Blog - Cerddoriaeth

Postiwyd - 10-09-2018

Arddangosfeydd / Casgliadau / Cerddoriaeth / Collections

Dawn anhygoel Morfydd Owen

A refined and beautiful talent: thoughts on the centenary of the death of Morfydd Owen (1891-1918) yw teitl cyflwyniad Dr Rhian Davies yn y Drwm ar 11 Medi.  Mae’r dyddiad yn arwyddocaol gan mai can mlynedd i’r dyddiad hwn y claddwyd Morfydd Owen ym mynwent Ystumllwynarth.  Bu farw’r gyfansoddwraig, y gantores a’r pianydd yn drasig o ifanc ar 7 Medi 1918 yn chwech ar hugain mlwydd oed.  Mae’r cyflwyniad yn perthyn i gyfres o nifer o ddigwyddiadau a drefnwyd gan Gŵyl Gregynog i nodi canmlwyddiant ei marwolaeth.  Dr Rhian Davies yw Cyfarwyddwr Artistig yr ŵyl a’r prif awdurdod ar Morfydd Owen. Dyfarnwyd doethuriaeth iddi gan Brifysgol Bangor yn 1999 am ei thraethawd ymchwil arni.

Ganwyd Morfydd Owen ar 1 Hydref 1891 yn Nhrefforest ac fe’i magwyd ar aelwyd gerddorol iawn.  Cafodd yrfa ddisglair dros ben yn astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd gyda’r Athro David Evans ac enillodd radd Mus. Bac. yn 1912.  Mynychodd yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain, 1912-1917, ac enillodd Fedal Arian Charles Lucas am gyfansoddi Nocturne, gwaith i gerddorfa.  Fe’i hetholwyd yn Aelod o’r Academi Gerdd Frenhinol yn 1918.

Derbyniwyd Morfydd Owen yn aelod o Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1912 a’i henw barddol oedd ‘Morfydd Llwyn-Owen’ sef cyfuniad o’i henw a chartref ei thad Plas Llwyn Owen, Bontdolgadfan, ger Llanbrynmair.  Cafwyd perfformiad sensitif o’i chân ‘Yr oenig’ yng nghystadleuaeth y Rhuban Glas yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Yr oedd yn ddawnus iawn, meddai ar lais mezzo-soprano cyfoethog, yr oedd yn bianydd medrus, ac yn gallu cyfansoddi mewn amryw o arddulliau o emyn-donau i ddarnau cerddorfaol.  Sefydlwyd ysgoloriaeth er cof amdani ym Mhrifysgol Caerdydd a’r enillydd cyntaf oedd Grace Williams yn 1923.  Cedwir llawysgrifau o gerddoriaeth Morfydd Owen a’i memorabilia personol yn Adran Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Caerdydd.

I nodi canmlwyddiant geni Morfydd Owen yn 1991 darlledwyd drama-ddogfen gan S4C ac yn yr Hydref dangosir ffilm Morfydd ar y sianel.  Mae’n ymwneud â pherthynas Morfydd Owen a’i gŵr Dr Ernest Jones a briododd mewn Swyddfa Gofrestru yn Llundain ar ôl carwriaeth fer.  Awdur y sgript yw Siwan Jones.  Bu Rhian Blythe neu ‘Morfydd’ yma yn y Llyfrgell yn ymchwilio i’w hanes diddorol.

Bydd arddangosfa fechan o eitemau o gasgliadau’r Llyfrgell i’w gweld yn Ystafell Summers ar 11 Medi i gyd-fynd â’r cyflwyniad ar Morfydd Owen.  Yn eu plith mae llawysgrifau cerddorol, llythyrau yn ei llaw, ffotograffau, rhaglenni cyngherddau a dwy gyfrol goffa i Morfydd Owen a gyflwynwyd gan Dr Ernest Jones i’w dad-yng-nghyfraith William Owen.

Ann Francis Evans

Postiwyd - 06-03-2018

Casgliadau / Cerddoriaeth

Merched Cerddorol Cymru

Gan fod mis Mawrth yn Fis Hanes Merched a Dydd Iau 8fed Mawrth yn Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched mae’n gyfle i dynnu sylw at rai o archifau’r merched yng Nghymru sydd wedi serennu fel cyfansoddwyr, cerddorion a pherfformwyr.

Eleni byddwn yn dathlu canmlwyddiant geni’r gyfansoddwraig Dilys Elwyn Edwards (1918 – 2012) yn y Llyfrgell Genedlaethol gyda darlith gan Geraint Lewis ar “Dathlu Dilys: Brenhines Ein Cân” ar 11 Gorffennaf. Mae archif Dilys yn y Llyfrgell ac rydym wedi cyhoeddi rhai o’i chyfansoddiadau enwocaf yn ddigidol ar wefan Tŷ Cerdd ‘Darganfod Cerddoriaeth Cymru’.  Ar y wefan honno hefyd ceir gweithiau gan Morfydd Owen (1891-1918) a byddwn yn nodi canmlwyddiant marwolaeth annhymig Morfydd Llwyn Owen yn nes ymlaen eleni mewn cydweithrediad a Gŵyl Gregynog.

Hefyd yn y Llyfrgell Genedlaethol mae archif Grace Wiliams (1906-77) un o gyfansoddwyr proffesiynol cyntaf Cymru yn yr ugeinfed ganrif i ennill bri cenedlaethol arwyddocaol. Roedd yn un o ddisgyblion Vaughan Williams ac yn gyfaill i Benjamin Britten, ac mae ei harchif yn cynnwys casgliad helaeth o’i chyfansoddiadau. Ymhlith y cyfansoddwyr mwyaf diweddar rydym yn casglu yn y maes clasurol mae Hilary Tann sydd o Gymru ond bellach yn byw yn America.

Yn y byd gwerin mae nifer o ferched wedi gwneud eu marc, gan gynnwys Phyllis Kinney sydd yn awdurdod pennaf ar ein cerddoriaeth gwerin. Un o’r cyfeiriadau cynnar yw gan Walter Davies at  ‘Enwau Ceingciau adnabyddus i Gwen verch Wiliam, Cantores o Drev Rhiwaedog, o gylch 1550′. Maria Jane Williams (c.1795 – 1873) a gyhoeddodd ‘The Ancient National Airs of Gwent and Morgannwg’ yn 1844. Y fezzo-soprano Mary Davies (1855-1930) oedd cyd-sylfaenydd a Llywydd cyntaf Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru. Roedd gwragedd yn weithgar yn Gymdeithas, a cheir yn archif J Lloyd Williams nifer o lawysgrifau a gasglwyd gan Mary Richards Darowen,  Jane Catherine Lloyd, Ruth Lewis a Jennie Williams. Roedd Ruth Herbert Lewis yn arloeswraig – y person cyntaf i gasglu’r caneuon gyda pheiriant ffonograff Edison yng Nghymru, ac roedd Dora Herbert Jones a Grace Gwyneddon Davies hefyd yn weithgar gyda’r Gymdeithas. Yn ddiweddarach yr oedd Eunice Bryn Williams (m. 1991) yn gysylltiedig â gwaith Cymdeithas Alawon Cymru, Cymdeithas Cerdd Dant Cymru, ac eisteddfodau lleol a chenedlaethol, a threfnwyd a chyhoeddwyd llawer o alawon gan E. Olwen. Jones.

O ran perfformwyr mae gennym archifau Leila Meganne y gantores opera,  llythyrau gan Adelina Patti, llyfrau sgrap y gantores Clara Novello Davies,  papurau’r gantores Ceinwen Rowlands ac yn fwyaf diweddar ran gyntaf archif y delynores Llio Rhydderch.

Dyma flas o’r archifau sydd yn y Llyfrgell . Cysylltwch â ni os gwyddoch am archif un o Ferched Cerddorol Cymru  – rydym yn parhau i lenwi bylchau yn ein casgliadau.

 

 

Nia Mai Daniel

Rheolwr Rhaglen			Programme Manager 
Yr Archif Gerddorol Gymreig	The Welsh Music Archive
@CerddLLGC			@MusicNLW

Postiwyd - 06-02-2018

Casgliadau / Cerddoriaeth / Collections / Digido

Hela’r Hen Ganeuon

Sut mae dod o hyd i alaw werin neu eiriau ar gyfer can werin? Mae nifer fawr wedi cael eu cyhoeddi ond oes na rai na wyddoch chi amdanynt? Fe wnaeth Merêd a Phyllis astudiaeth fanwl o ganeuon ac alawon gwerin Cymru ac mae eu harchif nawr ar gael yn y Llyfrgell Genedlaethol ac yn cael ei gatalogio fel rhan o Raglen yr Archif Gerddorol Gymreig . Os hoffech ddod i weld yr archif trefnwch sesiwn gyflwyno gyda Nia Mai Daniel ar nia.daniel@llgc.org.uk neu cysylltwch ar Twitter @cerddLLGC.

Mae Archif Merêd (Meredydd Evans 1919-2015) a’i wraig yr ysgolhaig a’r cerddor Phyllis Kinney yn cynnwys dros 150 bocs y gellir ei rannu i’r grwpiau isod:

  • Papurau cerddorol Phyllis Kinney
  • Papurau cerddorol Merêd
  • Cardiau mynegai Merêd a Phyllis ar gerddoriaeth draddodiadol Cymru
  • Gohebiaeth Merêd
  • Ffeiliau Merêd ar athroniaeth, llenyddiaeth, ymgyrchoedd dros yr iaith Gymraeg a mwy.

Ein gobaith yw datblygu cronfa o gerddoriaeth werin yn seiliedig ar gardiau mynegai Merêd a Phyllis.  Er mwyn cyrraedd hyn byddwn yn digido’r cardiau a threfnu ffordd o wneud y wybodaeth ar gael yn hwylus arlein i berfformwyr a’r rhai sy’n ymchwilio i alawon a chaneuon gwerin Cymreig.

Mae ‘na gardiau mynegai am y gwahanol gategoriau isod gyda channoedd o ganeuon ac alawon ynddynt.

  • Caneuon gwerin ; dros 1,000 o gardiau wedi eu trefnu yn ôl teitl A-Z.
  • Alawon Carolau : Nodiadau Phyllis ar enw’r alaw, enw’r llawysgrif, gyda hen nodiant
  • Geiriau Carolau : Nodiadau Mered ar ffynonellau carolau Nadolig gan amlaf
  • Hwiangerddi : O gasgliadau O. M Edwards, Ceiriog ac Eluned Bebb
  • ‘Alawon Fy Ngwlad’ (1896) : llyfr yn cynnwys dros 500 o alawon a gasglwyd gan Nicholas Bennett. Mae hwn ar gael ar lein ar wefan y Llyfrgell.
  • Mari Lwyd: Traddodiadau‘r Fari lwyd, Hela’r Dryw, calennig ac ati a ymddengys fel nodiadau Phyllis Kinney ar gyfer ‘Welsh Traditional Music’ (2011)
  • J Lloyd Williams: Caneuon ac Alawon o archif J Lloyd Williams sydd yn LLGC
  • Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru : Ystadegau ynghylch ffynonellau caneuon ac alawon yn y Cylchgrawn yn ystod Golygyddiaeth J Lloyd Williams.

Mae’r cardiau yn nodi’r alaw neu’r gan, gwahanol fersiynau ohoni, enw ardal sydd yn gysylltiedig, y llinell gyntaf ac yn nodi’r llyfr neu’r llawysgrif lle’i gwelwyd. Mae nifer o’r ffynonellau yma wedi cael eu digido gan y Llyfrgell gan gynnwys y llawysgrifau Melus-seiniau CymruPer-seiniau Cymru  a Melus geingciau Deheubarth Cymru a cheir rhestr lawn ar ein tudalen am ‘Cerddoriaeth Draddodiadol Cymru’ .

Nia Mai Daniel

Rheolwr Rhaglen Yr Archif Gerddorol Gymreig

nia.daniel@llgc.org.uk

@cerddLLGC @MusicNLW

 

Gweler hefyd blog 22-09-2017  ar lansio rhaglen Yr Archif Gerddorol Gymreig

Lansio Rhaglen Archif Gerddorol Gymreig

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog