Blog - #CaruMapiau

Postiwyd - 07-12-2018

#CaruMapiau / Collections

Dyfroedd Cymru, Dyfroedd y Byd

Yn y Blog hwn, yr olaf ar y thema ‘Blwyddyn y Môr’, rydym yn bwrw golwg dros gasgliad y Llyfrgell o siartiau morol sy’n dyddio o 1800.

Prif bwrpas siartiau yw hwyluso mordwyo a dylent gynnwys gwybodaeth glir, gywir a chyfoes a fyddai’n helpu i gynllunio, amlinellu a chanfod cwrs diogel.  Mae siartiau hefyd yn rhoi gwybodaeth i ymchwilwyr am yr amgylchedd morol ac arfordirol, boed naturiol neu o wneuthuriad dyn, fel yr oedd yn y gorffennol ac fel y mae heddiw.

O ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg, y Prydeinwyr oedd yn arwain y ffordd fel gwneuthurwyr siartiau.  Dros amser, o ganlyniad i ddatblygiadau technolegol cafodd gwell siartiau eu cynhyrchu a oedd yn datgelu diofalwch a chamgymeriadau cynharach. Mae’r siart a ddangosir yma er enghraifft, sef siart Sir Benfro 1812 yn nodi cywiriadau i arolwg blaenorol Lewis Morris tra bod siart 1857-1859 yn gofnod manwl ac astrus o’r môr a’r arfordir fel ei gilydd.

O dipyn i beth, disodlwyd mentrau preifat Prydeinig gan waith Swyddfa Hydrograffeg y Morlys, yr UKHO, a gafodd ei sefydlu yn 1795 i ateb gofynion y Llynges Frenhinol yn anad dim.  Mae’r UKHO yn dal yn un o sefydliadau hydrograffeg bwysicaf y byd a’i siartiau’n cael eu cyflenwi’n helaeth i lyngesau, llongau masnach a’r cyhoedd.

Mae mwy na 15,750 o siartiau electronig UKHO ar gael ar hyn o bryd er mai dim ond copïau o’u 3,500 argraffiad dalen y mae’r Llyfrgell yn eu derbyn trwy adnau cyfreithiol.  Mae 12,000 o siartiau modern y Llyfrgell yn cwmpasu lleoliadau ledled y byd ac fe’u derbynnir yn bennaf oddi wrth yr UKHO, ynghyd â’u rhifynnau cysylltiedig gan gynnwys Notices to Mariners a’r Llyfrau Peilot.

 

O blith y casgliadau atodol y mae siartiau Fflyd y Morlys a oedd ond ar gael yn wreiddiol i’r Llynges Frenhinol, a rhai cyhoeddiadau diweddar o Awstralia, Seland Newydd, Unol Daleithiau’r America, Canada, Yr Ariannin ac ynysoedd y Philippines.

Er yn llai niferus, ceir siartiau a luniwyd yn wreiddiol gan gyhoeddwyr masnachol Prydeinig ac mae eu siartiau hwy o ddyfroedd y famwlad a thramor yn anelu at y byd hamdden a physgotwyr. Gellir cael mynediad i’r casgliad trwy gatalog ar-lein y Llyfrgell a chatalog yr UKHO.

Mae casglwyr mapiau byth a hefyd yn datgan nad yw siartiau modern mor esthetig ddeniadol â’u rhagflaenwyr hynafol lle’r oedd angenfilod a môr-forynion yn ymddangos yn rheolaidd. Serch hynny, y siartiau cyfoes sy’n cynnwys yr wybodaeth fwyaf perthnasol, cywir a diamwys am yr amgylchedd morol.  Maent yn hollbwysig i  warchod bywydau ar y môr ac mae angen talu sylw iddynt wrth hwylio’r moroedd. Defnyddiwch yr wybodaeth hon, sy’n ffrwyth profiad, yn ddoeth a pheidiwch byth ag anghofio’r dyfyniad morwrol ‘Gall gwrthdrawiad ar y môr ddifetha eich diwrnod cyfan’.

Gwilym Tawy

Curadur Mapiau

Postiwyd - 16-11-2018

#CaruMapiau / Collections

Y Rhyfel Mawr mewn mapiau

Wrth gofio Canmlwyddiant Diwrnod y Cadoediad, efallai ei fod yn amserol tynnu sylw at fapiau’r Llyfrgell sy’n gysylltiedig â brwydrau’r Rhyfel Byd Cyntaf, trychineb lle collwyd 20 miliwn o fywydau, tua 40,000 ohonynt yn Gymry.

Mae atlasau a mapiau rhyfel niferus y Llyfrgell yn dangos blaen y gad, ffosydd a pharaffernalia milwrol eraill, effaith geowleidyddol y rhyfel o ran newid ffiniau gwleidyddol, cynlluniau ailddatblygu ar ôl y rhyfel a hyd yn oed gemau rhyfel yn seiliedig ar fapiau ar gyfer y milwyr. Mae’r mapiau o darddiad milwrol a sifil, cyhoeddwyd yr olaf i roi gwybodaeth i’r cyhoedd a rhoi hwb i forâl.

Mae tua dau gant o fapiau wedi’u digido fel rhan o raglen Canmlwyddiant y Rhyfel gan y Llyfrgell. Ymysg y ddwy enghraifft yma mae mapiau o Ymgyrch aflwyddiannus Gallipoli – oedd yn gysylltiedig â mapiau anghywir oedd yn cynnwys yn rheolaidd wybodaeth wedi dyddio a gasglwyd yn ystod Rhyfel y Crimea.

Mae casgliad Gallipoli yn cynnwys mapiau cyfoes Swyddfa’r Rhyfel fel y ddwy enghraifft sy’n dangos amddiffynfeydd Ottoman ar ddiwrnod cyntaf yr ymgyrch a map diweddarach o safleoedd ANZAC, ynghyd â thaflenni a gyhoeddwyd yn fasnachol.

 


Parhaodd ymgyrch y Cynghreiriaid ar benrhyn Gallipoli yn Nhwrci, sy’n cael ei adnabod fel Ymgyrch Gallipoli neu Dardanelles, o Ebrill 1915 hyd at Ionawr 1916. Yma, ymunodd lluoedd Ymerodraeth Prydain â lluoedd Ffrainc yn erbyn Ymerodraeth Ottoman mewn ymgais aflwyddiannus i helpu Rwsia i dorri trwodd ar flaen y gad trwy agor llwybr i longau ar y Môr Du gan fod tywydd garw a chryn bellter yn rhwystro ac yn effeithio ar Rwsia.

Arweiniodd y methiant gan y llynges yng Nghulfor y Dardanelles ar ddechrau 1915 at ymosodiad mawr ar y tir ar 25 Ebrill gan luoedd Prydain a Ffrainc ynghyd â Chorfflu Byddin Awstralia a Seland Newydd neu luoedd ANZAC. Glaniwyd yn ddiweddarach ym Mae Suvla ar 6 Awst.

Yn sgil diffyg gwybodaeth y Cynghreiriaid, diffyg penderfyniadau ac oedi, ynghyd â brwydro chwyrn gan Ymerodraeth Ottoman, ni chafwyd llawer o lwyddiant na chynnydd a bu llawer o golledion. Yn Rhagfyr 1915 awdurdododd Prydain y milwyr i ddechrau gadael y wlad, a daeth y brwydro i ben yn ystod y mis Ionawr canlynol.

 

Gwilym Tawy

Curadur Mapiau

Postiwyd - 27-10-2018

#CaruMapiau / Collections

‘Pagoda pren ac asbestos’ Dylan a helynt Capten Killick

Mae’r Llyfrgell yn ddiweddar wedi prynu dyluniad pensaernïol o fyngalo Dylan Thomas, Majoda yng Nghei Newydd, Ceredigion. Bu’r bardd yn byw yn Majoda o 1944 i 1945 lle cafodd ei ysbrydoli i greu a dechrau ysgrifennu Under Milk Wood. Yma hefyd y llwyddodd i hyrwyddo ei enw da ymhell ac agos – a pha well hwb i unrhyw gymuned ôl-ryfel, ddiflas o ddistaw, na’r preswylydd Dylan Thomas i sirioli pawb a phopeth?

 

 

Mae’r cynllun yn gysylltiedig ag anfadwaith a ddigwyddodd yn Majoda ar noson y 6ed o Fawrth 1945 pan ymddangosodd Capten William Killick, Comando Gweithredol Gweithrediadau Arbennig (SOE) oedd hefyd yn gymydog a chyn-gyd-lymeitiwr i Dylan, gyda gwn sten a grenâd llaw yn ei feddiant. Saethodd at y byngalo lle’r oedd Dylan a’i deulu yn bresennol ar y pryd gyda thri o’u ffrindiau. Doedd dim taniwr ynghlwm wrth y grenâd a chafodd neb anaf wrth lwc. Arweiniodd y cythrwfl at achos llys yn Llanbedr Pont Steffan ac ymddangosodd yr hanes ym mhrif bapurau newydd y dydd a chafodd ei bortreadu yn y ffilm rannol-fywgraffyddol The Edge of Love yn 2008.

 

Roedd Captain Killick, ac yntau newydd ddychwelyd o frwydro yng ngwlad Groeg, yn bwrw’i lid yn dilyn tensiynau rhyngddo ef a Dylan, megis y berthynas rhwng Dylan a gwraig y Capten, Vera a oedd yn ffrind bore oes Dylan ers eu magwraeth yn Abertawe.

 

Cafodd y cynllun ei gomisiynu oddi wrth bensaer o Aberystwyth, yn benodol ar gyfer yr achos llys. PC Islwyn Williams oedd y ‘Plismon Pentref’ a ymchwiliodd i’r digwyddiad ac mae’r nodiadau a wnaed ganddo ef mewn pensil i’w gweld ar gefn y cynllun hwn.  Mae’r nodiadau hyn yn disgrifio’r hyn a welodd ef yn y fan a’r lle – yn bennaf lleoliad tyllau’r bwledi.

 

Bu’r Capten Killick yn ffodus o gael ei ryddhau o bob cyhuddiad gan gynnwys ymgais i lofruddio. Yn y llys a’r gymuned leol yn ogystal dangoswyd rhywfaint o gydymdeimlad tuag at y milwr a oedd wedi goroesi sawl ymgyrch filwrol tra pheryglus y tu ôl i rengoedd y gelyn, ac yn wir cafodd ei ddisgrifio gan yr SOE fel un a chanddo ‘gofnod gweithredol ardderchog’.

 

 

Gwilym Tawy

Curadur Mapiau

Postiwyd - 08-10-2018

#CaruMapiau / Collections

Murdoch Mackenzie yr hynaf

Dangosodd Murdoch Mackenzie (yr Hynaf) fwy o ymroddiad nag unrhyw un arall wrth gyfrannu at hydrograffeg ddamcaniaethol ac ymarferol Prydain. Yn enedigol o Orkney yn 1712, roedd gan y gŵr hwn – a oedd yn ŵyr i Esgob Orkney – dueddfryd mathemategol a thrwy hyn daeth i gysylltiad â’r mathemategydd, yr Athro Colin Maclaurin. Bu yntau’n llwyddiannus wrth gefnogi addasrwydd Mackenzie i ymgymryd ag arolwg hydrograffig yn Ynysoedd Orkney o 1742 ymlaen. Yma, roedd gan Mackenzie gysylltiadau gwerthfawr i’w helpu yn ei waith ac o ganlyniad cafwyd yr arolwg morol mwyaf manwl a chynhwysfawr oedd wedi’i gyflawni hyd yma yn Ynysoedd Prydain. Yn 1750 cyhoeddwyd ei fapiau mewn casgliad yn dwyn y teitl ‘Orcades, or a geographic and hydrographic survey of the Orkney and Lewis Islands’.

Gyda nawdd y Morlys, aeth Mackenzie ati wedyn i gychwyn ar brosiect llawer mwy aruchel. Cafodd ei gomisiynu yn 1751 i wneud arolwg o arfordir gorllewinol Prydain ac arfordir Iwerddon i gyd, gwaith a barodd ddwy flynedd ar hugain gan gyrraedd ei benllanw yn 1774 a 1776 pan gyhoeddwyd dwy gyfrol o fapiau.

Erbyn 1757 roedd Mackenzie wedi cwblhau arolwg o arfordir gorllewinol tir mawr ac ynysoedd Yr Alban. Dilynwyd hyn gan arolwg deng mlynedd yn Iwerddon cyn iddo ddychwelyd i lannau gorllewinol Prydain Fawr. Yn 1770 daeth y môr-fapio i ben yn Sir Benfro, gan hepgor Culfor Menai oherwydd ym marn Mackenzie doedd dim modd i longau mawr ei mordwyo.

 

Roedd dulliau dibynadwy Mackenzie o fôr-fapio yn dderbyniol gywir.  Roeddent hefyd yn gymharol gyflym, fel sy’n amlwg o anferthedd hyd yr arfordir a arolygwyd ganddo mewn ugain mlynedd.  Roedd y gamp hon yn hynod glodwiw hefyd o ystyried cyfyngiadau ei adnoddau ar gyfer mapio glannau a’i adnoddau ariannol.

Ar ymddeoliad Mackenzie yn 1770, dilynwyd ef fel Hydrograffydd Morwrol y Morlys gan ei nai, Lefftenant Murdoch Mackenzie (yr Ieuaf). Yn 1771, cychwynnodd Lefftenant Mackenzie lle’r oedd ei ewythr wedi gorffen gan wneud arolwg o Fôr Hafren.

 

Gwilym Tawy

Curadur Mapiau

Postiwyd - 24-09-2018

#CaruMapiau / Casgliadau / Collections

Môr o newid ar gyfer hydrograffeg Lloegr

Mae’r blog ‘Blwyddyn y Môr’ hwn yn amlygu datblygiad cychwynnol hydrograffeg Lloegr, gan ganolbwyntio ar waith Capten Collins, a fu’n mapio arfordir Cymru hefyd.

Ym 1657 mentrodd yr hydrograffydd a’r argraffydd Joseph Moxon i’r hyn a fu’n draddodiadol yn heldir Iseldiraidd, o gynhyrchu siartiau morol gydag A Book of Sea Plats.  Er hynny, roedd y siartiau yma o ddyfroedd Ewrop yn tarddu o’r Iseldiroedd.

Roedd John Seller yn dychmygu atlas yn cynnwys siartiau wedi’u mapio, llunio, ysgythru ac argraffu gartref. Penodwyd ef yn Hydrograffydd Brenhinol ac, yn rhyfeddol, fe lwyddodd i sicrhau gorchymyn deng mlynedd ar hugain, yn gwahardd mewnforio siartiau ‘Waggoner’ o’r Iseldiroedd (gweler ‘Spieghel’ Waghenaer, ein blog morwrol blaenorol). Ysywaeth, roedd uchelgeisiau Seller y tu hwnt i allu llyfrwerthwr a gwneuthurwr offerynnau unigol.  Yn ddiweddarach, ysgrifennodd Samuel Pepys nad oedd gan unigolion preifat y gallu i ymgymryd â’r fath fentrau enfawr, ac eto, o 1671 fe wnaeth The English Pilot o waith Seller, gyda’i ddiffygion  a hen blatiau argraffu o’r Iseldiroedd a adnewyddwyd yn rhannol, gymryd lle ‘Waggoners’ yn gynyddol yn Lloegr.

Ym 1680 dechreuodd Capten Greenvile Collins lobïo am fapio arfordir Prydain.  Cafodd Collins, capten profiadol gyda’r Llynges Frenhinol a hydrograffydd medrus, ei gomisiynu gan Frenin Siarl II ym 1676, i fapio dyfroedd cartref ac addawyd cymorth sylweddol i Collins.  Cychwynnodd Collins ar saith mlynedd o waith mapio ym 1681, ac ym 1693 cyhoeddwyd ei siartiau yn Great Britain’s Coasting Pilot.

 

Roedd y gwaith mapio’n galw am fesuriadau arfordirol manwl gywir a chyfesurynnau tra-chywir o’r pentiroedd.  Cafodd cynnydd ei blagio gan brinder arian a diddordeb cyrff cynhaliol yn lleihau.  Ni wireddwyd cynnig Collins i fapio’r Iwerddon yn ei chyfanrwydd.

Pilot Collins oedd y mapio systematig cyntaf a’r atlas morwrol cyntaf o ddyfroedd Prydain i gael ei ysgythru a’i argraffu yn Llundain, o waith mapio gwreiddiol, ac yr oedd yn cynnwys pedwar deg wyth o siartiau, ynghyd â chyfarwyddiadau hwylio, tablau llanw a phroffiliau arfordirol.  Er gwaethaf anghywirdebau a diffygion, roedd y gwaith yn ddatblygiad anferth i fordwyo Prydain, ac fe wnaeth ddilysu Collins fel un o hydrograffwyr mwyaf blaenllaw hanes.

Cyhoeddwyd y Pilot, wedi’i altro rhyw ychydig, rhwng 1693 a 1792, ac ar ddeuddeg achlysur arall fan lleiaf.  Yn anochel, erbyn 1792, ystyriwyd bod angen ei wella’n sylweddol.

Mae copi 1779 gan y Llyfrgell o’r atlas hwn, a nifer o siartiau unigol ac arnynt ddyddiadau amrywiol.  Mae ein siartiau darluniedig o arfordiroedd gorllewinol Cymru ac Aberdaugleddau yn dyddio nôl i 1693.

 

Gwilym Tawy,

Curadur Mapiau.

Postiwyd - 27-08-2018

#CaruMapiau / Collections

‘Spieghel’ Waghenaer

Yng Nghymru, mae 2018 wedi ei dynodi fel ‘Blwyddyn y Môr’ ac mae’r blog hwn, sef y trydydd eleni ar y thema forol, yn ymwneud â’r siart cynharaf o arfordir Cymru sydd yng Nghasgliad y Llyfrgell.  Mae’n dyddio o 1590 ac yn dangos Môr Hafren a grëwyd gan yr hydrograffydd a’r Iseldirwr Lucas Janszoon Waghenaer (1534-1606).  Roedd yr Is-almaenwyr yn hydrograffwyr a chartograffwyr Ewropeaidd blaenllaw, a thyfodd Leiden, Antwerp ac wedyn Amsterdam yn ganolfannau cynhyrchu siartiau yn ogystal â mapiau.

Swyddog morwyo oedd Waghenaer ac yn nes ymlaen daeth yn gasglwr tollau morol.  Profodd ei brofiadau ymarferol ar y môr a’i gysylltiadau â morwyr a swyddogion porthladdoedd yn fanteisiol wrth iddo lunio ei atlas morwrol neu arweiniad peilot i ddyfroedd arfordirol Ewrop. Roedd testun Waghenaer yn seiliedig ar gyhoeddiadau mordwyo traddodiadol yr unfed ganrif ar bymtheg ond roedd ei siartiau’n ychwanegu elfen arloesol gan wneud yr atlas morwrol hwn yr arweiniad peilot cyntaf yn y byd i’w gyhoeddi.

 


Roedd llwyddiant y Teerste Deel vande Spieghel der Zeevaerdt (Rhan Gyntaf y Sea Mirror) 1584 yn deillio o gasgliad siartiau arloesol Waghenaer, eu hengrafiadau cain a’r ffaith eu bod wedi’u rhwymo’n ymarferol mewn un gyfrol.  Mae’r siartiau’n dangos panoramas arfordirol ac yn darlunio proffiliau o glogwyni a thir yn edrych o gyfeiriad y môr, sy’n awgrymu bod y siartiau wedi’u darparu’n gyntaf ar y môr gan ddefnyddio croestoriadau cwmpawd i ‘leoli’ nodweddion arfordirol amlwg.

Serch hynny, yn aml iawn roedd safon cywirdeb y ffurfwedd arfordirol yn druenus gan fod tuedd i or-ddarlunio’r nodweddion arwyddocaol tra bod ardaloedd eang o dopograffi fel pe baent wedi’u lluniadu’n ddiofal o’r golwg.  Dadleuai rhai y gellid esgusodi’r afluniadau hyn gan fod siartiau o’r fath wedi’u bwriadu ar gyfer llywio ym  mynedfeydd y porthladdoedd pwysig ac nid ar gyfer mordwyo cyffredinol.  Yn hyn o beth, roedd Waghenaer ond yn cadw at yr hyn oedd yn hen draddodiad wrth lunio siartiau.

Bu llwyddiant y gyfrol gyntaf hon yn ysgogiad i Waghenaer gyhoeddi’r ail ran yn 1586 a oedd yn cynnwys testun Lladin.  Dilynwyd hwn gan gyfieithiadau eraill.  Pan ddangoswyd yr atlas i’r Frenhines Elizabeth a’i Chyfrin Gyngor, cymaint fu’r effaith fel y penderfynwyd cyfieithu argraffiad 1586 i’r Saesneg, tasg a bennwyd i Anthony Ashley (1551-1628), Clerc i’r Cyfrin Gyngor. Yn 1588 ymddangosodd The Mariner’s Mirrour am y tro cyntaf yn y Saesneg ac ar unwaith profodd hwn eto yn boblogaidd.  Daeth yr atlasau yn wybyddus i’r Prydeinwyr fel y ‘Waggoners’, enw generig ar gyfer atlasau a siartiau môr a oroesodd am hydoedd ar ôl i The Mariner’s Mirrour gael ei ddisodli gan siartiau newydd Iseldiraidd.  Ar ôl hynny, cyhoeddodd Waghenaer fersiynau mewn fformat llai a mwy ymarferol.

 

 

Gwilym Tawy

Curadur Mapiau

Postiwyd - 16-08-2018

#CaruMapiau / Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau

Humphrey Llwyd y gŵr a roddodd Gymru ar y map


Ar 21 Awst 2018 bydd 450 o flynyddoedd wedi mynd heibio ers marwolaeth un o wŷr pwysicaf cyfnod y Dadeni, Humphrey Llwyd o Ddinbych. I goffáu’r digwyddiad hwn bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru’n cynnal arddangosfa am Llwyd a’i waith.

Ganed Humphrey Llwyd yn 1527 yn Ninbych. Bu’n astudio yn Rhydychen a enillodd radd Meistr yn 1551. Yn 1553 aeth i weithio i Iarll Arundel a pharhaodd dan ei nawdd am weddill ei fywyd.
Mae’n ymddangos mai un o swyddogaethau Llwyd oedd casglu llyfrau ar gyfer llyfrgell Arundel yn ogystal ag ar gyfer Llyfrgell yr Arglwydd Lumely, mab yng nghyfraith Arundel, priododd Llwyd gyda’i chwaer. Yn y pen draw daeth y ddwy Lyfrgell, yn cynnwys rhai o lyfrau Llwyd ei hun, yn rhan o’r Casgliad Brenhinol sydd bellach yn y Llyfrgell Brydeinig.

Pan ddychwelodd Llwyd i Ddinbych cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol ar gyfer Bwrdeistrefi Dinbych yn 1563 ac yna helpodd i lywio’r Mesur ar gyfer cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg drwy’r Tŷ Cyffredin.

Yn 1566 aeth gydag Arundel ar daith ar y Cyfandir lle cafodd ei gyflwyno i Abraham Ortelius a daeth y ddau yn gyfeillion mynwesol. Ar ôl dychwelyd adref, ysgrifennodd Llwyd at Ortelius o leiaf ddwywaith yn darparu gwybodaeth am Gymru a gyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth gan Ortelius yn ei atlas Theatrum Orbis Terrarum, yn cynnwys y map o Gymru Cambriae Typus, y gwaith y mae’n fwyaf adnabyddus amdano. Yn ogystal â’i fapiau cynhyrchodd Llwyd nifer o weithiau am hanes Cymru na chafodd eu cyhoeddi tan ar ôl ei farwolaeth.


Y llythyr a ddangosir yma yw’r ei lythyr olaf at Ortelius, a ysgrifennwyd o’i wely angau, sy’n cynnwys un o’u weithiau gyda’r mapiau yr oedd wedi’u gwneud. Mae’n ymddiheuro nad yw ei waith mewn gwell trefn ac mae’n edifar nad oes ganddo ddigon o amser ar ôl i’w gwella, bu farw 18 diwrnod yn ddiweddarach. Mae’r llythyr, a gadwyd gan Ortelius, yn dyst i’r parch tuag at y Cymro hollddysgedig, a ddaeth yn un o’i edmygwyr pennaf.


Yn ystod ei fywyd fe’i disgrifiwyd fel “the most famous antiquarius of all our country” ac fe’i disgrifiwyd gan ei fywgraffydd Anthony Wood fel “a person of great eloquence, an excellent rhetorician, a sound philosopher, and a most noted antiquary, and a person of great skill and knowledge in British affairs.”

Mae enw da Llwyd fel un o wŷr blaenllaw cyfnod y Dadeni ac yn wir fel un o grewyr hunaniaeth Gymreig fodern wedi’i esgeuluso yn y blynyddoedd ers ei farwolaeth. Fe’i disgrifiwyd gan Saunders Lewis fel “un o ddyneiddwyr pwysicaf Cymru a ffigwr allweddol yn hanes y Dadeni yng Nghymru”.

Yn ddiweddar, fodd bynnag, mae cyfraniad Llwyd wedi cael ei werthfawrogi o’r newydd, mae prosiect parhaus dan nawdd Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau yn seiliedig ar ei waith “Humphrey Llwyd – Inventor of Britain”, a’r flwyddyn nesaf bydd canlyniadau’r prosiect hwn yn cael eu dangos ochr yn ochr ag arddangosfa fawr am Llwyd yma yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Cynhelir yr arddangosfa bresennol rhwng 20 a 31 Awst yn Ystafell Summers. Dewch draw i ddysgu mwy am y gŵr a roddodd Cymru ar y map.

Postiwyd - 09-08-2018

#CaruMapiau / Casgliadau / Newyddion a Digwyddiadau

#CaruMapiau – Dr Shaun Evans

Dr Shaun Evans yw Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, canolfan ymchwil i Gymru gyfan sydd wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Bangor ac sy’n edrych ar faterion yn ymwneud â hanes, diwylliant a thirweddau Cymru drwy lygaid ei hystadau a’u casgliadau treftadaeth ddiwylliannol. @YstadauCymru

‘Dydi’r lle yma ddim digon mawr i’r ddau ohonon ni’ – beth sy’n digwydd ar ffiniau ystadau?

Mae fy nghyfraniad terfynol i’r gyfres o flogiau ar fapiau ystadau Cymreig yn canolbwyntio ar thema ffiniau. Fel y trafodwyd o’r blaen, roedd perchenogaeth tir yn rhan allweddol o hawliau’r uchelwyr Cymreig i statws, anrhydedd ac awdurdod. Roedd y cysylltiadau hyn rhwng tir a grym yn arwain yn aml at haeriadau cryfion ynghylch eu tiriogaeth gan berchenogion ystadau a dyna oedd un o’r prif ysgogiadau i gynhyrchu mapiau ystâd: cofnodion sy’n pwysleisio’n weledol leoliad, maint a chyfansoddiad tiriogaeth unigolion.

Comisiynwyd y mwyafrif llethol o fapiau ystadau i ddangos y tiroedd a oedd yn perthyn i un ystâd. Fel rheol, ni ddangosir fawr ddim manylion am dir nad oedd yn eiddo i’r unigolyn a gomisiynodd y map. Fodd bynnag, maent yn nodi’n aml pwy oedd yn berchen ar y tiroedd cyfagos, gan nodi enwau tirfeddianwyr cymdogol ar ymylon y tiriogaethau a farciwyd ar y map. Gwelir hyn yn arbennig os nad oedd yr ystâd dan sylw yn uned gyfan gyda’i gilydd, ond yn hytrach yn glytwaith o diroedd wedi’u cymysgu â daliadau ystadau eraill.

Y cwestiwn rwyf eisiau edrych arno yn y blog hwn yw beth oedd yn digwydd ar y ffiniau rhwng dwy ystâd?

Roedd ffiniau yn aml wedi’u nodi yn y tirwedd gan nodweddion ffisegol megis coed, afonydd, gwrychoedd, waliau a ffosydd. Ceir hefyd lawer o enghreifftiau yng Nghymru o gerrig ffiniau yn nodi ffiniau ystâd yn y tirwedd, megis ar y Mynyddoedd Du yn Sir Frycheiniog, lle gwelir llinell o gerrig o ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn nodi ffiniau tiroedd teulu Macnamara o Llangoed Hall. Mewn rhai mannau ceid hefyd draddodiad o ‘guro’r terfynau’, lle roedd grwpiau o bobl leol yn cerdded o amgylch terfynau maenor neu blwyf, a thrwy hynny sicrhau bod y terfynau yn ddwfn yng nghof y boblogaeth leol.

Er gwaetha’r ceisiadau hyn i sicrhau terfynau, roeddent yn destun anghydfodau cyson, a allai’n aml arwain at achosion cyfreithiol.

Yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ceir map sy’n canolbwyntio ar ffiniau dwy ystâd a oedd yn sefyll o amgylch rhan o Afon Cothi ym mhlwyf Cynwyl Gaeo yn Sir Gaerfyrddin. Mae’n ymddangos i’r map gael ei gynhyrchu mewn ymateb i achos cyfreithiol a ddaeth gerbron Llys y Sesiwn Fawr yn 1778 gan John Johnes, sgweier Dolaucothi, yn erbyn William Davys o Kencoed (Cefn-Coed Mawr) yn ymwneud â ‘the watercourse’ ( Eaton Evans & Williams Solicitors Records, 3281, 7469).


Ymgais yw’r map i wahaniaethu rhwng y ddwy ystâd, gyda thiroedd Mr Johnes wedi’u hamlinellu mewn du a rhai Mr Davys mewn coch a gwyrdd (roedd y tiroedd mewn gwyrdd yn rhai a ddaeth i feddiant Mr Davys yn ddiweddar, a chyn hynny’n rhan o ystâd Millfield/Maesyfelin). Mae’r map yn dangos pa mor agos oedd y ddau dŷ ac er mai plasty Dolaucothi yn amlwg oedd yr adeilad gwychaf (gyda gerddi ffurfiol o’i amgylch ac adeiladau allan yn cynnwys ysgubor a melin), mae’r map yn rhoi’r argraff bod Kencoed yn rhy agos i fod yn braf. Roedd y ddwy ystâd yn ymyrryd â haeriadau tiriogaethol ei gilydd.

Mae llinell felen ar y map yn nodi’r terfyn rhwng y ddwy ystâd, sydd gan mwyaf yn dilyn llwybr yr afon, er bod dwy ran fechan, wedi’u nodi mewn glas, y cyfeirir atynt fel ‘unknown property’. Mae 28 o rifau wedi’u nodi ar y tiroedd sy’n ffinio’r afon ac mae’r rhain yn gysylltiedig â nodiadau ac eglurhadau ysgrifenedig ar ochr y map.

Yr hyn a ddaw i’r amlwg o’r nodiadau hyn yw bod y ddwy ystâd wedi bod yn gwneud defnydd helaeth o’r afon fel rhan o’u cynlluniau i reoli tir ac adnoddau. Cyfeiria dau o’r nodiadau at ‘the water diverted from its usual channel to Kencoed’ a ‘the trench made by Richard Davies about 30 years past to convey water to Kencoed’; tra cyfeirir hefyd at ‘the reservoir of water for watering Cae-cwm-yr-hen-dŷ Issa and other lands of Dolecothy demesne’ ac ‘a trench to convey water to Cae Rodyn & other lands of Dolecothy demesne in winter and spring for watering the same’.

Roedd ystadau Dolaucothi a Kencoed wedi ailgyfeirio neu sianelu’r afon i gwrdd â’u hanghenion, gyda nodiadau’n cyfeirio at y canlynol:

– ‘The place the water formerly divided, part going to the mill and the remainder thro Henberllan to Dolecothy mansion’;
– ‘The channel of the watercourse formerly in the upper part of Cae Rodyn and Cae Tŷ Bach’;
– ‘That part of the trench which conveyed the water by Waynnefain hedge, years past & upwards’;
– ‘A trench that formerly conveyed the water to Dolecothy’.

Fodd bynnag, nid oedd y cynlluniau’n gydnaws â’i gilydd, gan arwain at anghydfod ynghylch yr adnoddau dŵr. Mae un o’r nodiadau’n crybwyll ‘the new trench cut by Mr. Johnes and ye water diverted from thence by Mr. Davys’ servants to the ancient channel’; ac mae eraill yn cyfeirio at ‘the trench that conveys the water in dispute to Kencoed’ a ‘the trench for conveying the water in dispute to water Cae-cwm-yr-hen-dŷ Issa and other lands at Dolecothy demesne.’ Yn ogystal â’r anghydfod ynghylch y dŵr, roedd y gwahanol gynlluniau a oedd wedi arwain at ailgyfeirio’r afon wedi symud, neu o leiaf gymhlethu, y terfyn rhwng y ddwy ystâd, gydag un o’r nodiadau’n cyfeirio at ‘the piece of land in dispute’.

Ni wyddys beth oedd canlyniad yr achos yn y Sesiwn Fawr, er bod y map yn rhoi’r argraff nad oedd yr ardal yn gallu cynnal honiadau’r ddwy ystâd gymdogol. Nid yw’n syndod efallai i Kencoed a’r tiroedd o’i gwmpas gael eu prynu gan ystâd Dolaucothi yn 1856 (Dolaucothi Estate Records, 179). Roedd agosrwydd Kencoed i’r ystâd fwy, yn ogystal â’r gystadleuaeth roedd yn ei achosi o ran defnyddio’r afon, yn ysgogiad sylweddol i gyfuno’r ddwy ystâd, gan lyncu’r tiroedd a dod â hwy o fewn cylch awdurdod Dolaucothi.

Dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn bwriadu hyrwyddo ymchwil bellach i gasgliadau Cymru o fapiau ystadau. I gael gwybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith, newyddion a digwyddiadau, anfonwch e-bost at iswe@bangor.ac.uk i danysgrifio i’n rhestr ohebu.

Postiwyd - 02-08-2018

#CaruMapiau / Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau

#CaruMapiau – Shaun Evans

Dr Shaun Evans yw Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, sef canolfan ymchwil Cymru gyfan ym Mhrifysgol Bangor sy’n edrych ar faterion yn ymwneud â hanes, diwylliant a thirweddau Cymru, drwy lygaid yr ystadau a’u casgliadau treftadaeth ddiwylliannol.  @YstadauCymru

Coed a choetiroedd

Roedd yr hanesydd a’r ecolegydd Oliver Rackham (1939-2015) yn honni mai’r unig ffodd y gellir deall natur coetiroedd yw trwy brosesau hanesyddol. Yng nghyd-destun Cymru, nid yw’r ddealltwriaeth o’r safbwyntiau hanesyddol hyn wedi’i datblygu gymaint ag y gallai, ac mae’n parhau’n ddibynnol iawn ar waith hollbwysig William Linnard yn Welsh Woodlands and Forests: History and Utilization (1982).

Cyn yr 20fed ganrif roedd y mwyafrif llethol o goetiroedd a choed yng Nghymru wedi’u lleoli ar diroedd a oedd yn eiddo i ystadau bonedd. Mae map o ddemên Bodrhyddan yn Sir y Fflint, sydd wedi ei gynnwys mewn atlas o’r ystadau yn dyddio o 1756, yn rhoi rhywfaint o syniad o le blaenllaw coed a choetiroedd yn nhirweddau’r ystadau. Yma, mae coed yn rhan allweddol o’r gerddi sy’n amgylchynu Bodrhyddan; gwelir eu bod ar hyd ochr y brif ffordd at y tŷ ac ar hyd y llwybrau a’r lonydd eraill; saif ambell goeden fawr (coed derw mwy na thebyg) yn y parcdir; mae ardaloedd bychain o goedlannau a phorfeydd coediog; gwelir bod coed yn nodi hen ffiniau caeau; ac maent yn rhan o’r gwrychoedd.


Ers yr oesoedd canol, bu coetiroedd yn rhan bwysig o dirweddau hamdden uchelwyr; roedd coedwigoedd canoloesol yn rhan annatod o hela. Yn ddiweddarach, roedd coed a choetiroedd yn aml yn rhan hanfodol o greu tirweddau wedi’u dylunio, gyda phwyslais ar yr hardd a’r anhygoel. Gwelir awgrym clir o hyn yng nghynllun John Davenport yn 1791 o welliannau arfaethedig yn Nanteos, plasty Thomas Powell yn Sir Aberteifi. Ni chafodd y cynllun ei weithredu, ond mae’n dangos safle a rhywogaethau’r coedd a oedd i’w plannu neu eu cadw i greu’r dirwedd esthetig ddymunol.



Roedd pwyslais symbolaidd pwysig ar goed unigol mewn nifer o’r ystadau. Roedd Ceubren yr Ellyll, derwen gau fawr ar ystâd Nannau yn Sir Feirionnydd, yn ymgorffori chwedl a oedd wrth wraidd hunaniaeth y teulu Vaughan. Credwyd mai yn y fan hon y gorweddai ysgerbwd ac ysbryd Hywel Sele (un o hynafiaid teulu’r Vaughan) a laddwyd gan Glyndŵr ar ôl gweithred fradwrus. Ar ôl i’r hen goeden dderw ddisgyn yn 1813, defnyddiwyd y pren i greu amrywiaeth o drysorau teuluol ar gyfer y Vaughaniaid, yn cynnwys set o chwe chwpan llwncdestun ar ffurf mes, a oedd yn symbol o gysylltiadau pwysig â hynafiaeth a thir, sef eu bod wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn yr ardal leol. Mae enghreifftiau niferus o’r math yma. Mae’n arwyddocaol, bod Meredith Hughes yn ei fap yn 1774 o ystâd Bachymbyd yn Sir Ddinbych, wedi sicrhau bod tair castanwydden o’r enw ‘Y Tair Chwaer i’w gweld yn y tiroedd islaw Bachymbyd. Yn ôl chwedl deuluol, plannwyd y coed ar ddiwedd y 17eg ganrif gan dair chwaer o’r teulu Salesbury i nodi eu cariad a’u hoffter o’i gilydd. Yn yr un modd â Derwen Nannau, mae’n enghraifft o berchnogion yr ystâd yn cysylltu rhannau o’u hunaniaeth â choed ar eu tir.



Yn ogystal â’u harwyddocâd esthetig a diwylliannol, roedd coed a choetiroedd yn chwarae rôl economaidd bwysig yng ngweithrediad yr ystadau. O gyfnod cynnar, roeddent yn aml yn cael eu rheoli’n ddwys, yn bennaf trwy docio a phrysgoedio er mwyn darparu amrywiaeth enfawr o gynhyrchion, tanwydd a bwyd yn amrywio o siarcol, i goed pensaernïol, mes ar gyfer porthiant anifeiliaid a rhisgl ar gyfer trin crwyn. Roedd coetiroedd yn gallu bod yn asedau economaidd gwerthfawr i’r ystadau ac roeddent yn aml yn cael eu diogelu’n ffyrnig gan landlordiaid a’u hasiantau. Gwelir tystiolaeth o’u harwyddocâd economaidd gan benderfyniad rhai teuluoedd i gomisiynu mapiau yn benodol am y coetiroedd yn eu perchnogaeth. Enghraifft dda o hyn yw map 1774 o Goed Canaston, sy’n gysylltiedig ag ystâd Slebech yn Sir Benfro.

Daeth coedwigaeth yn rhan fawr o waith rhai ystadau, yn arbennig o’r 19eg ganrif, a gwelir hyn gyda chynlluniau coedwigo enfawr, cyflogi mwy o goedwigwyr proffesiynol (yn enwedig o’r Alban) a sefydlu melinau mawr ar yr ystadau.

Mae dogfennau ystadau, yn cynnwys mapiau ystadau, yn chwarae rhan hollbwysig i wella ein dealltwriaeth o’r ‘prosesau hanesyddol’ sy’n sail i asedau coetiroedd Cymru. Yn y Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ym Mhrifysgol Bangor, rydym yn dechrau ystyried rhai o’r cyfleoedd ymchwil sy’n cydgysylltu ecoleg, hanes, coedwigaeth, rheoli tir ac archifau – gan gysylltu ymchwil gyda pholisi ac ymarfer. Yn gynharach eleni, gwnaethom greu partneriaeth gyda Chymdeithas Myfyrwyr Coedwigaeth Bangor (BFSA)  a’r elusen Treftadaeth Coetiroedd  i drefnu digwyddiad oedd yn canolbwyntio ar orffennol, presennol a dyfodol rheoli coetiroedd. Hynny yw, sut y gellir defnyddio gwell dealltwriaeth o fframwaith hanesyddol rheoli coetiroedd ar ystadau Cymru i hyrwyddo egwyddorion rheoli coetiroedd cynaliadwy yn yr 21ain ganrif yng Nghymru?

Un ffordd bwysig y gall mapiau ystadau gyfrannu at yr agenda hwn yw trwy’r Rhestr Coetiroedd Hynafol (AWI) , a reolir gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r set ddata hon yn nodi ardaloedd yng Nghymru sydd wedi eu gorchuddio’n barhaus â choetiroedd ers tua 1600, gan felly cynhyrchu ecosystemau sy’n tueddu i fod yn fwy amrywiol o ran ecoleg, yn bwysig o ran diwylliant ac yn haeddu cael eu hamddiffyn. Hyd yma, mae’r Rhestr o Goetiroedd Hynafol yng Nghymru wedi ei seilio’n bennaf ar y coetiroedd a farciwyd ar fapiau OS o’r 19eg ganrif. Mae’n ymddangos bod cyfle gwirioneddol i archwilio sut y gellir defnyddio mapiau cynharach o ystadau (a dogfennau cysylltiedig o ystadau) i wella cywirdeb, sylw, dyfnder a manylion y Rhestr o Goetiroedd Hynafol, gan gynnwys nodi sut mae ffiniau coetiroedd wedi newid dros amser a dynodi’r ‘hen’ goed.

Dyma un o’r gwahanol ffyrdd y gellir defnyddio hen fapiau ystadau fel adnodd defnyddiol ar gyfer dyfodol tir Cymru.

Postiwyd - 26-07-2018

#CaruMapiau / Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau

#CaruMapiau – Shaun Evans

Dr. Shaun Evans yw Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, canolfan ymchwil Cymru Gyfan a leolir ym Mhrifysgol Bangor ac sy’n ymchwilio i faterion yn ymwneud â hanes, diwylliant a thirweddau Cymru, trwy brismau ystadau a’u casgliadau o dreftadaeth ddiwylliannol.  @YstadauCymru

Map 17eg ganrif o Whitlera, Sir Gaerfyrddin

Yn fy mlog diwethaf soniais mai ond o ganol y 18fed ganrif mewn gwirionedd y cynyddodd y comisiynau ar gyfer mapiau ystadau yng Nghymru.  Cymharol brin yw’r enghreifftiau o’r ddwy ganrif gynt.

Yn ei chasgliadau, mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru lond llaw o fapiau ystâd o’r 16eg a’r 17eg canrifoedd gan gynnwys map Humfrey Bleaze o diriogaeth Castell Powys a gwblhawyd yn 1629 ac arolwg Robert Johnson 1587 o faenorau Iarll Caerwrangon yng Nghrucywel a Thre-tŵr yn Sir Frycheiniog.

Mae arolwg Robert Johnson yn arwyddocaol am ei fod yn crynhoi’n daclus y symud o’r disgrifiad testunol  i ddarluniad cartograffig.  Yn arferol, byddai arolygon traddodiadol o ystadau yn cynnwys disgrifiadau ysgrifenedig a oedd yn nodi manylion megis enwau, maint a chyfansoddiad ffermydd unigol, enwau’r tenantiaid, y rhent blynyddol a manylion unrhyw arferion a berthynai i’r tir.   Mae arolwg Johnson yn cyfuno’r ffurf hwn o arolwg testunol â set o fapiau wedi’u cynhyrchu’n gain gan greu enghraifft gynnar o’r hyn oedd yn ei hanfod yn ‘atlas’ o’r ystâd.   Roedd map Humfrey Bleaze o ystâd Gastell Powys yn gynnyrch o fath gwahanol:  un ddalen fawr o felwm yn darlunio prif nodweddion tirwedd yr ystâd, gydag enw a maint y caeau (mewn aceri, ffyrdd a chlwydi) wedi’u hysgythru ar wyneb y ddogfen.  Roedd y ddau gynnyrch hyn yn cael eu comisiynu’n benodol gan y tirfeddianwyr, gyda’r bwriad o’u defnyddio a’u harddangos am dymor hir.

Serch hynny, mae yna fathau eraill o fapiau ystadau cynnar a oedd at ei gilydd yn llai nodedig.  Un enghraifft a welir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw’r map pen ac inc syml o Whitlera ym mhlwyf Llanfynydd, Sir Gaerfyrddin sy’n ymddangos fel pe bai’n dyddio o ganol y 17eg ganrif.  Mae’r map wedi’i fraslunio ar ddalen sengl o bapur sy’n dangos  ‘the mease [h.y. tŷ] of Whitlera’,  ynghyd ag adeilad cyfagos a’r tiroedd gerllaw.

Mae sawl nodwedd arall o’r dirwedd yn cael ei darlunio gan gynnwys yr Afon Sannan a ‘the hie waye’.   Yn rhai o’r caeau dangosir rhesi o farciau sy’n ymdrech efallai i ddangos eu bod wedi cael eu haredig.  Mae ardaloedd eraill yn cynnwys clystyrau o  ‘furrs’ [eithin], sy’n awgrymu tir diffaith heb ei drin.  Hefyd, darlunnir nifer o goed sy’n amrywio o’r hyn sy’n ymddangos fel llain o goetir bychan i goeden enfawr sy’n sefyll ar ei phen ei hun yng nghanol un o’r caeau a nifer o goed llai yn ffurfio rhan o un o’r ffiniau gwrychoedd.  Mae’r gwrychoedd pigog hyn (sydd o bosibl yn debyg i’r ddraenen wen) yn amgylchynu pob cae,  a cheir ymdrech amlwg yma i ddarlunio clawdd mwy hirsefydlog i’r dwyrain.

Mae enwau rhai o’r caeau wedi’u marcio ar y map, megis ‘kae dan y ty’, ‘kae trwynvain’, ‘wayn bwll’ a ‘kaer ddintir’.   Mae mwyafrif y caeau hyn wedi’u marcio fel ‘whitleras lande’ – sy’n dangos eu cysylltiad â’r tŷ.   Serch hynny,  doedd y tiroedd a gafodd eu cynnwys ar y map ddim wedi’u hymgorffori dan berchnogaeth un unigolyn neu ystâd;  roedd ‘tir whitleras’ yn gymysg â thir  ‘Owen ap Hennri & Mallt verch Wallter ap Thomas’, ‘Kae Koch, being the lande of Ieuan Lloyd ap Gwillym Vychan’ ac wedi’i amgylchynu i’r de gan diroedd ‘Sir William Thomas, Knight’.

Prif bwrpas y map oedd darlunio maint a ffiniau’r tiroedd oedd yn gysylltiedig â Whitlera.  O’i gymharu ag arolwg 1587 Robert Johnson o Grucywel a Thre-tŵr a map Humfrey Bleaze o Gastell Powys, mae llai o bwyslais ar arddangosiad.  Yn wir, roedd y map wedi’i blygu a’i gadw fel rhan o gasgliad gweithredoedd a dogfennau’n ymwneud â Whitlera.   Y cofnodion cysylltiedig hyn sy’n rhoi rhywfaint o syniad i ni pam efallai fod y map wedi’i lunio yn y lle cyntaf.

Ers  o leiaf ddechrau’r  16eg ganrif roedd perchenogaeth Whitlera  yn destun dadlau ac achosion cyfreithiol.  Yn 1604 daeth Richard ap Rutherch ac eraill ag achos cyfreithiol yn Llys Cyngor Cymru a’r Gororau i ddatrys yr hawl i breswylfod  a thiroedd Whitlera.  Chwe blynedd yn ddiweddarach, roedd Llys y Sesiwn Fawr yn barnu ynghylch honiad o dresmasu ar diroedd o gwmpas Whitlera.  Erbyn y 1620au, roedd tŷ Whitlera a rhywfaint o’r tiroedd cyfagos dan berchenogaeth Thomas ap Richard ap Ruddergh a’i fab ac etifedd, William Thomas ap Ruddergh.  Yn 1627 mae’n ymddangos iddynt werthu’r tiroedd i Griffith Lewis, henadur yng Nghaerfyrddin, a werthodd y tiroedd rhyw ddwy flynedd yn ddiweddarach i Thomas Newsham, Abersannan.  Yn ystod yr ychydig ddegawdau nesaf codwyd morgais ar y tiroedd yn rheolaidd hyd nes i Nicholas Williams, Rhydodyn (Edwinsford) eu meddiannu ym mhen hir a hwyr yn y 1670au.

Mae’r cofnodion sy’n ymwneud â’r trafodion hyn yn ffurfio rhan o Archif Ystâd Edwinsford ac maen nhw’n rhoi cyd-destun defnyddiol i ni am y rheswm i greu’r map.  Yn ystod y 16eg a’r 17eg canrifoedd, doedd hi ddim yn anghyffredin i gomisiynu mapiau fel tystiolaeth i ategu achosion llys yn ymwneud â pherchenogaeth tir.  Mae’n bosibl bod y map wedi’i lunio fel rhan o’r achosion a glywyd gan y Cyngor yn Y Mers yng Nghymru neu yn y Sesiwn Fawr.   Fodd bynnag, o ystyried ansicrwydd y gorffennol ynghylch perchenogaeth y tiroedd, mae’n fwy tebygol bod naill ai Griffith Lewis, Thomas Newsham neu Nicholas Williams wedi gwneud cais am y map i’w atodi at y gweithredoedd gan dystiolaethu i’w meddiant hwy o’r tiroedd.   Yn y naill achos neu’r llall, mae’n amlwg nad oes modd dirnad y map yn llwyr heb gyfeirio at y corff ehangach o gofnodion sy’n ymwneud â hanes perchenogaeth Whitlera.  Mae’r cyd-destun yn allweddol.

 

<- Cofnodion Hŷn

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog