50 mlynedd ers yr Arwisgo
Arddangosfeydd / Casgliadau - Postiwyd 01-07-2019
Yn union 50 mlynedd yn ôl, ar 1af Gorffennaf 1969, cafodd Tywysog Siarl ei arwisgo fel Tywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon. Roedd yr arwisgo yn ddigwyddiad dadleuol iawn, gan arwain at brostestiadau mawr yn ei erbyn. Yn yr un modd, roedd tipyn yn cefnogi’r arwisgiad, yn arbennig Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, George Thomas.
Mae Rhodri Evans wedi bod yn ymchwilio’r ymateb radicalaidd i’r arwisgo ar gyfer PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac yr wythnos hon fydd arddangosfa ar yr ymateb radicalaidd yn cael ei gynnal yn Ystafell Summers.
Bydd yr arddangosfa yn rhedeg tan ddydd Gwener 5ed Gorffennaf ac yn cynnwys deunydd o gasgliadau print, archifol a sgrin a sain y Llyfrgell. Dewch yn llu!
Rob Phillips
Archif Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’r Archif Wleidyddol Gymreig
Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English