Blog - Casgliadau

Postiwyd - 13-02-2019

Casgliadau

Profiad Gwaith

Yn ystod fy nhrydedd blwyddyn fel myfyriwr israddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth bues yn gwirfoddoli’n selog yn y Llyfrgell. Cyfrannais yn bennaf at brosiect digideiddio Llyfr y Cofio, cyfrol sy’n coffáu o gwmpas 35,000 o ddynion a merched a fu farw yn ystod y Rhyfel Mawr. Eleni, wrth ddilyn MA Hanes Cymru roeddwn yn awyddus i gynnal cysylltiadau â staff y Llyfrgell ac ennill ar y cyfle i fagu profiad gwaith pellach mewn sefydliad sy’n apelio’n fawr ataf, yn arbennig o fewn cyd-destyn gyrfaol.

Yn yr Adran Archifau a Llawysgrifau cyfrannais yn bennaf at brosiect catalogio casgliad o bapurau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Ychydig fisoedd ynghynt, roedd archif y GIG wedi hysbysu’r Llyfrgell o’u bwriad i daflu’r holl ddogfennau stordy penodol. Prif gynnwys y stordai oedd cynlluniau a lluniadau trydanol a phensaernïol gwreiddiol ar gyfer ysbytai Cymreig newydd. Roedd y mwyafrif o’r dogfennau yn dyddio’n ôl i’r 1970au a’r 1980au ac felly’n gynrychiolaeth bwysig o ddatblygiad iechyd cyhoeddus Cymreig a’r esblygiad uchelgeisiol a welwyd tuag at ddiwedd yr ugeinfed ganrif yng Nghymru. Cytunodd y Llyfrgell yn unol â’i pholisi’r i ddiogelu dogfennau pwysig o natur Cymreig i gasglu’r deunydd. Rhoddwyd rhybudd o wythnos yn unig i’r Llyfrgell ddethol a chasglu’r dros 400 o focsys dysgais fod y math yma o hysbyseb fyr rybudd gan fudiadau yn gymharol gyffredin, sy’n golygu bod yn rhaid i’r Llyfrgell weithio yn erbyn y cloc yn aml er mwyn sicrhau bod casgliadau pwysig yn cael eu diogelu a’u cadw. Wrth ddysgu am gefndir y casgliad, sylweddolais nad yw gwaith yr Archifydd wedi ei gyfyngu i bedair wal y gweithle yn unig ac y bod angen mynd allan yn achlysurol i gasglu’r deunydd, dyma gysyniad nad oedd o reidrwydd wedi croesi fy meddwl cyn hyn.

 

Rhoddwyd y dasg i mi o nodi natur, ansawdd a phwrpas yr amryw bapurau a gynhwyswyd ym mocsys cyfres A (Architectural) ac ED (Electrical Drawing). Diben fy ngwaith oedd trefnu y casgliad a chreu cofnod cychwynnol ohonynt. Defnyddiais medalwedd Excel er mwyn nodi prif nodweddion y papurau; yr Ysbyty cysylltiedig, teitl y prosiect dan sylw, dyddiadau bras y cynlluniau ynghyd ag unrhyw fanylion perthnasol eraill.

Gofynwyd i mi nodi unrhyw ddyblygon a ymddangosai yn y bocsys gan mai yn yr ystyr hwn un copi o bopeth yn unig y dymunai’r Llyfrgell gatalogio. O achos natur ailadroddus y cynlluniau roedd hyn yn dasg gymharol heriol, mân wahaniaethau yn unig a fodolai rhwng nifer o’r darluniadau ac felly roedd gofyn cael llygaid craff er mwyn sicrhau nad oeddem yn taflu’r unig gopi o gynllun penodol.

Drwy weithio ar un casgliad yn unig am nifer o ddyddiau sylweddolais natur llafurus y broses o gatalogio. Serch hynny, drwy ganolbwyntio ar y prosiect yma’n unig cefais y cyfle i fagu dealltwriaeth dyfnach o’r deunydd ac ymgyfarwyddo well â phroses catalogio’r Adran.

Cefais gryn fwynhad yn gatalogio rhai lluniadau penodol fel y rhai a luniwyd ar gyfer ardaloedd ymlacio ar Ward Pediatrig Ysbyty Glan Clwyd, Sir Ddinbych. Roedd y casgliad penodol yma o luniadau yn rhai cymharol unigryw gan eu bod yn cynnwys nifer o gynlluniau ar gyfer murluniau wedi’u hanelu at blant. O achos eu natur unigryw roeddwn yn awyddus i dynnu lluniau ohonynt.

Wrth weithio gyda’r casgliad sylweddolais yr heriau sy’n wynebu Archifyddion yn sgil diffyg cadwraeth flaenorol. Roedd hi’n amlwg nad oedd y penseiri wedi gofalu am eu cynlluniau ar ôl iddynt gwblhau’r gwaith. Gwthiwyd y mwyafrif o’r darluniadau i mewn i focsys hir, cul a oedd yn anaddas i storio cryn gymaint o ddarluniadau. Yn sgil blynyddoedd o esgeulustra roedd ansawdd y darluniadau wedi dirywio. Cefais fewnwelediad sut mae Archifyddion yn ymdrin ag her o’r fath yn y tymor byr. Gweler gyferbyn, mewn ymgais i atal unrhyw ddirywiad pellach, llaciwyd rhai o’r bocsys ac ail gaewyd hwy drwy ddefnyddio llinyn. Drwy wneud hyn, ni chywasgwyd y deunydd cymaint, diogelwyd y casgliad dros dro nes y byddai’r dogfennau yn derbyn sylw cadwriaethol pwrpasol.

Elin Tomos, Myfyriwr MA Hanes Cymru, Prifysgol Aberystwyth (Trydar: @ELINtomos)

Postiwyd - 04-02-2019

Casgliadau

Tanseilio Sancteiddrwydd Celf

Dim fy ngeiriau i ond rhai Dai Evans o Frynaman neu ‘Y Dyn Swreal’ fel yr oedd hefyd yn cael ei adnabod. Mae enigmatig ac unigryw yn sicr yn ddau air a ellir eu defnyddio i ddisgrifio David Augustus Evans (1924-2013) a’i waith. Ai ffotograffydd, artist gosod, swrealydd, sylwebydd cymdeithasol neu’n ddigrifwr ydoedd? Y pump i gyd a mwy tu hwnt yn ôl pob tebyg. Gellid hefyd ychwanegu ysbrydoliaeth at y rhestr – mae’r awdur Fflur Dafydd a’r artist Carwyn Evans wedi’u hysbrydoli gan ei waith.

 

Roedd Dai Evans yn Gadeirydd ar Glwb Camera Dyffryn Aman a’n ffigwr adnabyddus yng nghlybiau camera dros De Cymru fel cystadleuwr rheolaidd, er nid oedd ei natur sarhaus at chwaeth pawb (y beirniaid yn bennaf). Gyda’i ddefnydd o fodelau, baw gwartheg, ieir plastig, amryw o bropiau eraill a synnwyr cyffredin drygionus, roedd ei waith yn denu sylw cynulleidfaoedd ifancach ac yn trafod ystod o themau gan gynnwys llenyddiaeth, newid cymdeithasol a digwyddiadau rhyngwladol a phersonol. Mae ei hiwmor sych a’i sgiliau arsylwi craff yn dod a’u ffotograffau’n fyw.

Ymddangosodd ar y teledu ar sawl tro gan gynnwys Y Sioe Gelf a phrosiect y BBC Capture Wales. Gyda dros bedwardeg o’i brintiau yn cyrraedd Llyfrgell Genedlaethol Cymru bydd ei hiwmor yn parhau i ysbrydoli eraill i wneud argraff eu hunain.

W. Troughton

Tagiau:

Postiwyd - 28-01-2019

Casgliadau / Collections / Heb ei gategoreiddio

Cyhoeddiad prin am farwolaeth Capten Cook

Mae’r Llyfrgell wedi prynu llyfr prin iawn gan Gymro oedd yn bresennol pan laddwyd yr arloeswr Capten James Cook.  Ganwyd David Samwell yn Sir Ddinbych yn 1751.  Roedd ganddo ddiddordeb arbennig mewn llenyddiaeth Saesneg a Chymraeg ac ym mudiadau diwylliannol Cymreig ei gyfnod, ac ysgrifennodd lawer o farddoniaeth Gymraeg a Saesneg.  Roedd yn Llywydd Cymdeithas y Gwyneddigion yn 1797.  Mae’r Llyfrgell yn berchen ar ei lawysgrifau, gan gynnwys gohebiaeth rhyngddo a Iolo Morganwg.

 

 

Hwyliodd Samwell gyda’r Capten Cook fel “surgeon’s first mate” ar y Resolution yn 1776 ac roedd yn llygad-dyst pan laddwyd Cook mewn ysgarmes gyda rhai o’r brodorion yn ynys Hawaii yn 1779.  Ysgrifennodd yr hanes yn llawn a’i gyhoeddi yn 1786 ar ôl iddo ddychwelyd i Loegr mewn cyfrol a deitlwyd A narrative of the death of Captain James Cook, ac mae’r Llyfrgell eisoes yn berchen ar ddau gopi o’r llyfr hwnnw.  Ond yn yr un flwyddyn cyhoeddwyd cyfieithiad o’r gwaith i’r Ffrangeg gyda’r teitl Détails nouveaux et circonstanciés sur la mort du Capitaine Cook.  Mae hwn yn gyhoeddiad prin iawn gyda dim ond tri chopi yn hysbys mewn llyfrgelloedd eraill trwy’r byd i gyd, felly pan ddaeth copi ar werth achubwyd ar y cyfle i ychwanegu’r eitem bwysig hon at gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

 

Timothy Cutts

Llyfrgellydd Llyfrau Prin

Postiwyd - 24-01-2019

Casgliadau

Dwynwen

Dwynwen yw nawddsantes cariadon Cymru a chedwir ei dydd gŵyl ar 25 Ionawr. Dywedodd Dafydd ap Gwilym, neb llai, ei bod yn feistres ar leddfu galar llanciau trallodus, a gofynnodd am ei help i ddenu Morfudd yn gariad iddo.

Roedd Dwynwen yn un o ferched hanesyddol y bumed ganrif, a gwnaeth ei chartref ar Ynys Llanddwyn ym Môn. Pan fynnodd ei chariad, Maelon Dafodrull, ffafrau rhywiol ganddi, gweddïodd Dwynwen ar Dduw a chafodd ddiod a’i rhyddhaodd hi o’i chariad at Maelon; trodd Maelon yn lwmp o iâ dan ddylanwad yr un ddiod. Cafodd Dwynwen dri dymuniad: bod Maelon yn cael ei ddadrewi, ei bod hi’n cael ei hurddo’n santes y cariadon, a’i bod hi’n cael byw yn ddibriod.

Daeth Dwynwen yn enwog am ei gallu i ddatrys problemau cariadon, ond hefyd am ei sgiliau iacháu. Weithiau byddai’n cyflawni gwyrth gyflym, o hirbell, yn enwedig yn achos babanod a phlant sâl, a dywedir ei bod wedi atgyfodi mwy nag un oedd yn ymddangosiadol farw. ‘Iechyd a golud a gaid / Synnwyr a hawsáu enaid’, meddai Dafydd Trefor, ac mae’n amlwg fod iechyd corfforol, cyfoeth, doethineb, ac esmwythder eneidiol i gyd i’w cael o law Dwynwen.

Mae olion o gwlt Dwynwen yn Nhresilian ym Morgannwg, a deuai cariadon yno i selio eu tynged drwy daflu carreg dros fwa naturiol yn y graig. Mae eglwys wedi’i chysegru i Ddwynwen ger Camelford yng Nghernyw, ac efallai fod cwlt iddi yn Llydaw (dan yr enw Santes Douine neu Twine) lle roedd yn enwog am wella pob twymyn.

Blog gwadd gan Rhiannon Ifans, awdur ac arbenigwr ar lenyddiaeth ganoloesol Cymraeg.

Tagiau: ,

Postiwyd - 18-01-2019

#CaruMapiau / Arddangosfeydd / Casgliadau

Humphrey Llwyd – lluniwr Prydain

Ar Ionawr 19 fe agorir arddangosfa ddiweddaraf y Llyfrgell: Lluniwr Prydain – Bywyd a Gwaith Humphrey Llwyd. Yr arddangosfa hon yw’r ddiweddaraf mewn cyfres o ddigwyddiadau i nodi 450 mlwyddiant marwolaeth Humphrey Llwyd, awdur y map cyhoeddiedig cyntaf o Gymru. Am bythefnos yn ystod mis Awst diwethaf, i gyd-fynd â dathliad y diwrnod ei hun, cynhaliwyd arddangosfa fechan, ond bydd yr arddangosfa fwy hon yn parhau am y chwe mis nesaf.

Mae Llwyd yn fwyaf adnabyddus am ei fap o Gymru, ond yn ogystal â bod yn arloeswr cartograffiaeth Cymreig fe’i ystyrir hefyd yn un o Dadau hanes Cymru o ganlyniad i’w waith Cronicla Walliae, y llyfr cyntaf am hanes Cymru i’w gyhoeddi yn yr iaith Saesneg, sydd yn seiliedig ar yr hen gronicl Cymreig Brut y Tywysogion.

Byddai hyn yn gyfraniad teilwng i unrhyw un ei adael yn etifeddiaeth i’w cenedl, ond yn ychwanegol at hyn bu Llwyd hefyd yn gyfrifol am gynorthwyo llywio Mesur Cyfiethu’r Beibl i’r Gymraeg drwy’r Senedd. Arweiniodd hyn at gyhoeddi’r Beibl yn Gymraeg, a fu’n ffactor allweddol yn llwyddiant yr iaith Gymraeg i oroesu hyd heddiw.

Mae dylanwad Llwyd yn ymestyn y tu hwnt i ffiniau Cymru; defnyddiwyd ei waith i gyfiawnhau’r Ymerodraeth Brydeinig (term y dywedir iddo ei fathu) ac hefyd y Diwygiad Seisnig. Prynwyd rhan o’i lyfrgell helaeth gan y Goron, ac maent nawr yng nghasgliad y Llyfrgell Brydeinig.

Cynhelir yr arddangosfa newydd hon ar y cyd â Lluniwr Prydain; holl weithiau Humphrey Llwyd, prosiect a noddir gan AHRC.  Dros y misoedd nesaf, traddodir nifer o ddarlithoedd gan aelodau’r tîm prosiect, a Humphrey Llwyd hefyd fydd thema Carto-Cymru, Symposiwm Mapiau Cymru eleni.

Bydd yr arddangosfa hon yn parhau tan Mehefin 29, a ceir gwybodaeth bellach am ddigwyddiadau cysylltiedig ar wefan y Llyfrgell.

Huw Thomas
Curadur Mapiau

Postiwyd - 07-01-2019

Casgliadau / Collections

Nofio yn y môr – mae’n iachusol!

Beth yw’r peth cyntaf sy’n dod i’ch meddwl wrth ystyried gwyliau’r Nadolig a Blwyddyn Newydd? Nofio yn y môr? Wel, dyna fydd llawer yn ei wneud ar Ddydd San Steffan neu 1 Ionawr. Ar draws y wlad, mae niferoedd yn heidio i’r traethau yn eu gwisgoedd ffansi gan fentro i’r môr -boed i godi arian at elusen, derbyn her neu brofi dewrder. Ond feddylioch chi erioed am nofio yn y môr er mwyn gwella eich iechyd?

Ers canrifoedd mae meddygon wedi nodi’r manteision corfforol o ymdrochi mewn dŵr oer ac wedi cynghori ymweld â threfi glan y môr i wella afiechyd. Credir fod trochi yn nŵr hallt y môr dros gyfnod o wythnosau neu fisoedd yn gwella afiechydon i’r ysgyfaint a’r croen, yn gwella chylchrediad y gwaed a chryfhau’r system imiwnedd. ’Slawer dydd roedd ymweliad â glan môr yn fwy o feddyginiaeth na gwyliau ac i feddygon y ddeunawfed ganrif roedd tywod, tonnau a’r traeth fel ein fferyllfa heddiw! 

Gelwir y feddyginiaeth hon yn ‘thalassotherapy’, gair a fathwyd gan Hippocrates yn gyntaf i ddisgrifio effeithiau iachusol dŵr y môr. Daw o’r Groeg: thalassa sef ‘môr’ a therapeia sy’n golygu ‘therapi’ neu ‘iachad’.

Ymdrochwyr ar Draeth y De, Aberystwyth

Yn Remarks on Sea Air and Sea Bathing, llyfryn a gyhoeddwyd yn 1862, dywed y meddyg John Holt Elkes Stubbs:

‘A coldbath is a powerful tonic, particularly with children, and bathing in the open sea is the best form.’

Ynddo hefyd ceir disgrifiad y meddyg Erasmus Wilson o bwysigrwydd y croen wrth ymdrochi. Tybid bod croen unigolyn o faint a thaldra cyffredin gydag arwynebedd o dros 2,500 modfedd sgwar ac mae’n cynnwys dros 7,000,000 o groendyllau chwys. Mae’r ymateb o fywiogi a gaiff unigolyn wrth fynd i’r môr yn deillio o’r gronynnau hallt sy’n adfywio’r croen ac o’r sioc sy’n dod o brofi’r tonnau oer. Amsugnai’r croen y gronynnau hallt hyn a’r canlyniad oedd rhwystro afiechydion a gwella salwch.

Roedd y môr hefyd yn feddyginiaeth poblogaidd ar gyfer y Ddarfodedigaeth neu’r Diciâu hyd ddiwedd yr epidemig yn y 1860au. Aeth rhai meddygon gam ymhellach gan gynghori yfed dŵr y môr fel moddion gan ychwanegu mêl neu lefrith i wella’r blas.  Bu Dr. Richard Russell yn argymell ymdrochi ac yfed dŵr hallt i glaf gwahanglwyfus. Yn ei draethawd a gyhoeddwyd yn 1750, A Dissertation on the Use of Seawater in the Diseases of the Glands, Particularly, the Scurvy, Jaundice, King’s Evil, Leprosy and the Glandular Consumption, disgrifia glaf yn frech o’i gorun i’w sawdl gyda’r gwahanglwyf. Ei feddyginiaeth oedd ymdrochi’n ddyddiol yn y môr ac yfed peint o ddŵr hallt bob bore am naw mis.

Ar y cyfan, nid yw tymheredd y môr yn codi dros 67°F (19.4° Celsiws). Felly os ydych yn ddigon dewr i fentro i’r môr er mwyn eich iechyd ar 1 Ionawr 2019, ewch amdani! Ond diolchwch nad yw’r arfer o yfed dŵr hallt a llefrith yn parhau hyd heddiw!

Daw’r wybodaeth uchod o adran feddygaeth y Casgliad Print Cymreig. Mae’n gasgliad o adnoddau Cymraeg a Chymreig ym maes meddygaeth a iechyd sy’n dyddio o’r 1750au. Ceir 6,500 o eitemau boed yn lyfrau ar foddion cynnar, meddyginiaethau llysieuol, adroddiadau swyddogion iechyd trefol a gwladol ac adroddiadau ysbytai a chanolfannau iechyd meddwl. Hefyd ceir cyfres  lawn o adroddiadau a chofnodion y Welsh National Memorial Association (WNMA), Brenin Edward VII. Cymdeithas iechyd a ragflaenodd y GIG ac fe’i sefydlwyd yn 1911 i gynnig triniaeth rhad ac am ddim i’r Diciâu.

Prosiect newydd yn LlGC yw ‘Meddygaeth ac Iechyd yng Nghymru cyn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol’ wedi’i hariannu gan yr Ymddiriedolaeth Wellcome. Dros y flwyddyn nesaf byddwn yn catalogio a digido’r casgliad pwysig hwn, trysorau a fu’n angof yn rhy hir, gan gynnig mynediad ar-lein i’r cyhoedd, myfyrwyr a haneswyr meddygaeth.

Branwen Rhys
Rheolwr Prosiect Meddygaeth ac Iechyd yng Nghymru cyn y GIG

Tagiau: ,

Postiwyd - 02-01-2019

Casgliadau / Cerddoriaeth

Brenin y Cennin Aur

Ganed Mansel Treharne Thomas, OBE ger Tylorstown yn y Rhondda Fach yn 1909. Byddai’n tyfu i fod yn un o gyfansoddwyr mwyaf Cymru, trefnwr cerddoriaeth, arweinydd, hyrwyddwr cerddoriaeth a pherfformwyr Cymreig.

 Yn bymtheg oed enillodd Mansel ysgoloriaeth gerddoriaeth i astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol ,o dan y cyfansoddwr Benjamin Dale. Pan yn fyfyriwr cyfansoddodd ei ddarn cyntaf o bwys, sef y Cennin Aur / Daffodils (ar ôl 4:30 m) a ysgrifennwyd ar gyfer Côr Meibion Pendyrus yn yr 1920au. Cyhoeddwyd ei fersiwn ar gyfer côr cymysg yn 1939 gan Cwmni Cyhoeddi Gwynn, a byddai’n dod ag enwogrwydd mawr iddo.

Tudalen o ‘Cennin Aur’

Cyfansoddodd Mansel dros 150 o weithiau ar gyfer llais unigol yn ystod ei oes, gan gynnwys Caneuon y Misoedd a Môr. Fel cymaint o’i gyfoedion, byddai ysbrydoliaeth yn dod o farddoniaeth a chaneuon gwerin traddodiadol. Efallai fe’i cofir orau am ei gyfansoddiadau a’i drefniadau ar gyfer corau, ond mae hefyd wedi cyfansoddi a threfnu darnau offerynnol unigol, deuawdau a duet, ensembles, cerddorfa a bandiau.

Yn 1936, ymunodd Mansel Thomas ag Adran Gerdd newydd y BBC yng Nghaerdydd fel cynorthwyydd cerdd ac fel dirprwy arweinydd Cerddorfa Gymreig y BBC. Ar ôl cwblhau gwasanaeth rhyfel, dychwelodd fel Prif Arweinydd y gerddorfa. Erbyn 1950 byddai’n Bennaeth Cerddoriaeth, y BBC yng Nghymru. Defnyddiodd y swydd newydd i hyrwyddo cerddoriaeth Gymreig ac artistiaid o Gymru ar y radio a’r teledu.

Byddai natur y gwaith a phoblogrwydd cynyddol y cyfryngau’n golygu bod ei amser ar gyfer cyfansoddi yn brin. Gyda hyn mewn golwg, penderfynodd gymryd ymddeoliad cynnar yn 1965 er mwyn neilltuo mwy o’i amser i gyfansoddi.

Yn ystod y cyfnod hwn, cyfansoddodd y rhan fwyaf o’i waith, gan gynnwys ei Rhapsody for a Prince, a gomisiynwyd ar gyfer Arwisgiad Tywysog Cymru, yng Nghastell Caernarfon, yn 1969; hefyd Y Bardd, yn seiliedig ar ddarn R. Williams Parry ‘Englynion Coffa Hedd Wyn’.

Tudalen o ‘Y Bardd’

Priododd y sielydd Megan Lloyd, yn 1939, ac roedd ganddynt ddwy ferch, Grace a Siân, a fyddai’n ymddangos yn ei ddarnau syml i blant. Yn dilyn strôc fawr yn 1979, roedd ei allu i gyfansoddi wedi dioddef yn sylweddol.

Yn dilyn ei farwolaeth ym 1986 sefydlwyd Ymddiriedolaeth Mansel Thomas gyda’r nod o gasglu a threfnu holl lawysgrifau hysbys y cyfansoddwr, a chyhoeddi gwaith oedd heb ei gyhoeddi. Trwy haelioni’r ymddiriedolaeth, mae llawysgrifau gwreiddiol y cyfansoddwr wedi’u hadneuo’n barhaol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Mae’r archif yn cael ei gatalogio ar hyn o bryd fel rhan o waith Yr Archif Gerddorol Gymreig, a bydd ar gael yn y flwyddyn newydd.

Robert Evans
Swyddog Prosiect Yr Archif Gerddorol Gymreig

Tagiau: ,

Postiwyd - 19-11-2018

Casgliadau

Datgloi Hanes Cuddiedig y Rhyfel Mawr

I gyd-redeg â chofio canmlwyddiant y Cadoediad, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LLGC) wedi cyhoeddi ar ei wefan Cofnodion Tribiwnlysoedd Apêl Rhyfel Mawr Sir Aberteifi.

Daeth consgripsiwn i rym ym mis Ionawr 1916 trwy’r Ddeddf Gwasanaeth Milwrol; roedd y ddeddf yn gorfodi pob oedolyn gwryw i gofrestri ar gyfer gwasanaeth milwrol,  oni bai bod ganddynt dystysgrif i’w heithrio.  Medrau dynion wneud cais i dribiwnlysoedd o gynghorwyr lleol i gael eu heithrio ar sail un o’r amgylchiadau canlynol:

  • Bod y dyn yn cyflawni swydd o bwysigrwydd cenedlaethol;
  • Bod y dyn yn hyfforddi ar gyfer swydd o bwysigrwydd cenedlaethol;
  • Caledi teuluol neu ariannol; neu
  • Wrthwynebiad cydwybodol.

Nid oedd aelodau’r tribiwnlysoedd lleol wedi eu hyfforddi ac roedd ei penderfyniadau yn anghyson iawn; o ganlyniad, sefydlwyd tribiwnlysoedd sirol i ddyfarnu ar achosion ble roedd dynion yn apelio yn erbyn penderfyniad y tribiwnlys lleol.   Yn 1921, gorchmynnodd y Llywodraeth y dylid dinistrio holl gofnodion y tribiwnlys sirol; serch hynny goroesodd cofnodion Sir Aberteifi ac fe’u cyflwynwyd i LlGC yn 1924 gan George Eyre Evans a Sgt. Major Thomas Richard Fear (sefydlydd yr ‘Aberystwyth Comforts for Fighters Fund).      Nawr mae’r archif yn gwbl unigryw yng Nghymru, ac yn un o’r ychydig o’i fath sy’n bodoli yn y Deyrnas Unedig.

Byddai cwblhau’r ffurflenni ‘Application for Exemption’ uniaith Saesneg wedi bod yn her aruthrol i’r werin Gymraeg; byddai’n rhaid dibynnu yn aml ar eu cyflogwr neu ar aelod hyddysg o’r gymuned i lenwi’r ffurflen ar eu rhan.  Mae’r wybodaeth o fewn y Cofnodion yn cynnig darlun o amgylchiadau personol yr ymgeisydd, yn ogystal ag effaith consgripsiwn ar gymunedau gwledig.

Er enghraifft, yn Ebrill 1916, mae Davies & Edwards, Masnachwr Ŷd a Blawd, Pobydd a Siopwr yn Mile End, Llambed, yn cyflwyno cais am eithriad ar ran Thomas Davies Evans, fel a ganlyn:- “Thomas Davies Evans is the only male servant employed by us. He does the carting of incoming and outgoing Grain Stuffs, and has to handle generally every day a considerable number of Sacks of Flour (280 lbs), Maize (240 lbs), and other heavy grain; cart and deliver the same to Cottages and Farms up to a distance of about 10 miles from Lampeter.  Having regard to the heavy and arduous nature of grain handling, and also to the Compensation Acts, a man of his capacity is absolutely indispensable to our Grain trade.  We maintain that by delivering Foodstuffs he supplies essential domestic needs of the district.”

Mae’r tribiwnlys lleol yn penderfynnu y dylid eithrio’r gŵr am 3 mis, gan nodi:- “Davies and Edwards state that they cannot carry on the business of grain and corn merchants without the aid of this man, as they have failed to find a substitute, and under the circumstances we thought that they ought to have at least two or three months to disperse of that branch of their business, which they state is about two-thirds of their whole business.”

Yn fuan wedyn, mae Llewelyn Bankes Price, Cynrychiolydd Milwrol yr ardal, yn gwrthwynebu’r penderfyniad gan nodi:- “that no serious hardship would ensue if this man were called up for Army service”.

Yn gyson â chanlyniad y mwyafrif o apeliadau, mae’r tribiwnlys sirol yn dyfarnu ym Mai 1916 – “that the man be not exempted”.  Mae Thomas Davies Evans yn gadael ei gartref yn Llambed i wasanaethu gyda’r Peirianwyr Brenhinol; yn anffodus, ni ddaw yn ei ôl.  Gellir olrhain ei ffawd trwy chwilio Llyfr Cofio Cenedlaethol Cymru, a drawsgrifiwyd yn ddiweddar fel rhan o’r rhaglen ‘Cymru Dros Heddwch’.

Digideiddiwyd Cofnodion Tribiwnlysoedd Apêl Rhyfel Mawr Sir Aberteifi a’u cyflwyno i’r cyhoedd ar adnodd cyfrannu torfol ar-lein a ddatblygwyd yn ddiweddar gan LlGC; bu aelodau staff LlGC hefyd yn ymweld â chymdeithasau yn y gymuned i hyfforddi eu haelodau ar sut i ddefnyddio’r adnodd ar-lein i drawsgrifio a mynegeio’r cofnodion.  Erbyn hyn, diolch i ymroddiad dros 200 o wirfoddolwyr, gellir chwilio’r cofnodion yn ôl enw, cyfeiriad, dyddiad ac ati.

I weld Cofnodion Tribiwnlysoedd Apeliadau Rhyfel Mawr Sir Aberteifi, ewch i adran Archifau yr Oriel Ddigidol ar www.llyfrgell.cymru

Gwyneth Davies
Cydlynydd Gwirfoddolwyr

Tagiau: , ,

Postiwyd - 13-11-2018

Casgliadau

Archwiliwch eich Archif: UNESCO yn agor drysau i Drysorau’r Llyfrgell

Ymgyrch sy’n cael ei harwain gan y Gymdeithas Archifau a Chofnodion yw Archwiliwch Eich Archif, er mwyn codi ymwybyddiaeth o archifau ledled y DU ac Iwerddon. Bydd yr ymgyrch, sy’n rhedeg trwy’r flwyddyn, yn cael ei lansio yng Nghymru yng Ngwasanaeth Archifau Gwynedd ar 16eg o Dachwedd. Mae’r Llyfrgell yn cyfrannu at yr ymgyrch trwy ganolbwyntio ar y pum eitem sydd wedi’u cofrestru ar Gofrestr Cof y Byd y Deyrnas Gyfunol gan UNESCO.

Sefydlodd UNESCO Raglen Cof y Byd yn 1992 i dynnu sylw at werth y dreftadaeth ddogfennol fel adlewyrchu a hyrwyddo dealltwriaeth o gof a hunaniaeth genedlaethol, ac ar gyfer bod yn sail i lywodraethu a datblygu cynaliadwy da. Dywed UNESCO y dylai treftadaeth ddogfennol y byd berthyn i bawb, a bod ar gael i bawb yn barhaol heb rwystr.

Ers ei sefydlu, mae’r Llyfrgell wedi ymrwymo i gasglu, diogelu a rhoi mynediad at bob math a ffurf ar wybodaeth gofnodedig, yn enwedig mewn perthynas â Chymru a Chenedl y Cymry a phobloedd Celtaidd eraill, er budd y cyhoedd, gan gynnwys y rhai sy’n ymroi i ymchwil a dysg. Bob dydd yn ystod wythnos yr ymgyrch, bydd y Llyfrgell yn canolbwyntio ar un o’r eitemau a gofrestrwyd a’i hyrwyddo drwy Twitter. Bydd cyflwyniadau hefyd am stori darganfod y ffilm The Life History of Lloyd George, ac am waith Adran Gadwraeth y Llyfrgell. Gallwch archebu tocynnau trwy wefan y Llyfrgell.

Postiwyd - 17-10-2018

Casgliadau / Sgrin a Sain

Datgloi Ein Treftadaeth Sain

Prosiect pum mlynedd yw Datgloi Ein Treftadaeth Sain sy’n cael ei arianu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri a’i arwain gan y Llyfrgell Brydeinig. Mae’r prosiect yn rhan o raglen ‘Amddiffyn ein Sain’ sydd â’r bwriad o amddiffyn, cadw a darparu mynediad i recordiadau Sain y Deyrnas Unedig. Sefydlwyd deg Canolfan rhwydweithio Cadwraeth Sain ar draws y Deyrnas Unedig ac yn derbyn nawdd am dair blynedd, i ddelio gyda’r bygythiad sy’n wynebu recordiadau sain. Y sefydliadau yw:

 

  1. Amgueddfa Genedlaethol Gogledd Iwerddon
  2. Archives + Manceinion
  3. Archifdy Norfolk
  4. Llyfrgell Genedlaethol yr Alban
  5. Prifysgol Leicester
  6. The Keep, Brighton
  7. Archifdy ac Amgueddfa Newcastle
  8. Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  9. Archifdy Metropolitan Llundain
  10. Bristol Culture

 

 

Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar ddigido a chadwraeth recordiadau sain prin ac unigryw, y rhai sydd o dan fygythiad o ddirywiad ffisegol, a’r rhai sydd mewn perygl o’u colli oherwydd nad yw’r peiriant chwarae ar gael.

Bydd y Llyfrgell Brydeinig yn arwain y prosiect drwy rannu sgiliau, rhoi cymorth i’r hybiau er mwyn diogelu ein casgliadau sain prin, gan alluogi’r cyhoedd i gael mynediad iddynt.

Erbyn 2021 bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi digido, gofalu a chreu mynediad i recordiadau sain prin ac unigryw allan o gasgliadau eu hunain ac o gasgliadau partneriaid ar draws Cymru.

Defnyddir y recordiadau sain mewn gweithgareddau dysgu ac ymgysylltu, gan godi proffil casgliadau Archifau Sain y Deyrnas Unedig. Erbyn diwedd 2021 bydd mwy o bobl wedi ymrwymo â deunydd sain a bydd gwefan newydd yn galluogi gwrandawyr i wrando ac archwilio detholiad o recordiadau ar lein.

 

Alison Lloyd Smith

Rheolwr Hwb Prosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain

 

 

 

<- Cofnodion Hŷn

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog