BLOG - Monthly Archives: Gorffennaf 2016

Postiwyd - 29-07-2016

Casgliadau / Digido

Croesi’r ffin: cymru1900wales yn tyfu

Wedi bron i dair blynedd, ac ar ôl casglu dros 290,000 o adysgrifiadau, mae cymru1900wales, gwefan gyfrannu torfol sydd wedi’i datblygu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Comisiwn Henebion Cymru, Prifysgol Cymru a Chasgliad y Werin Cymru, yn tyfu. Mae llwyddiant y prosiect sy’n galluogi i wirfoddolwyr adysgrifio enwau lleoedd a nodweddion ar fapiau Ordnance Survey hanesyddol, wedi ysbrydoli menter sydd hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol, ac yn cynnwys ystod ehangach o bartneriaid.

Bydd gwefan newydd GB1900 yn ymgorffori’r data sydd wedi’i chasglu gan wirfoddolwyr ar cymru1900wales.org, a’r nod yn ymestyn i geisio cofnodi pob enw lle a nodwedd o 2il Argraffiad Cyfres Siroedd Ordnance Survey ar gyfer holl wledydd Prydain. Bydd y mapiau diwygiedig a ddefnyddir yn y wefan newydd, sydd wedi’u darparu gan Lyfrgell Genedlaethol yr Alban, yn golygu bod defnyddwyr nawr yn gallu gweld tirwedd Prydain yn fwy eglur, a bydd y gwelliannau i’r proses adysgrifio, sydd wedi’u cyflwyno gan ddatblygwyr o Brifysgol Portsmouth, yn ei gwneud yn haws nag erioed i gyfrannu.

Bydd GB1900 yn wefan deirieithog, ar gael yn y Gymraeg, Gaeleg a Saesneg. Bydd adysgrifwyr cymru1900wales.org yn gallu mewn gofnodi i’r wefan newydd hon gan ddefnyddio yr un wybodaeth gyfrif.

Os ydych chi wedi cyfrannu i cymru1900wales.org yn y gorffennol, byddem yn falch o glywed gennych – cysylltwch â ni

Postiwyd - 27-07-2016

Casgliadau / Digido

J.M.W. Turner, ‘Dolbadarn Castle’

Mae’r peintiad olew yma o Gastell Dolbadarn ger Llanberis yng ngogledd Cymru yn astudiaeth ar gyfer llun diploma gan Joseph Mallord William Turner sy’n cael ei gydnabod fel yr arlunydd tirlun Prydeinig pwysicaf erioed. Cafodd y darlun diploma hwn ei arddangos yn yr Academi Frenhinol ym 1800 ac yna ei gyflwyno i’r Academi Frenhinol ddwy flynedd yn ddiweddarach. Mae’n astudiaeth felly ar gyfer y peintiad olew pwysicaf o yrfa gynnar yr artist. Cafodd pennill am dynged Owain Goch ap Gruffydd ei gynnwys ochr yn ochr â’r darn diploma yn arddangosfa 1800.

Carcharwyd Owain Goch ap Gruffydd am ugain mlynedd yn 1257 gan ei frawd Llywelyn ap Gruffydd / Llywelyn ein Llyw Olaf (Tywysog brodorol olaf Cymru) yng Nghastell Dolbadarn am wrthryfela. Roedd yn ddigwyddiad trasig yn hanes rheoli brodorol Cymreig. Yn hytrach na pheintio’r union olygfa’n llythrennol fel y digwyddodd, mae gwaith Turner yn crybwyll y digwyddiad drwy’r awyr, y ffigyrau yn y blaen, a phresenoldeb gweladwy y t?r bygythiol. Portreir Owain Gwynedd yn gwisgo tiwnig goch ac yn cael ei arwain at y castell gan y milwyr. Rydym yn gwybod i Turner wneud pum taith o amgylch Cymru rhwng 1792 a 1799 yn chwilio am dirluniau darluniadwy. Yn ystod ei ymweliad ym 1799 creodd lyfr o frasluniau o Ddolbadarn a arweiniodd at y gwaith terfynol. Cedwir llyfr brasluniau Dolbadarn yn y Tate Britain. Roedd chwedlau, hanes, cestyll a thirwedd fynyddig ddramatig Cymru’n denu Turner. Gwyddom hefyd i Turner ddarllen yn eang am hanes Cymru, yn cynnwys gweithiau Thomas Pennant ac roedd felly’n gyfarwydd â hanes y tywysogion Cymreig.

Gorwedd athrylith Turner yn ei allu i ddysgu o’r Hen Feistri, ond hefyd i wrthryfela a chreu ffyrdd newydd o ddarlunio tirluniau dychmygus trwy ei ddefnydd unigryw o olau. Chwyldrodd ei ddefnydd o strociau brwsh rhydd a’i liwio grymus dirlunio i genedlaethau’r dyfodol. Disgrifiodd John Ruskin, y beirniad celf blaenllaw o Oes Fictoria, Turner fel ‘tad y gelfyddyd fodern’.

Mae’r llun yma’n rhan o Europeana 280, lle bu 28 o Weinidogion Diwylliant Ewropeaidd yn cydweithio gyda’u sefydliadau diwylliannol cenedlaethol i ddewis o leiaf 10 darlun sy’n cynrychioli cyfraniad eu gwlad i hanes celf Ewrop.

Am fwy o wybodaeth gweler yr Oriel Ddigidol

Postiwyd - 11-07-2016

Arddangosfeydd / Casgliadau / Newyddion a Digwyddiadau

Geiriau’r Gyflafan: ymateb bardd

Mae’r arddangosfa Geiriau’r Gyflafan yn dwyn ynghyd ymatebion gan lenorion ac artistiaid Cymru i frwydrau – ac, yn fwy penodol, i golledion – y genedl ar hyd y canrifoedd. Cofnod cyfoes yw ambell un; dro arall, mae bwlch o ganrifoedd lawer rhwng y frwydr a’r ymateb, fel yn achos yr awdl Cilmeri gan Gerallt Lloyd Owen, sy’n fyfyrdod ar gwymp Llywelyn ap Gruffudd yn 1282 a luniwyd saith gan mlynedd yn ddiweddarach. Mae’r englynion hyn yn ymateb i’r arddangosfa ei hun drwy ddwyn ynghyd elfennau o’r llawysgrifau a’r gweithiau sydd i’w gweld ynddi a chan dynnu ar nifer o linellau mwyaf adnabyddus ac ingol ein llên, o’r Gododdin hyd ein dyddiau ni.

 

Gw?r a aeth, ac aeth pob g?r yn ddiwyd

i’w ddiwedd; pob milwr

yn hen cyn bod yn henwr,

tyfu’n hen cyn tyfu’n ?r.

 

Gw?r a aeth, a daeth pob dyn yn llariaidd

fel y lloer lygadwyn

i’w gadael yn gig wedyn

i’r brain a’r bore ei hun.

 

Gw?r a aeth, a’r hen grythor a’i alaw

surfelys yn gwylio’r

hogiau a’u beddau’n agor,

a’r sêr mâl mor sur â’r môr.

 

Gw?r a aeth, ac aeth y gwynt drwy’r deri

diwyro; rhôi’r rhewynt

yn y bedd wyneb iddynt,

enwi gw?r dienw gynt.

 

Gw?r a aeth Gatraeth; daeth tri ohonynt,

mor hen â thrueni’r

genedl oll, i archolli

y memrwn hwn â’n gwaed ni.

 

Gruffudd Antur

(Mae Gruffudd Antur yn fyfyriwr ymchwil Ph.D. yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor).

 

Bydd arddangosfa Geiriau’r Gyflafan: rhyfel mewn llenyddiaeth Gymreig yn cau ddydd Sadwrn, 30 Gorffennaf 2016.

 

Postiwyd - 06-07-2016

Casgliadau / Digido

Richard Wilson, ‘Catherine Jones of Colomendy’

Roedd yr artist Cymreig Richard Wilson o Benegoes, ger Machynlleth yn dirluniwr arloesol Prydeinig, ond fel y gwelir o’r gwaith hwn roedd hefyd yn bortreadwr medrus iawn. Er nad chofnodir iddo gael unrhyw addysg ffurfiol, roedd ganddo wybodaeth helaeth o’r clasuron a gafodd ddylanwad mawr ar ei waith. Symudodd i Lundain ym 1729 i hyfforddi fel portreadwr. Creodd Wilson y gwaith cynnar yma o Catherine Jones, Colomendy tua 1740, yn fuan ar ôl cwblhau ei brentisiaeth chwe blynedd o dan y portreadydd Thomas Wright. Roedd yr eisteddwraig yn gyfnither i’r artist ac yn berchennog Neuadd Colomendy, ger Llanferres, Sir Ddinbych. Bu farw Richard Wilson mewn tlodi ac yn gymharol ddinod yn Neuadd Colomendy ym mis Mai 1782, a lle bu’r eisteddwraig hefyd farw bedair blynedd yn ddiweddarach. Dadleua’r hanesydd celf David H. Solkin bod pob un o’r portreadau a baentiodd yn y cyfnod yma cyn ei daith i’r Eidal ‘… yn cadw’n fras at ddulliau prif feistri Llundain yn y cyfnod, megis Thomas Hudson ac Allan Ramsay’. Mae’r gwaith hwn o ddiddordeb felly, gan ei fod yn un o’r portreadau olaf iddo eu creu cyn iddo fynd i’r Eidal lle’r arallgyfeiriodd, gan ddod yn un o artistiaid tirlun mwyaf ei gyfnod.

Dychwelodd i Lundain ym 1757 lle sefydlodd ei hun mewn stiwdio yn y Great Piazza, Covent Garden fel arlunydd tirluniau yn yr arddull glasurol ‘ grande’ o olygfeydd Eidalaiddg a thirweddau llenyddol clasurol.  Tyfodd yn fusnes llewyrchus, gyda nifer o brentisiaid – un o’r rhain oedd yr arlunydd Cymreig enwog Thomas Jones (1742-1803). Yn fuan ar ôl hyn daeth Wilson yn un o aelodau sylfaenol yr Academi Gelf Frenhinol. Un o brif lwyddiannau Wilson oedd iddo agor llygaid ei gyd-artistiaid at wychder mawreddog Cymru, ei wlad enedigol, gan arwain y ffordd i genedlaethau o artistiaid y dyfodol archwilio a chofnodi ei rhyfeddodau. Yng nghanol yr 1760au peintiodd Yr Wyddfa o Lyn Nantlle (Snowndon from Llyn Nantlle), Castell Caernarfon a Chader Idris yn ogystal â golygfeydd o Dde Cymru. Mae braslun ar gyfer ei lun o Gastell Conwy a grëwyd gan Wilson ynghanol y 18fed ganrif hefyd yn rhan o’n casgliad yma yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Fel y dywedodd yr hanesydd celf Peter Lord: ‘Mae ei beintiadau wedi cyfrannu’n helaeth at ddatblygu tirwedd Cymru i fod yn eicon sy’n cynrychioli’r Enaid Cenedlaethol.’

Mae’r llun yma’n rhan o Europeana 280, lle bu 28 o Weinidogion Diwylliant Ewropeaidd yn cydweithio gyda’u sefydliadau diwylliannol cenedlaethol i ddewis o leiaf 10 darlun sy’n cynrychioli cyfraniad eu gwlad i hanes celf Ewrop.

Am fwy o wybodaeth gweler yr Oriel Ddigidol

Postiwyd - 04-07-2016

Arddangosfeydd / Casgliadau / Newyddion a Digwyddiadau

Theophilus Evans

Dair canrif yn ôl i’r flwyddyn hon cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf o Drych y prif oesoedd, llyfr gan y Parchedig Theophilus Evans ar hanes cynnar Cymru.  Mae’r Bywgraffiadur Cymreig yn ei ddisgrifio fel “llyfr rhagfarnllyd ac anfeirniadol ond hynod ddifyr”.  Roedd y llyfr yn ddigon llwyddiannus i ymddangos mewn ail argraffiad ym 1740 ac i gael ei gyfieithu i’r Saesneg yn y 19eg ganrif o dan y teitl A view of the primitive ages.

 

 

Roedd Theophilus Evans yn amddiffynnwr brwd o Eglwys Loegr. Ym 1740 apwyntiwyd William Williams, Pantycelyn, awdur llawer o emynau Cymraeg gan gynnwys “Arglwydd, arwain trwy’r anialwch”, yn gurad iddo ym mhlwyf Llangamarch gyda Llanwrtyd ac Abergwesyn. Oherwydd argyhoeddiadau efengylaidd Williams, gwrthododd Evans roi tystysgrif iddo gael ei ordeinio’n offeiriad, ac ymadawodd Williams â’r Eglwys ac ymuno â’r Methodistiaid Calfinaidd.  Ym 1752 cyhoeddwyd The history of modern enthusiasm, lle ceisiodd Evans brofi mai Pabyddion cudd oedd ymneilltuwyr oddi wrth Eglwys Loegr.

 

Cynhaliwyd cynhadledd yn y Llyfrgell Ddydd Gwener 1af o Orffennaf gyda’r teitl “Ailymweld â Theophilus Evans: tair canrif ar ôl cyhoeddi Drych y prif oesoedd (1716)”. Y siaradwyr oedd Prys Morgan, T. Robin Chapman, Cathryn Charnell-White, Eryn Mant White ac A. Cynfael Lake. Dangoswyd rhai o weithiau Evans, gan gynnwys Drych y prif oesoedd a The history of modern enthusiasm, yn Ystafell Summers i gyd-fynd â’r gynhadledd.

 

Timothy Cutts

Llyfrgellydd Llyfrau Prin

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog