddangos bod cyfle gwirioneddol i archwilio sut y gellir defnyddio mapiau cynharach o ystadau (a dogfennau cysylltiedig o ystadau) i wella cywirdeb, sylw, dyfnder a manylion y Rhestr o Goetiroedd Hynafol, gan gynnwys nodi sut mae ffiniau coetiroedd wedi newid dros amser a dynodi’r ‘hen’ goed.

Dyma un o’r gwahanol ffyrdd y gellir defnyddio hen fapiau ystadau fel adnodd defnyddiol ar gyfer dyfodol tir Cymru.

Postiwyd - 26-07-2018

#CaruMapiau / Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau

#CaruMapiau – Shaun Evans

Dr. Shaun Evans yw Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, canolfan ymchwil Cymru Gyfan a leolir ym Mhrifysgol Bangor ac sy’n ymchwilio i faterion yn ymwneud â hanes, diwylliant a thirweddau Cymru, trwy brismau ystadau a’u casgliadau o dreftadaeth ddiwylliannol.  @YstadauCymru

Map 17eg ganrif o Whitlera, Sir Gaerfyrddin

Yn fy mlog diwethaf soniais mai ond o ganol y 18fed ganrif mewn gwirionedd y cynyddodd y comisiynau ar gyfer mapiau ystadau yng Nghymru.  Cymharol brin yw’r enghreifftiau o’r ddwy ganrif gynt.

Yn ei chasgliadau, mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru lond llaw o fapiau ystâd o’r 16eg a’r 17eg canrifoedd gan gynnwys map Humfrey Bleaze o diriogaeth Castell Powys a gwblhawyd yn 1629 ac arolwg Robert Johnson 1587 o faenorau Iarll Caerwrangon yng Nghrucywel a Thre-tŵr yn Sir Frycheiniog.

Mae arolwg Robert Johnson yn arwyddocaol am ei fod yn crynhoi’n daclus y symud o’r disgrifiad testunol  i ddarluniad cartograffig.  Yn arferol, byddai arolygon traddodiadol o ystadau yn cynnwys disgrifiadau ysgrifenedig a oedd yn nodi manylion megis enwau, maint a chyfansoddiad ffermydd unigol, enwau’r tenantiaid, y rhent blynyddol a manylion unrhyw arferion a berthynai i’r tir.   Mae arolwg Johnson yn cyfuno’r ffurf hwn o arolwg testunol â set o fapiau wedi’u cynhyrchu’n gain gan greu enghraifft gynnar o’r hyn oedd yn ei hanfod yn ‘atlas’ o’r ystâd.   Roedd map Humfrey Bleaze o ystâd Gastell Powys yn gynnyrch o fath gwahanol:  un ddalen fawr o felwm yn darlunio prif nodweddion tirwedd yr ystâd, gydag enw a maint y caeau (mewn aceri, ffyrdd a chlwydi) wedi’u hysgythru ar wyneb y ddogfen.  Roedd y ddau gynnyrch hyn yn cael eu comisiynu’n benodol gan y tirfeddianwyr, gyda’r bwriad o’u defnyddio a’u harddangos am dymor hir.

Serch hynny, mae yna fathau eraill o fapiau ystadau cynnar a oedd at ei gilydd yn llai nodedig.  Un enghraifft a welir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw’r map pen ac inc syml o Whitlera ym mhlwyf Llanfynydd, Sir Gaerfyrddin sy’n ymddangos fel pe bai’n dyddio o ganol y 17eg ganrif.  Mae’r map wedi’i fraslunio ar ddalen sengl o bapur sy’n dangos  ‘the mease [h.y. tŷ] of Whitlera’,  ynghyd ag adeilad cyfagos a’r tiroedd gerllaw.

Mae sawl nodwedd arall o’r dirwedd yn cael ei darlunio gan gynnwys yr Afon Sannan a ‘the hie waye’.   Yn rhai o’r caeau dangosir rhesi o farciau sy’n ymdrech efallai i ddangos eu bod wedi cael eu haredig.  Mae ardaloedd eraill yn cynnwys clystyrau o  ‘furrs’ [eithin], sy’n awgrymu tir diffaith heb ei drin.  Hefyd, darlunnir nifer o goed sy’n amrywio o’r hyn sy’n ymddangos fel llain o goetir bychan i goeden enfawr sy’n sefyll ar ei phen ei hun yng nghanol un o’r caeau a nifer o goed llai yn ffurfio rhan o un o’r ffiniau gwrychoedd.  Mae’r gwrychoedd pigog hyn (sydd o bosibl yn debyg i’r ddraenen wen) yn amgylchynu pob cae,  a cheir ymdrech amlwg yma i ddarlunio clawdd mwy hirsefydlog i’r dwyrain.

Mae enwau rhai o’r caeau wedi’u marcio ar y map, megis ‘kae dan y ty’, ‘kae trwynvain’, ‘wayn bwll’ a ‘kaer ddintir’.   Mae mwyafrif y caeau hyn wedi’u marcio fel ‘whitleras lande’ – sy’n dangos eu cysylltiad â’r tŷ.   Serch hynny,  doedd y tiroedd a gafodd eu cynnwys ar y map ddim wedi’u hymgorffori dan berchnogaeth un unigolyn neu ystâd;  roedd ‘tir whitleras’ yn gymysg â thir  ‘Owen ap Hennri & Mallt verch Wallter ap Thomas’, ‘Kae Koch, being the lande of Ieuan Lloyd ap Gwillym Vychan’ ac wedi’i amgylchynu i’r de gan diroedd ‘Sir William Thomas, Knight’.

Prif bwrpas y map oedd darlunio maint a ffiniau’r tiroedd oedd yn gysylltiedig â Whitlera.  O’i gymharu ag arolwg 1587 Robert Johnson o Grucywel a Thre-tŵr a map Humfrey Bleaze o Gastell Powys, mae llai o bwyslais ar arddangosiad.  Yn wir, roedd y map wedi’i blygu a’i gadw fel rhan o gasgliad gweithredoedd a dogfennau’n ymwneud â Whitlera.   Y cofnodion cysylltiedig hyn sy’n rhoi rhywfaint o syniad i ni pam efallai fod y map wedi’i lunio yn y lle cyntaf.

Ers  o leiaf ddechrau’r  16eg ganrif roedd perchenogaeth Whitlera  yn destun dadlau ac achosion cyfreithiol.  Yn 1604 daeth Richard ap Rutherch ac eraill ag achos cyfreithiol yn Llys Cyngor Cymru a’r Gororau i ddatrys yr hawl i breswylfod  a thiroedd Whitlera.  Chwe blynedd yn ddiweddarach, roedd Llys y Sesiwn Fawr yn barnu ynghylch honiad o dresmasu ar diroedd o gwmpas Whitlera.  Erbyn y 1620au, roedd tŷ Whitlera a rhywfaint o’r tiroedd cyfagos dan berchenogaeth Thomas ap Richard ap Ruddergh a’i fab ac etifedd, William Thomas ap Ruddergh.  Yn 1627 mae’n ymddangos iddynt werthu’r tiroedd i Griffith Lewis, henadur yng Nghaerfyrddin, a werthodd y tiroedd rhyw ddwy flynedd yn ddiweddarach i Thomas Newsham, Abersannan.  Yn ystod yr ychydig ddegawdau nesaf codwyd morgais ar y tiroedd yn rheolaidd hyd nes i Nicholas Williams, Rhydodyn (Edwinsford) eu meddiannu ym mhen hir a hwyr yn y 1670au.

Mae’r cofnodion sy’n ymwneud â’r trafodion hyn yn ffurfio rhan o Archif Ystâd Edwinsford ac maen nhw’n rhoi cyd-destun defnyddiol i ni am y rheswm i greu’r map.  Yn ystod y 16eg a’r 17eg canrifoedd, doedd hi ddim yn anghyffredin i gomisiynu mapiau fel tystiolaeth i ategu achosion llys yn ymwneud â pherchenogaeth tir.  Mae’n bosibl bod y map wedi’i lunio fel rhan o’r achosion a glywyd gan y Cyngor yn Y Mers yng Nghymru neu yn y Sesiwn Fawr.   Fodd bynnag, o ystyried ansicrwydd y gorffennol ynghylch perchenogaeth y tiroedd, mae’n fwy tebygol bod naill ai Griffith Lewis, Thomas Newsham neu Nicholas Williams wedi gwneud cais am y map i’w atodi at y gweithredoedd gan dystiolaethu i’w meddiant hwy o’r tiroedd.   Yn y naill achos neu’r llall, mae’n amlwg nad oes modd dirnad y map yn llwyr heb gyfeirio at y corff ehangach o gofnodion sy’n ymwneud â hanes perchenogaeth Whitlera.  Mae’r cyd-destun yn allweddol.

 

Postiwyd - 23-07-2018

Collections / Newyddion a Digwyddiadau

Cwlwm Celtaidd

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnal ail gynhadledd ieithoedd Wicipedia

Ar y 5ed a’r 6ed o Orffennaf, cynhaliodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ail gynhadledd Cwlwm Celtaidd, Cynhadledd iaith Wicipedia.

 

Mae’r gynhadledd yn eithaf unigryw yn ei huchelgais – gyda’r ffocws ar sut y gall ieithoedd bach a lleiafrifol dyfu a datblygu Wicipedia a phrosiectau Wikimedia eraill yn eu hieithoedd nhw.

 

Mae Wicipedia ar gael mewn bron i 300 o ieithoedd ond dim ond llond llaw o olygyddion a mil neu ddwy o erthyglau sydd gan rai. Mae’r heriau sydd yn wynebu’r cymunedau hyn yn aml yn wahanol iawn i’r rhai sy’n wynebu Wicipedias lawer mwy. Canolbwyntiodd cynhadledd Cwlwm Celtaidd ar drafod a mynd i’r afael â rhai o’r materion hyn, megis cefnogaeth dechnegol, adeiladu cymunedau a phartneriaethau.

 

Mynychodd 55 o gynrychiolwyr rhyngwladol y gynhadledd, gyda phobl yn mynychu o Ddwyrain Affrica, Norwy, Sbaen a’r Almaen er enghraifft. Cynrychiolwyd y Gwledydd Celtaidd yn dda hefyd, gyda chynrychiolwyr o Iwerddon, yr Alban, Cernyw, Llydaw ac, wrth gwrs, Cymru. Rydym yn ddiolchgar i’r Wikimedia Foundation am ariannu nifer o ysgoloriaethau a oedd yn ein galluogi i helpu gwirfoddolwyr i deithio i’r digwyddiad.

 

 

Mynychwyr yn cael ei croesawi i’r gynhadledd gan  Jason Evans, Wicimediwr Cenedlaethol

Roedd y diwrnod cyntaf yn cynnwys rhaglen strwythuredig o gyflwyniadau a gweithdai, a chafodd y gynhadledd ei hagor gan Eluned Morgan AC, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, a siaradodd yn gadarnhaol iawn am Wicipedia fel ffordd o gefnogi datblygu’r Gymraeg. A siaradodd hi am bwysigrwydd y gwaith y mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi’i wneud yn y maes hwn, diolch yn rhannol i gyllid Llywodraeth Cymru.

 

Eluned Morgan AS yn siarad am werth Wicipedia i gynnal mynediad i wybodaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Siaradodd rheolwr Cymru Wikimedia UK, Robin Owain, yn eiddgar fel arfer, am dŵf Wicipedia Cymru. Siaradodd y Gweinidog, Robin a sawl un arall yn Gymraeg gyda chyfieithu ar y pryd ac roedd y gynulleidfa’n mwynhau gwrando ar yr iaith Gymraeg, gyda rhai yn ei glywed am y tro cyntaf.

 

Cawsom nifer o gyflwyniadau a gweithdai ysbrydoledig yn ystod y dydd. Cynhaliodd Ewan MacAndrew o Brifysgol Caeredin weithdy cyfieithu ac roedd nifer o sgyrsiau a gweithdai Wikidata dan arweiniad Lea Lacroix o Wikimedia Deutschland. Roedd cyflwyniadau’n tynnu sylw at ddefnydd Wikipedia ar gyfer addysg, neu mewn addysg, yn arbennig o boblogaidd gydag Aaron Morris o Wici Môn yn trafod effaith ei waith gyda phlant ysgol, a Koldo Biguri o grŵp defnyddwyr Wikimedia Gwlad y Basg yn sôn am y Wicipedia Basgeg i blant, neu ‘Txikipedia ‘. Amlygwyd ymhellach y gwaith gwych mae’r gymuned Basgeg wedi gwneud yn y maes yma gan Inaki Lopez deLuzuriaga a siaradodd am eu rhaglen addysg ehangach, a gefnogir gan Lywodraeth Gwlad y Basg.

 

Pau Cabot o Gatalonia yn trafod defnyddio Wikidata i awtomeiddio gwybodlen ar Wicipedia.

 

Ar ôl diwrnod hir, cafodd y cynrychiolwyr daith ar Reilffordd Clogwyn Aberystwyth ar gyfer bwyd a diodydd yng nghaffi Y Consti. Roedd côr Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn garedig iawn yno i’n diddanu â chaneuon traddodiadol Cymreig cyn i ni gael gwers dawnsio gwerin Llydaweg!

 

Grŵp o mynychwyr yn trafod yn hwyr i mewn i’r nosweth.

Ar yr ail ddiwrnod fe gychwynom ni gyda chyflwyniad am y Wicipedia Gwyddelig a thaith trwy fylchau iaith ar Wikidata, gan ysgolhaig preswyl Wikidata y Llyfrgell, Simon Cobb. Un o’m uchafbwyntiau personol oedd cyflwyniad fideo gan Subhanshish Panigrahi, archwilydd National Geographic sy’n gweithio gydag Wikimedia India. Canolbwyntiodd ei sgwrs ar bwysigrwydd cofnodi a diogelu ieithoedd mewn perygl, a thynnodd sylw at dafodiaith Indiaid sydd â dim ond un siaradwr. I mi, roedd hyn yn dangos y pwysigrwydd o gefnogi ac annog y defnydd o ieithoedd lleiafrifol cyn i’w defnydd ddisgyn i lefelau anghynaladwy.

 

Ar ôl cinio, fe gynhaliwyd sesiwn anffurfiol ‘unconference’, lle mae cynrychiolwyr yn gosod eu hagenda eu hunain. Roedd yna weithdai data, trafodaethau strategaeth, sgyrsiau mellt a hyd yn oed daith o amgylch y Llyfrgell. Roedd cynrychiolwyr o Gernyw wrth eu bodd o weld llawysgrifau iaith Cernyweg pwysig o gasgliad y Llyfrgell.

 

Yn trefni’r sesiynau di-cynhadledd.

 

Daethom ynghyd unwaith eto am drafodaeth grŵp cynhyrchiol cyn i’r Llyfrgellydd Cenedlaethol Linda Tomos gau’r gynhadledd gyda sgwrs wych am bwysigrwydd gwaith y Llyfrgelloedd Cenedlaethol gyda Wikipedia a thaith rithiol trwy rai o brif gasgliadau a thrysorau’r Llyfrgell.

 

Mae adborth gan gynrychiolwyr yn awgrymu bod y gynhadledd yn llwyddiant ysgubol, a dywedodd pawb y byddent yn mynychu’r gynhadledd eto’r flwyddyn nesaf. Felly byddwn yn parhau i weithio efo’r gymuned i ddod o hyd i gartref addas ar gyfer y gynhadledd y flwyddyn nesaf, ac mae Wikimedia Norge wedi cytuno’n garedig i edrych mewn i gynnal y gynhadledd yn 2020. Rydym yn gobeithio’n fawr y bydd y gynhadledd, ac ieithoedd lleiafrifol yn gallu parhau i dyfu dros y blynyddoedd nesaf, a diolchwn i bawb a fu’n rhan o wneud y digwyddiad eleni mor llwyddiannus.

 

Gan Jason Evans

Wicimediwr Cenedlaethol

Tagiau: , , , ,

Postiwyd - 19-07-2018

#CaruMapiau / Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau

#CaruMapiau – Dr Shaun Evans

Mae Dr. Shaun Evans yn Gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru canolfan ymchwil Cymru gyfan sy’n edrych ar faterion yn ymwneud â hanes, diwylliant a thirweddau Cymru, drwy ystadau a’u casgliadau treftadaeth ddiwylliannol.  @YstadauCymru

Mapiau Ystadau Cymru 1: Eiddo, Lle a Phŵer

Yn ei lyfr dylanwadol, Social Formation and Symbolic Landscape, mae’r daearyddwr diwylliannol Denis E. Cosgrove (1948-2008) yn gwneud honiad pwysig:

‘Landscape constitutes a discourse, through which social groups historically have framed themselves and their relations with both the land, and with other human groups’.

Mae’r gosodiad hwn yn gwbl berthnasol i ystadau tir, oedd yn strwythurau pwysig ym mywyd Cymru o ddiwedd y cyfnod canoloesol, hyd at ddegawdau cynnar yr 20fed ganrif. O Fostyn, Penrhyn, Baron Hill a Nannau yn y gogledd, ar draws tiroedd eang Wynnstay, Castell Powis ar y ffin, Trawsgoed a Gogerddan yng Nghanolbarth Cymru ac ymlaen i diroedd Biwt, Tredegar, Cawdor a Plymouth ymhellach i’r de – mae bob cwr o Gymru bron iawn wedi’i ddylanwadu gan flaenoriaethau ystadau. Mae’r ystadau hyn yn amrywio o ran ffurf a maint, gyda’u cymeriad a’u cyfansoddiad wedi’i greu gan ddiddordebau, hunaniaeth a dylanwad eu perchnogion a natur eu lleoliadau daearyddol a chymunedol.

Roedd mapiau ystadau , a ddatblygwyd yn Lloegr o’r 1570au ac a ddaeth yn fwy cyffredin yng Nghymru o ganol y 18fed ganrif, yn rhan o’r cofnodion cyfoethog ac amrywiol a gynhyrchwyd gan yr ystadau hyn yn ystod eu cyfnod. Mae nifer o’r cofnodion hyn wedi goroesi ymysg cannoedd yr archifau ystadau a chasgliadau cyfreithwyr a adneuwyd mewn cadwrfeydd fel y Llyfrgell Genedlaethol, Archifau Prifysgol Bangor ac archifdai drwy Gymru.

Mae’r archifau ystadau hyn yn cynnwys amrywiaeth enfawr o fathau o gofnodion: gweithredoedd eiddo, setliadau, ewyllysiau, arolygon, rhenti, prydlesi, cyfrifon, gohebiaeth, derbyniadau, papurau cyfreithiol, cynlluniau pensaernïol, dogfennau amgaeedig a chomisiynau swyddogol – weithiau’n ymestyn ar draws canrifoedd. Cynhyrchwyd y cofnodion hyn fel rhan o’r broses o brynu, datblygu a rheoli ystadau, ac i sicrhau eu bod yn cael eu trosglwyddo drwy etifeddiaeth.

Ni ddylid ystyried arolygon a mapiau ystadau ar wahân i weddill y cofnodion cysylltiedig sydd o fewn archifau ystadau. O’u dadansoddi yn y cyd-destun hwn, maent yn rhoi gwybodaeth werthfawr o’r modd yr oedd perchnogion ystadau Cymru’n meddiannu, ffurfio a siapio’r dirwedd mewn ffyrdd oedd yn cyfleu eu hunaniaeth: eu gwerthoedd cymdeithasol, gwleidyddol, crefyddol ac economaidd; eu statws, eu chwaeth, eu pŵer a’u cyfoeth.

Yn aml crëwyd y mapiau hyn fel dogfennau a gâi eu harddangos a’u defnyddio mewn swyddfeydd ystadau i helpu i reoli tir a etifeddwyd, gan roi delweddau gweledol a gynrychiolai’r diriogaeth ym meddiant perchnogion yr ystadau a’u hasiantau. Wrth ysgrifennu at Owen Meyrick o Fodorgan yn 1725, cyfeiriodd yr amryddawn Lewis Morris (1701-65) ar yr arolwg yr oedd newydd ei gwblhau o ‘r ystâd ym Môn, gan ymfalchïo ‘he can scarce believe that ever a gentleman hath such an insight of his estates as he is likely to have from these maps’.  Mae’r defnydd a wnaed o’r mapiau fel cyfrwng i reoli ystâd i’w weld yn y newidiadau a wnaed yn aml iddynt dros y blynyddoedd: marciau pensil yn dangos newidiadau terfynau, gwerthiant, tenantiaid newydd neu gyfeiriadau at gofnodion eraill a gedwid yn yr ystafell hawlysgrifau.


Am ganrifoedd, roedd bod yn berchen tir yn arwydd amlwg o statws a phŵer yng nghymdeithas Cymru. Roedd y gallu i gadw eu rheolaeth o’r tir hwn, ychwanegu ato a’i drosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol o’r un ‘gwaed ac enw’ yn sail i’r llinachau hynny oedd yn amlwg yng nghymdeithas Cymru nes daeth nifer o’r ystadau i ben ar ddechrau’r 20tfed ganrif.  Ynghyd â chofnodion fel prisiadau a rhenti, gall arolygon a mapiau ystadau ddangos faint o diriogaeth yr oedd gan unigolyn ddylanwad drosto: ac os yw’n rhan o gyfres gronolegol hir o gofnodion, gall ddangos sut y bu i deuluoedd brynu, ehangu, atgyfnerthu, ‘gwella’ neu’n wir, golli eu buddiannau dros genedlaethau olynol. Yn aml câi mapiau eu comisiynu ar adeg o newid: pan gâi eiddo neu dir ei etifeddu, ei brynu neu ei werthu, neu’n wir i ddarparu glasbrintiau ar gyfer gwaith yn y dyfodol. Felly roedd mapiau ystâd ynghlwm ag ymwybyddiaeth o falchder mewn llinach a thiriogaeth, a hynny wedi’i fynegi’n amlwg drwy arddangos eu harfbais a symbolau herodrol eraill ar flaen y ddogfen.

Yn ogystal â dangos maint ystâd (neu ran ohoni) mae’r mapiau hyn hefyd yn rhoi gwybodaeth werthfawr ynglŷn â sut yr oedd eu perchnogion yn cadarnhau eu tiriogaeth i gael mwy o gyfoeth a sefydlu eu hunaniaeth – eu pŵer a’u statws – o fewn y dirwedd. Nid yw’n syndod mai’r plas yw’r nodwedd amlycaf fel arfer ar fapiau ystâd – gan adlewyrchu ei bwysigrwydd yn yr ardal a’i statws fel y prif symbol pensaernïol o ddylanwad ei berchennog ar y gymuned gyfagos. Yn wir, caiff disgrifiadau manwl o blastai yn aml eu cynnwys ar ymylon mapiau ystadau.


Yn ogystal â’r plas a’i adeiladau allan, gerddi a pharcdir, gall mapiau ystadau hefyd ddangos ffermydd, caeau, ffyrdd, coetiroedd, melinau, eglwysi, trefi, waliau, pyllau, coed, terfynau, pontydd, safleoedd diwydiannol fel pyllau a chwareli ac weithiau, golygfeydd o dda byw a helfeydd hyd yn oed. Roedd yr holl nodweddion ffisegol hyn yn cael eu ffurfio gan flaenoriaethau’r ystâd yr oeddent yn perthyn iddi ac yn ei gwasanaethu, i raddau amrywiol, i gynnwys gwerthoedd a chysyniadau penodol yn y dirwedd. Bu i rai perchnogion ystadau fuddsoddi arian ac amser sylweddol yn creu Tirweddau wedi’u Dylunio, neu gynlluniau ‘gwella’. Mae map a argraffwyd o ystâd Hafod, a gynhyrchwyd i gyd-fynd â gwaith George Cumberland Attempt to Describe Hafod (1796), yn dangos ymdrech Thomas Johnes’ (1748-1816) i amlygu nodweddion pictiwrésg ei ddaliadau, gyda nifer o ‘lwybrau’ a ‘golygfannau’ wedi’u cynnwys ar y map. Mae pob map ystâd yn awgrymu ffyrdd yr oedd ystadau’n cyfrannu at greu lle.


Maent hefyd yn giplun o’r theatr lle’r oedd teuluoedd elitaidd Cymru’n datblygu a negodi’r cysylltiadau cymdeithasol a chymunedol hollbwysig hynny – gyda thenantiaid, cymdogion, clerigwyr lleol, gweision a staff – oedd yn sail i’w statws mewn cymdeithas leol. Weithiau mae enwau tenantiaid neu ddaliadau wedi’u harysgrifio ar y mapiau neu’n cael eu cynnwys mewn dogfennau ategol (sy’n aml ar goll), weithiau gyda manylion prydlesi, rhenti a gwasanaethau. Roedd pobl yn byw ar yr ystadau tir a ddangoswyd gan fapiau, gyda bythynnod a ffermydd yn cynnig cartref i bobl a gweithgareddau ehangach yr ystâd yn cynnal gwaith a chyflogaeth amrywiol.

Yn yr ystyr hwn mae’r mapiau’n darparu pwyntiau mynediad unigryw i ymchwilio i’r drafodaeth rhwng pŵer, pobl a lle sy’n sail i greu’r tirweddau symbolaidd a’r strwythurau cymdeithasol a drafodir gan Cosgrove.

Er gwaethaf gwaith rhagorol Bob Silvester ychydig iawn o ymchwil a wnaed i fapiau ystadau Cymru, er gwaetha’r wybodaeth helaeth y gallant ei chyfrannu  i hanes tirwedd Cymru. Yn Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, gobeithio y gallwn chwarae ein rhan i wneud iawn am y diffyg hwn yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Darllen Pellach:

Sarah A. Bendall, Maps, Land and Society: A history, with a carto-bibliography, of Cambridgeshire estate maps, 1600-1836 (Cambridge, 1992)

Denis E. Cosgrove, Social Formation and Symbolic Landscape (2il argraffiad., Madison, 1998)

P.D.A. Harvey, ‘English Estate Maps: Their early history and their use as historical evidence’, in David Buisseret (ed.), Rural Images: Estate Maps in the Old and New Worlds (Chicago, 1996), 27-61

Colin Thomas, ‘Estate Surveys as Sources in Historical Geography’, Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru 14, 4 (Rhagfyr, 1966), 451-69

Hilary M. Thomas, A Catalogue of Glamorgan Estate Maps (Caerdydd, 1992)

R.J. Silvester, Mapping Montgomeryshire: Estate maps from 1589 to 1840’, Montgomeryshire Collections 100 (2012), 149-80.

Postiwyd - 28-06-2018

#CaruMapiau / Casgliadau / Newyddion a Digwyddiadau

#CaruMapiau – Mary-Ann Constantine

Mae Mary-Ann Constantine yn Ddarllenydd yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae hi’n gweithio ym maes llên Cymru y ddeunawfed ganrif ac ar hyn o bryd mae hi’n arwain prosiect wedi ei ariannu gan yr AHRC: Teithwyr Chwilfrydig: Thomas Pennant a Theithio yng Nghymru a’r Alban 1760-1820.

Ymatebion i’r Map of North Wales 1797 gan John Evans.

Pan ddisgrifiodd Thomas Pennant yr olygfa o gopa’r Wyddfa ar ddiwrnod anarferol o glir, fe’i cyflwynodd fel map:

In a former tour, I saw from it the county of Chester, the high hills of Yorkshire, part of the north of England, Scotland, and Ireland: a plain view of the Isle of Man; and that of Anglesea lay extended like a map beneath us, with every rill visible. I took much pains to see this prospect to advantage; sat up at a farm on the west till about twelve, and walked up the whole way.

Disgrifir golygfeydd estynedig tebyg gan deithwyr eraill yng Nghymru yn yr un modd, gan ddefnyddio’r syniad o ‘fap’ fel metaffor. Yn aml iawn, mewn gwirionedd, maent yn benthyg delwedd Pennant ei hun, yn enwedig wrth sefyll yn yr un lle ar ben yr Wyddfa. Er yn besimistaidd iawn am y posibiliadau o weld unrhyw beth o gwbl lan fan ’na, cyfaddefodd Henry Wigstead ‘when the prospect is unobstructed, it is the most wonderful map imagination can form.’

Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif ceir rhagor o gyfeiriadau at ddefnyddio mapiau go-iawn, wrth i bobl gynllunio eu teithiau a dehongli’r dirwedd o’u cwmpas. Weithiau, gwelir gwahaniaethau sylweddol rhwng y ffordd mae mapiau yn dangos llefydd, a’r tir ei hun. Cafodd William Hutton sbort wrth ymweld â ‘Dinas Mouddy’ (Dinas Mawddwy), pentre bach brwnt a di-nod oedd arfer bod o ‘considerable eminence in the scale of Welch towns’. ‘I had observed also’, meddai’n ddireidus, ‘its name distinguished with bold letters in our maps’. Ar dramp trwy fynyddoedd Eryri darganfyddodd, mewn ffordd ddramatig, pa mor annigonol gall mapiau’r cyfnod fod am ddangos uchder tir. Yn syth ar ôl iddo longyfarch ei hun ar adnabod ‘a sheet of water, a mile long, and three quarters wide […] which, by the map, I knew must be Ogwen Pool’, dyma fe mewn sefyllfa annisgwyl:

But what was my surprize, when, at the extremity of the pool, I instantly found myself upon a precipice two hundred feet high, and burst, in a moment, upon a most beautiful valley, nearly one mile wide and four long.

Ni phrofodd y daearegydd Arthur Aiken yr un ‘surprize’, am ei fod wedi paratoi o flaen llaw gan brynu map graddfa fawr John Evans o 1795: naw dalen hardd a manwl, ‘pasted on canvas, and folded up into single sheets for the conveniency of carriage’. Gyda hwn, medrodd Aiken a’i gyd-deithwyr ddilyn ‘every turning of the road, every winding of every rivulet’. Ac yn fwy pleserus byth i’r daearegydd brwd:

the plan of every mountain is given with such accuracy that a person conversant with the forms of mountains may, by a bare inspection of the map, distinctly trace the course of the primitive, secondary, and limestone ridges through the whole of North Wales.

Ar ôl 1797 mae’r rhan fwyaf o gyfeiriadau at fapiau gan deithwyr yn sôn yn benodol am fap graddfa lai John Evans, a gyhoeddwyd gan ei fab ddwy flynedd ar ôl iddo farw. Ym marn William Bingley, ar daith gerdded yng ngogledd Cymru yn 1798, hwn oedd ‘the correctest map I ever travelled by’, ac yn arbennig o gywir yn y modd y dangosai’r ffyrdd. Wrth iddo ddiweddaru ei Daith ychydig o flynyddoedd wedyn, teimlai fod rhaid cynnwys map newydd o’i waith ei hun ‘compiled from the most authentic sources, to which I could have access, and corrected by my own observations’. Nid am ei fod yn meddwl bod ganddo sgiliau cartograffegol gwell, eglurodd, ond yn hytrach, am fod ‘Mr John Evans’s ‘Map of North Wales’, which contains by far the fewest errors of any that has yet been published’ bellach ar werth am ‘the enormous price of a guinea’.

Ymhlith y gwahanol ymatebion i fap Evans o 1797, ceir un o’r rhai mwyaf trawiadol yn nisgrifiadau bywiog yr awdur Catherine Hutton o’i theithiau yng ngogledd Cymru ar ddiwedd y 1790au. Teithiodd Catherine o Birmingham gyda’i thad William Hutton, a chadwodd, fel ynta, gofnod o’i phrofiadau. Cyhoeddwyd fersiwn ohono fel cyfres o lythyrau at ei brawd yn y Monthly Magazine yn ystod y 1810au; ond mae’r fersiwn lawysgrif, a gedwir yma yn y Llyfrgell Genedlaethol, yn fwy manwl ac yn fwy personol ei naws. Roedd Catherine Hutton yn amlwg yn gwirioni ar fynyddoedd gogledd Cymru. Dysgodd eu henwau a’u hamlinellau: wrth ymlwybro ar gefn ceffyl ar hyd glannau Ynys Môn, cyfrifodd yr enwau fesul un, gan edmygu llinell ddramatig y copaon ar draws Afon Menai. Er iddi fwynhau ceffyla a cherdded, dioddefodd yn wael gan y bendro (vertigo): nid oedd modd felly iddi efelychu ei thad egnïol, a ddringodd yr Wyddfa yn 76 oed. Ond teimlir swyn y mynyddoedd yn nisgrifiadau Catherine ohonynt o waelod y dyffryn; mae hi’n eu dal o wahanol bersbectifau, ac mewn tywydd newidiol.

Tua diwedd y daith olaf ym 1800, a hwythau yn y gwesty newydd yng Nghapel Curig, darlunia Hutton dirwedd Eryri mewn ffordd sy’n ymylu ar weledigaeth. Gan dynnu ar eiriau’r Beibl ‘tŷ nad yw o waith llaw, sydd yn dragwyddol yn y nefoedd’ (2 Corinthiaid 5:1) mae’n ysgrifennu at ei brawd:

I have fancied Snowdonia a city not made with hands, whose Builder and Maker is God. I have bounded my fancied city by the district of Arvon; an imaginary line drawn from the Rivals to Pont Aber Glaslyn; the vale beginning at Pont Aber Glaslyn, and ending at Pont y Pair, and the Vale of Conwy, from Pont y Pair to the sea.

Disgrifir ffiniau a phrif nodweddion y ddinas dragwyddol hon yn fanwl. Mae strydoedd anferth (y dyffrynnoedd) yn torri ar ei thraws; mae’r Wyddfa’n sefyll fel teml fawr yn y canol. Ac er mwyn egluro’n well i’w brawd, mae hi’n tynnu braslun iddo: ‘I have annexed a sketch of Snowdonia, from Evans’s map, which will explain my ideas better than all the words I could use’. Map o fap yw’r braslun hwn, wedi ei blygu’n daclus rhwng tudalennau y llawysgrif—map ysbrydol yn deillio o fap daearyddol. Mae’n gofnod gweledol o ddealltwriaeth greadigol Catherine Hutton o’r dirwedd gymhleth, fynyddog oedd yn ei hamgylchu.

Cyfeiriadau
Derek Williams ‘John Evans’ Map of North Wales 1797’, Ystrad Alun 11 (Nadolig, 2010).
Mary-Ann Constantine, ‘”The bounds of female reach”: Catherine Hutton’s Fiction and her Tours in Wales’, Romantic Textualities: Literature and Print Culture, 1780–1840, no. 22, 92-105
Curious Travellers

Postiwyd - 27-06-2018

Casgliadau / Collections / Digido / Newyddion a Digwyddiadau

Casgliad Porteadau Cymru

4800 o bortreadau Cymraeg wedi cyrraedd Comin Wikimedia a Wikidata.

Dros y 4 mlynedd ddiwethaf mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi gweithio gydag Wikimedia i ddarparu mynediad agored i fwy na 10,000 o ddelweddau parth cyhoeddus. Mae’r rhain yn cynnwys Casgliad Tirlun Cymru, ffotograffau, mapiau a llawysgrifau.

 

Mae’r bartneriaeth hon wedi arwain at fwy na 455 miliwn hits ar erthyglau Wicipedia sy’n cynnwys delweddau’r Llyfrgell Genedlaethol.

 

Delweddau

 

Nawr, mae’r Llyfrgell yn falch o gyhoeddi bod bron i 5000 o bortreadau – printiau, ffotograffau a phaentiadau – wedi’u gosod yn gyhoeddus ar Gomin Wikimedia.

 

Ynghyd â’r delweddau, mae Wicimediwr Cenedlaethol y Llyfrgell Genedlaethol hefyd wedi rhannu metedata cyfoethog ar gyfer pob delwedd fel data agored cysylltiedig ar Wikidata.

 

Prif nod y Llyfrgell wrth ryddhau cynnwys o’r fath yw cynyddu mynediad i’n casgliadau a chyfrannu at greu a rhannu gwybodaeth am Gymru a’i phobl.

 

Erbyn hyn, gobeithir y bydd cymuned Wikimedia yn dechrau defnyddio’r delweddau hyn i ddarlunio erthyglau Wicipedia. Mae’r Llyfrgell Genedlaethol hefyd yn bwriadu cynnal prosiect i gynyddu ymgysylltiad â’r casgliad hwn, ac mae’n gobeithio y bydd gwirfoddolwyr yn cael eu hannog i greu erthyglau Wikipedia am yr eisteddwyr, artistiaid, argraffwyr a ffotograffwyr Cymreig sy’n ymwneud â’r casgliad.

 

Oherwydd bod yr holl ddelweddau yma ar gael i lawrlwytho ac yn y parth cyhoeddus, rydym hefyd yn annog eraill i ailddefnyddio’r delweddau hyn at unrhyw ddiben y maent yn ei ddymuno, o addysg i’r diwydiannau creadigol, mae hwn yn adnodd am ddim i bawb.

 

Data

Mae creu data cysylltiedig (linked data) ar gyfer y casgliad hefyd yn cynnig cyfleoedd diddorol i ymchwilwyr ac academyddion. Am y tro cyntaf, gallwn ddiamwyso enwau’r artistiaid a’r eisteddwyr er mwyn deall cyfansoddiad y casgliad yn well. Er enghraifft, nodwyd 12 o wahanol unigolion a enwir John Jones yn y casgliad, ac rydym bellach yn gwybod pwy ydynt i gyd, ac erbyn hyn mae llawer wedi eu cysylltu trwy Wikidata i erthyglau Wikipedia neu i’r Bywgraffiadur Cymreig.

 

Gallwn ymholi’r data a’i wneud yn weledol mewn nifer o ffyrdd gan ddefnyddio gwasanaeth holi Sparql. Er enghraifft, gallwn ddadansoddi pa engrafwyr sydd wedi copïo gwaith artistiaid penodol, a gallwn weld y mathau o bobl a ddarlunnir amlaf (clerigwyr, o bell ffordd) a nodweddion, megis Arfbais, ac addurniadau ar ffin y delweddau.

Delwedd sydd yn ymddangos pa argraffwyr sydd wedi copïo gwaith gan arlunwyr penodol

 

Y pethau sy’n cael i ddarlunio fwyaf yn y casgliad

Mae’n hawdd arddangos yn weledol yr eisteddwyr sy’n ymddangos fwyaf yn y delweddau gan ddefnyddio priodwedd ‘Prif bwnc’ yn Wikidata. Thomas Picton, arwr rhyfel a enwyd yng Nghymru, sy’n cael ei ddarlunio amlaf, gyda 32 o bortreadau. Yn ddiddorol mae ei erthygl Wicipedia yn datgelu nad oedd yn arwr mor wych wedi’r cyfan, ar ôl cael ei euogfarnu am gam-drin menywod.

Delwedd sydd yn dangos yr eisteddwyr sydd yn ymddangos yn fwyaf aml

Gallwn hefyd archwilio’r casgliad yn gronolegol ac mae golwg gyntaf yn dangos cydberthynas glir rhwng poblogrwydd rhai mathau o bortread a digwyddiadau hanesyddol. Er enghraifft, mae nifer y delweddau o bregethwyr ac offeiriaid yn cynyddu’n sylweddol ar adegau o adfywiad Crefyddol.

Llinell amser o’r pethau sydd yn ymddangos mwyaf yn y casgliad dros amser

Iaith

Mae Wikidata yn blatfform amlieithog, felly mae hefyd yn ein galluogi i ddefnyddio natur amlieithog y labeli disgrifiadol Wikidata i weld ein data mewn dwsinau o ieithoedd. Roedd y Metadata a gedwir gan y llyfrgell ar gyfer y casgliad hwn ar gael yn Saesneg yn unig, fodd bynnag, trwy ei drosglwyddo i Wikidata roedd 83% o’r 40,000 o eitemau data ar gael yn awtomatig yn Gymraeg, diolch i waith gwirfoddolwyr Wikidata, sydd wedi ychwanegu labeli Cymraeg i lawer o eitemau Wikidata dros y blynyddoedd. Rydym yn gobeithio ymgysylltu â gwirfoddolwyr Cymraeg er mwyn sicrhau bod 100% o’r data ar gael yn Gymraeg.

 

Cysylltu ein treftadaeth

Mantais arall o rannu ein data ar lwyfan cyhoeddus fel Wikidata yw bod llawer o sefydliadau eraill wedi gwneud yr un peth, ac mae hyn yn golygu y gallwn ni ddechrau adeiladu rhwydwaith helaeth o ddata cysylltiedig. Mae’r data yn ein galluogi i gysylltu ein casgliadau ein hunain gyda’i gilydd, er enghraifft, gallwn weld pa gyhoeddwyr sydd wedi cyhoeddi gwaith sydd yn rhan o Gasgliad Portreadau Cymreig ond hefyd y Casgliad Tirwedd Cymru. Rydym hefyd wedi gallu nodi’n gyflym dros 400 o bortreadau o bobl a geir yn y geiriadur Bywgraffiadur Cymreig, ac rydym bellach yn cysylltu’r portreadau hynny i wefan y Bywgraffiad.

Yr holl ddelweddau gan un cyhoeddwr. Mae glas yn nodi delweddau yn Gasgliad Portreadau ac mae melyn yn nodi delweddau gan yr un cyhoeddwr sydd yn rhan o Gasgliad Tirlun Cymru

 

Y tu hwnt i’n sefydliad ein hunain, fe allwn weld pa rai o’n heisteddwyr sydd â phortreadau yn yr Oriel Bortreadau Cenedlaethol, a gallwn adnabod yr artistiaid a’r eisteddwyr yn ein casgliad sydd â chofnod Oxford DNB. Yn y modd hwn, gellir cysylltu treftadaeth ddiwylliannol y byd gyda’i gilydd i ddarparu mynediad hawdd i’r cyhoedd, mewn un lle, i ystod gyfoethog ac amrywiol o ffynonellau.

 

Jason Evans, Wicimediwr Cenedlaethol

 

 

Tagiau: , , , , , ,

← Older Posts

Categorïau

Chwilio

Archives

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog