5 Adnodd i Chwilio Hanes Tŷ
Gwasanaethau Darllenwyr - Postiwyd 06-08-2018
Bydd y ffynonellau a rhestrir yma o bosib yn cynnwys tystiolaeth o fodolaeth adeilad ac nid o reidrwydd dyddiad yr adeiladwaith gwreiddiol nac ychwaith newidiadau dilynol. Cofiwch yr ail-adeiladwyd tai yn aml ar safle cyfagos gan ddefnyddio’r un enw neu gall adeiladau dilynol ar yr un safle cael ei hail-enwi neu ail-rifo.
1. Mapiau
Cartref i’r casgliad cartograffeg fwyaf yng Nghymru ac un o’r rhai mwyaf ym Mhrydain, mae gan y Llyfrgell ystod eang o fapiau a chynlluniau – Arolwg Ordnans, mapiau hynafiaethol, mapiau ystâd, catalogau arwerthiant, dyluniadau pensaernïol a mapiau a rhestrau pennu degwm. Ceir copïau digidol o’r mapiau a rhestrau pennu degwm a mapiau mwy modern ar wefan Lleoedd Cymru Gellir chwilio am y mwyafrif drwy ein catalog
2. Cyfrifiad a Chofrestr 1939
Ceir cyfrifiad bob 10 mlynedd ers 1841, heblaw 1941, gan roi ciplun o bwy oedd yn byw mewn adeilad ar adeg y cyfrifiad. Cyfrifiad 1911 yw’r un diweddaraf sydd ar gael, mae Cofrestr 1939 yn rhoi gwybodaeth am drigolion ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd. Ceir mynediad am ddim i rain o fewn y Llyfrgell trwy Findmypast ag Ancestry.
3. Cofnodion Ystâd
Gall adeilad fod yn haws i’w olrhain os yn rhan o ystâd gan luniwyd cofnodion wrth weinyddu’r ystâd – llyfrau rhent, arolygon, gweithredoedd, morgeisi a phrydlesi. Dylid chwilio’r catalog am wybodaeth ar gyfer daliadau’r Llyfrgell.
4. Gweithiau Print
Ceir manylion pellach am drigolion adeiladau mewn llyfrau hanes lleol, cyfarwyddiaduron, llyfrau tywys a chofrestri etholiadol yn dyddio yn ôl i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, gan roi cliwiau pwy oedd yn byw ymhle, gellir defnyddio’r wybodaeth ar y cyd â thystiolaeth ddogfennol arall i ddarganfod mwy am y trigolion. Gellir chwilio’r catalog i ddod o hyd i ddaliadau’r Llyfrgell.
5. Papurau Newydd
Mae gan y Llyfrgell gasgliad digidol o bapurau newydd Cymreig ar-lein yn rhad ac am ddim hyd 1919, gall y tudalennau cynnwys mwy o fanylion am drigolion, hanes adeilad ynghyd a hysbysebion a manylion gwerthu eiddo. I ddechrau chwilio ewch i wefan Papurau Newydd Cymru Arlein
Dim ond ychydig o adnoddau yw’r rhain sydd ar gael i’ch helpu i chwilio am hanes t?. Am fwy o wybodaeth cymrwch olwg ar ein taflen Ffynonellau Olrhain Hanes Tai
Beryl Evans
Rheolwr Gwasanaethau Ymchwil ac Ymgysylltu
Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English