Blog

Y Pryse cywir? Newid cyfenwau’r teulu Pryse, Gogerddan

Casgliadau / Collections - Postiwyd 17-02-2021

Soniodd y diweddar Fred Wedlock mewn cân werin digri, ‘There’s a bit where it changes every chorus; never mind, just guess’. Gellid dweud yr un peth am deulu’r Pryse, Gogerddan, a newidiodd eu cyfenw â phob cenhedlaeth yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mae modd olrhain y dryswch yn ôl at dri aelod o’r teulu:

  • Pryse Pryse (1774-1849)
  • Pryse Loveden (1815-1855)
  • Sir Pryse Pryse (1838-1906)

Dyma yw sut oedd y tri unigolyn yma yn cael eu hadnabod ar adeg eu marwolaethau. Mae’r newid cyfenw yn ystod eu bywydau wedi drysu sawl ysgolhaig. Bwriad y blog yma yw ceisio datgysylltu’r tri unwaith ac am byth, a hynny gyda cymorth y portreadau teuluol.

Pryse Pryse (1774-1849)

Dechreuodd Pryse Pryse (1774-1849) ei fywyd fel Pryse Loveden. Roedd yn fab i Edward Loveden Loveden o Buscot Park a’i wraig, Margaret Pryse o Ogerddan. Ar etifeddu’r stâd yn dilwyn marwolaeth ei fam yn 1798, penderfynodd Pryse Loveden fabwysiadu cyfenw ac arfbais teulu’r Pryse. Roedd hyn yn unol â dymuniadau ei dad-cu, Lewis Pryse (m. 1779). Mae’r portread cyntaf yma yn dangos Pryse Pryse fel dyn ifanc, yn gwisgo ffasiynau’r ddeunawfed ganrif hwyr.

Mae’r ail bortread yn cynrychioli Pryse Pryse fel dyn dipyn hŷn (52 mlwydd oed). Mae John Steegman yn dyddio’r portread i Mawrth 1826 o argraffiad y Morning Chronicle, sef y papur newydd mae Pryse yn ei ddal.

 

 

Pryse Loveden (1815-1855)

Cafodd Pryse Loveden (1815-1855) ei fedyddio yn Pryse Pryse. Ef oedd mab cyntaf Pryse Pryse yr hynaf a’i ail wraig, Jane Cavallier. Fel etifedd Gogerddan a Buscot Park, stâd ei dad-cu, roedd hawl gan y Pryse Pryse ifengach i gymryd y cyfenw Loveden ar ôl marwolaeth ei dad yn 1849.

Mae’r portread cyntaf yn dangos Pryse Loveden fel dyn ifanc mewn dillad Fictorianaidd cynnar. Mae Steegman a chatalog y Llyfrgell Genedlaethol yn dyddio’r portread i 1838.

Mae’r ail, sy’n dwyn y teitl ‘Gentleman in Black Coat’ gan J. Langton Barnard, 1856, yng nghatalog y Llyfrgell, mae Pryse Loveden yn ddym canol oed Yn wir, mae dyddiad y portread ychydig ar ôl ei farwolaeth felly mae’n bosibl mai portread galar ydyw.

 

 

Syr Pryse Pryse (1838-1906)

Pryse Loveden oedd enw gwreiddiol Syr Pryse Pryse (1838-1906). ar ôl ei dad. Ei fam oedd Margaretta Jane Rice o Lwyn-y-brain, Sir Gaerfyrddin. Roedd y Pryse Loveden yma dal yn fachgen ifanc dan oed pan bu farw ei dad heb wneud ewyllys yn 1855. Drwy grant gan Goleg Brenhinol yr Arfau yn 1863, roedd hawl ganddo i ddefnyddio cyfenw ac arfbais teulu’r Pryse ac, ar ôl hynny, cafodd ei adnabod fel Pryse Pryse. Daeth i fod yn Syr Pryse Pryse, Barwnig cyntaf o’r ail greadigaeth yn 1866. Mae’r portread ffotograffig yma yn dangos Syr Pryse Pryse yn 1868.

Mae’r ail bortread yn un o bâr gan Julius Hare sy’n dangos Syr Pryse Pryse a’r Foneddiges Pryse, tua 1901. Cyfrannodd tenantiaid Gogerddan tuag at gost y portreadau yma.

 

 

Enwodd Syr Pryse ei fab hynaf yn Pryse Pryse Pryse, ond bu farw yn ifanc o glwyf heintus o ganlyniad i frathiad gan lwynog yn 1900. Dylai enw mor ddiamwys rhoi’r diwedd i’r dryswch. Byddech yn meddwl hynny, ond cewch gip ar y cofnod ar gyfer Gogerddan yn Francis Jones Historic Cardiganshire Homes and their Families…!

 

Cyfeiriadau

John Steegman, A Survey of Portraits in Welsh Houses, Volume II: South Wales (Cardiff : National Museum of Wales, 1962)

David T.R. Lewis, The Families of Gogerddan in Cardiganshire and Aberglasney in Carmarthenshire (David T.R Lewis/Y Lolfa, 2020)

Francis Jones, Historic Cardiganshire Homes and their Families (Brawdy Books, 2000)

Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Gogerddan Estate Records, cyfres GQA1

 

Hilary Peters
Archifydd Cynorthwyol

Adnoddau Digidol Newydd

Collections / Digido - Postiwyd 09-02-2021

Er bod adeilad y Llyfrgell wedi bod ar gau mae llawer o waith wedi parhau tu ôl i’r llen ac ers mis Mehefin mae’r eitemau a’r casgliadau a ganlyn ar gael yn ddigidol i bori o adref ar wefan y Llyfrgell a/neu y catalog:

Llawysgrifau ac Archifau

Casgliad Peniarth

Papurau Wynn o Wedir: (1515-[c. 1684])

Rhyddhawyd bron i 10,000 o ddelweddau o bapurau personol a phapurau’n ymwneud â gweinyddiaeth gyhoeddus aelodau teulu Wynn o Wedir, Sir Gaernarfon. Mae modd canfod 2,786 eitem o Grŵp Syr John Williams, 1519-1683 (NLW MSS 463-470) a Grŵp Panton, 1515-[c. 1699] (NLW MSS 9051-9069) yn y catalog.

Papurau Syr John Herbert Lewis Papers

Mae 8 o ddyddiaduron ym Mhapurau Syr John Herbert Lewis o’r cyfnod 1925-1933 bellach ar gael:

Papurau Gareth Vaughan Jones Papers

Pasbort Gareth Vaughan Jones 1930-1934 (B5/3)

Deunydd Print

Casgliad Llyfrau Cymreig Cynnar

Mae 2,470 o gyfrolau o’r casgliad ar gael ar y catalog, gan gynnwys gweithiau nodedig William Salesbury A dictionary in Englyshe and Welshe, [1547], Kynniver llith a ban [1551] a The descripcion of the sphere or frame of the worlde [ca. 1553]), rhan gyntaf gramadeg Gruffydd Robert, Milan Dosparth byrr ar y rhann gyntaf i ramadeg cymraeg (1567), Drych y Prif Oesoedd [1716] a Cyd-gordiad egwyddorawl o’r Scrythurau [1730].

Cofiannau (1809-1889)

Mae tua 900 o gofiannau ar gael drwy’r catalog erbyn hyn. Mae’r detholiad yn cynnwys teitlau megis:

Bydd y gwaith o ryddhau cofiannau yn parhau dros y misoedd nesaf.

Y Rhyfel Byd Cyntaf

Rhyddhawyd detholiad o deunydd print yn ymwneud â’r Rhyfel Byd Cyntaf:

Mapiau a Deunydd Graffigol

Casgliad Mapiau

Map llawysgrif hynod Idris Mathias o ran isaf Dyffryn Teifi.

Casgliad Portread

Rhyddhawyd 970 o eitemau ychwanegol o gasgliad Portread, gan gynnwys delweddau o gymeriadau amrywiol megis: Cranogwen; “Old Ellen Lloyd”; Edward Ellis y Gof, Blaenau Ffestiniog dyfeisydd y car gwyllt; Elizabeth Lloyd, ‘Beti Bwt’; a ffoto o John Ballinger, S. K. Greenslade, Evan Davies Jones a Syr John Williams gyda Llysgennad UDA y tu allan i Lyfrgell Genedlaethol Cymru ym mis Tachwedd 1912.

Y Bywgraffiadur Cymreig

Cyhoeddwyd 16 erthygl newydd ar y wefan:

Morfudd Nia Jones (Swyddog Cynnwys Digidol)

Papurau Marion Eames: cynaeafu gweithiau nofelydd hanes

Casgliadau / Collections - Postiwyd 08-02-2021

Mae eleni yn flwyddyn canmlwyddiant geni Marion Eames. Ganed hi ym Mhenbedw ar 5 Chwefror 1921 ac mae nifer yn ei chofio’n arbennig fel awdur Y Stafell Ddirgel, a hynny yn bennaf gan i’r nofel fod yn destun gosod yn yr ysgol rai blynyddoedd yn ôl. Honno oedd ei nofel gyntaf. Gellir darllen mwy am hanes bywyd a gyrfa’r nofelydd ar wefan Y Bywgraffiadur Cymreig.

Mae’r Llyfrgell Genedlaethol nid yn unig yn gartref i weithiau cyhoeddedig Marion Eames, ond hefyd ceir casgliad o recordiadau sain a gweledol, ffotograffau a phenddelw efydd ohoni o waith y diweddar John Meirion Morris (sydd i’w gweld ar wefan Art UK), ynghyd â nifer o’i llawysgrifau a’i phapurau.

 

 

Ymhlith y grŵp cyntaf a dderbyniwyd fel rhodd ganddi yn 1988 oedd drafft cyflawn o Y Stafell Ddirgel ac wedi ei marwolaeth yn 2007, derbyniodd y Llyfrgell ychwaneg o’i phapurau trwy ei nai. Ymhlith y rhain yr oedd teipysgrif gynnar o Seren Gaeth, sef nofel a symbylwyd gan ddyfyniad allan o hunangofiant gŵr Morfydd Llwyn Owen, y gyfansoddwraig dalentog a bu farw’n wraig ifanc. Fodd bynnag, teipysgrif anghyflawn ydyw hon, sy’n cynnwys penodau 1 i 8 yn unig – dyna siom i unrhyw un fyddai’n dod ar draws copi ddrafft o hanner cyntaf y nofel!

Ond, trwy gasglu gofalus ac ystyriol ar hyd y blynyddoedd, mae’r Llyfrgell wedi bod yn ffodus iawn o allu ychwanegu eitemau i’w harchif. Ymhlith yr ychwanegiadau a wnaed yn ddiweddarach gan roddwyr gwahanol yn 2016 a 2018, derbyniwyd teipysgrif yn cynnwys hanner olaf (penodau 9 i 15) o’r nofel, ac yn fwy arwyddocaol efallai, derbyniwyd drafft cynnar mewn llawysgrif o’r nofel hefyd.

Trwy ddyfalbarhad ac amynedd, mae hyn wedi gallu sicrhau bod modd i’r Llyfrgell ddarparu darlun mwy cyflawn o yrfa nofelydd y cofiwn amdani ym mlwyddyn canmlwyddiant ei geni.

Rhys Davies
Archifydd Cynorthwyol

Y Gadwyn

Darganfod Sain - Postiwyd 01-02-2021

Gan Berwyn Morris ac Eirian Roberts

 

Yn ystod Mis Hydref 1992 cyfarfu nifer fach o wirfoddolwyr brwdfrydig i wyntyllu’r posibilrwydd o gynhyrchu cylchgrawn Cymraeg ar ddisg ar gyfer rhai yn ein plith sydd â nam ar eu golwg. Wedi peth trafodaeth, sylweddolwyd y byddai angen rhagor o ddwylo i wireddu’r freuddwyd, a gwahoddwyd cynrychiolwyr o bob pentref a thref o fewn yr hen Sir Ddinbych a thros y ffin yn Sir Gaernarfon. Daeth nifer dda ynghyd ac roedd yn amlwg o’r dechreuad nad oedd ball ar eu brwdfrydedd a phenderfynwyd lansio’r Gadwyn ar Ddydd Gŵyl Dewi 1993. Gyda chymorth staff y BBC a S4C cynhaliwyd cyfres o ysgolion undydd ar gyfer hyfforddi holwyr Y Gadwyn.

Ar y dechrau, dosbarthwyd rhyw dri deg o gopïau ond lledaenodd y sôn am y Gadwyn fel tân gwyllt.

 

 

Yn fuan roedd oddeutu tri chant o’r waledi bach melyn yn crwydro dros Gymru gyfan, i rannau helaeth o Loegr, a thros y môr i Awstralia, Seland Newydd a Phatagonia. Roedd yn amlwg oddiwrth ymateb y gwrandawyr fod y gwasanaeth yn cael ei werthfawrogi’n fawr. Erbyn heddiw mae wynebau newydd wedi ymuno â’r criw a’r brwdfrydedd mor heintus ag erioed.

Mae rhywbeth at ddant pawb ar y CD, gan gynnwys sgyrsiau am natur a’r amgylchedd, cyfweliadau diddorol a hefyd cerddoriaeth amrywiol.

Yn ogystal, anfonwn gopi o’r CD yn fisol at Gymdeithas y Deillion ym Mangor, a hefyd i’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Mae’n galonogol iawn deall fod y recordiadau yn cael eu digido gan y Llyfrgell er mwyn eu hamddiffyn, a’u bod ar gael yno i’r cyhoedd wrando arnynt. Rydym fel Pwyllgor yn gwerthfawrogi hyn yn fawr.

Berwyn Morris, Ysgrifennydd Y Gadwyn

 

 

Un o gyfranwyr rheolaidd i’r Gadwyn oedd Gruff Ellis. Dyn ei filltir sgwâr oedd Gruff, wedi ei eni a’i fagu yn ardal Ysbyty Ifan, ac ‘roedd ei wreiddiau yn ddwfn iawn yn ei ardal.
Roedd yn adnabod pob rhan o’i gynefin ac yn gwybod am bob rhywogaeth oedd yn byw ynddi. Yn Chwefror 2012 disgrifiodd yr olygfa yr oedd yn ei wynebu:

 

Gellir gweld trawsgrifiad o’r ffeil sain ar ddiwedd y blog.

 

Roedd ganddo wybodaeth helaeth am holl fyd natur yr ardal boed hynny yn flodau a llysiau, coed, anifeiliaid neu adar.

 

Gellir gweld trawsgrifiad o’r ffeil sain ar ddiwedd y blog.

 

Roedd yn cymryd diddordeb mawr yn holl enwau lleol ar hyd yr ardal, enwau fyddai wedi mynd ar goll oni bai iddo eu rhoi ar bapur i’w cofnodi. Cyhoeddodd ddau lyfr “Yma Mae Nghalon” 1997 a “Cynefin Gruff” 2008, ble gwelwn ei gariad mawr am ei ardal a byd natur.
Bu yn cyfrannu yn fisol i gylchgrawn y Gadwyn am flynyddoedd ar holl wrandawyr wrth eu bodd yn gwrando ar hanes ei deithiau allan i ganol byd natur gyda’r hen gi bach, oedd yn ffrind ffyddlon iddo. Byddai yn gweld rhywbeth syfrdanol ac yn torri i mewn i gân neu yn adrodd darn o farddoniaeth ddaethai i’w gof. Byddai’r gwrandawyr yn dweud fod gwrando ar Gruff yn dweud ei straeon gystal â mynd allan i ganol byd natur.
Byddai wrth ei fodd yn mynd i’r Eisteddfod Genedlaethol. Bu yn cystadlu ar yr emyn dros 60 oed am flynyddoedd. Bu yn aelod o Gôr Meibion Llangwm a’r Brythoniaid, yn flaenor yng nghapel Seion, Ysbyty Ifan ac yn mynd allan i wahanol gymdeithasau i ddarlithio am fyd natur a phawb yn dotio at ei natur gartrefol. Byddai hefyd yn cyfrannu yn fisol i’r papur bro lleol “Yr Odyn” ac yn gyfrannwr rheolaidd ar raglen Galwad Cynnar ar Radio Cymru.

Eirian Roberts, Cadeirydd y Gadwyn

 

 

Diolch i arian a dderbyniwyd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, bu modd i’r Prosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain ddigido casgliad sain y Gadwyn er mwyn ei ddiogelu a’i roi ar gof a chadw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. I glywed mwy o straeon Gruff ac eraill gellir gwrando ar ffeiliau digidol o’r Gadwyn drwy apwyntiad yn yr ystafell ddarllen.

 

 

Trawsgrifiad: Gruff Ellis

Dwi’n edrych i lawr ar yr hen lan ma chi a’r pentre’ Ysbyty Ifan ac mae’n bnawn braf ond oer yn de. Dwi’n gweld mwg yn dod o amryw o’r simnai. Pobl wedi bod yn gwneud tân yn y prynhawn fel hyn, mae’n brafiach allan na di yn tŷ mae’n siŵr gen i. A dwi’n edrych i fyny wedyn am gyfeiriad y Blaenau a Chwm Serw ar y chwith, ac wedyn dros y gefnan yn fan acw a Chwm Eidda ac edrych ymlaen am grwydro llawer ohonyn nhw flwyddyn nesa ma, blwyddyn yma eto. A dwi’n edrych ar Eryri a’r Carneddau a’r Benglog a dwi’n gweld just copa’r Wyddfa, hollol ar y chwith reit ar y chwith. Dwi’n gweld y Benglog yn blaen, Tryfan yn de. Dwi’n gweld Carnedd Llywelyn a Charnedd Dafydd, Pen Llithrig y Wrach a Chreigiau Gleision. Ew, ma na olygfa yma i chi. Bendigedig.

 

Trawsgrifiad: Gruff Ellis

Mi fydd yr hen frain ma yn dechrau cario i’w nythod y chi yn o fuan. Yn enwedig y gigfran de, ym mis Chwefror ma yn saff. Ac mi fydd yr hen farcud yn dechrau cario at ddiwedd y mis. Byddan nhw yn nythu mae’n siwr gen i tua diwedd Mawrth i Ebrill ond mae’r hen gigfran yn nythu yn gynnar. Mae’r hen gigfran yn dderyn go arbennig, er nad ydw i yn hoff ohonyn nhw. Maen nhw yn hen adar bryntaf yn nheulu’r brain. Ond, mae ‘na rywbeth o’u cwmpas nhw, maen nhw paru am eu bywyd, am eu hoes.

Cofio Gigs? Casglu posteri a ffansîns

Casgliadau / Cerddoriaeth / Collections - Postiwyd 29-01-2021

Wrth greu arddangosfa gerddorol ‘RECORD: Gwerin Protest a Phop’ yn 2018 roeddwn yn ymwybodol iawn taw rai o sêr y sioe oedd y posteri gigs oedd gennym yn y casgliad. Nid yn unig mae’n nhw’n eitemau deniadol a lliwgar ond hefyd yn cofnodi hanes y Sin Roc Gymraeg. Roedden nhw’n ateb yr holl gwestiynau am pwy, ble, a phryd yr SRG. Beth oedd enw’r bandiau? Pwy oedd yn chwarae yn yr un gig? Ym mha neuadd bentref oedd y gig yn cael ei drefnu? Pwy oedd yn trefnu’r gigs? Un o fy hoff ffeithiau ar y poster oedd cost y tocyn e.e. £1.50 i weld Jim O’ Rouke a’r Hoelion Wyth a dawns olaf Meibion Mwnt yn yr Old Quarry Llambed yn 1984. Bargen!

 

 

Lansiwyd yr apêl i gasglu posteri gigs ym mis Chwefror 2019. Mae dros 200 o bosteri wedi dod i mewn erbyn hyn, y rhan fwyaf ohonynt ar lein. Hoffwn ddiolch i’r canlynol am gyfrannu at y casgliad cenedlaethol – mae hi wedi bod yn bleser bod mewn cysylltiad â chi gyd yn ystod yr ymgyrch.

Dan Griffiths, Huw Bebb, Rhodri Davies, Dylan Lewis, Scotch Funeral, Sioned Edwards Eisteddfod, Catrin Morris Clwb Ifor Bach, Rhys Williams Caerdydd, Meirion Wyn Jones, Elizabeth Nerys Bowen, Bedwyr Almon, Efa Lois, Dylan a Neil, Mei Mac, Rhys Mwyn, Emma Daman Tomos, Hayley Jenney, Peter Roberts, Richard Chitty, Rwth Williams, Heledd Parri, Prys Dafydd, Non Jones, Laura Nunez, Blue Amber, Nyree Waters, a Rhiannon Roberts.

Rhys Mwyn Radio Cymru

Mae rhaglen Radio Cymru Recordiau Rhys Mwyn wedi bod yn hysbysebu ac yn hwb mawr i’r ymgyrch. Gwrandewch eto ar y clip 9 munud yma am 4 poster nodedig (Tŷ Gwydr, 3 Hẃr Doeth, Bedlam Eisteddfod Llambed a Manics yng Nghlwb Ifor).

 

Poster Padarn Roc gan Meirion Wyn Jones

Dylunwyr

Daeth nifer o bosteri yn uniongyrchol oddi wrth y dylunwyr , gyda’r uchafbwyntiau yn cynnwys casgliadau 24 poster a 7 o gloriau recordiau SAIN o’r 1970 a’r 1980 gan Meirion Wyn Jones; a 27 o bosteri wrth y dylunydd graffig Richard Chitty sy’n cynnwys posteri gigs Nadolig Bubblewrap Collective Caerdydd 2013-2019, a phosteri Gŵyl Sŵn 2011-2019. Derbyniwyd rhai o bosteri TAFWYL gan yr artist Efa Lois, posteri ‘Miri Madog’ gan Bedwyr o gwmni Almonia a phosteri ‘r band Allan yn y Fan gan Hayley Jenney. Bydd oriel o bosteri Meirion Wyn Jones yn ymddangos ar sianel LLGC ar AM Cymru.

Casgliad ffansîns Rhys Williams

Derbyniwyd casgliad ffansîns wrth Rhys Caerdydd / Rhys Williams oedd yn gyfrifol am y wefan Fanzine Ynfytyn. Mae’r Llyfrgell wedi archifo’r wefan ac wedi derbyn y copiau gwreiddiol papur o’r ffansins i’r casgliad cenedlaethol. Mae’r casgliad yn cynnwys ffansîns o’r enw: Amser Siocled, Yn Syth o’r Rhewgell , Llmych / Chymll / Ychmll / Hymllc, Dyfodol Dyddiol, Ish, Groucho neu Marks, Llanast, Rhech, Gwyn Erfyl yn y Glaw, Cen ar y Pen ac ANKST 03.

 

 

Cofio Gigs?

Digwyddiad ar Zoom a Facebook LLGC nos Fercher 3ydd Chwefror 2021 am 7. Ymunwch â ni ar gyfer y sgwrs yma i nodi Dydd Miwsig Cymru 2021 pryd y bydd Nia Mai Daniel (Yr Archif Gerddorol Gymreig) yn edrych yn ôl ar yr apêl ac yn trafod trefnu gigs, dylunio posteri a chasglu ffansîns gyda Rhys Mwyn (Radio Cymru), yr arlunydd Efa Lois, a’r casglwr ffansîns Rhys Williams.

Nia Mai Daniel
Rheolwr Rhaglen Yr Archif Gerddorol Gymreig
nia.daniel@llyfrgell.cymru | Twitter @cerddllgc | @MusicNLW

Cofio trychineb rheilffordd Aber-miwl

Collections - Postiwyd 26-01-2021

Canrif yn ôl, ar ddydd Mercher 26 Ionawr 1921, digwyddodd un o ddamweiniau rheilffordd gwaethaf yn hanes Cymru. Cafodd 36 o bobl eu hanafu ac 17 eu lladd mewn gwrthdrawiad ar brif lein Rheilffordd y Cambrian rhwng y Drenewydd ac Aber-miwl, Sir Drefaldwyn. Cafwyd adroddiadau o’r damwain ar draws y byd ac, o ganlyniad, daeth nifer o newidiadau i weithdrefnau a systemau rheilffyrdd. Mae trychineb Aber-miwl yn achos astudiaeth mewn nifer o lyfrau ar ddiogelwch rheilffyrdd, gan gynnwys Red for Danger gan LTC. Rolt, sy’n dilyn y datblygiadau i wneud rheilffyrdd yn fwy diogel o ddechrau’r 19fed ganrif i’r 1960au. 

Roedd gan y rheilffordd, oedd yn teithio ar draws canolbarth Cymru, un lein sengl a threnau yn mynd i’r ddau gyfeiriad ar yr un set o gledrau. Roedd system signalau i sicrhau bod trenau yn pasio eu gilydd lle roedd ail set o gledrau a set o reolau pendant i gadw nwyddau a theithwyr yn symud yn ddiogel. Roedd yn rhaid i yrrwr pob trên cario tabled metal penodol ar gyfer pob darn o’r lein fel awdurdod i fynd ar hyd y lein sengl. Roedd peiriannau ym mhob gorsaf ble roedd trenau yn medru pasio’u gilydd oedd yn rheoli’r tabledau metal yma i sicrhau mai dim ond un tabled ar gyfer pob darn o’r lein oedd yn cael eu rhoi allan, ac felly mai dim ond un trên oedd yn cael awdurdod i fynd ar hyd pob darn o’r lein sengl ar yr un pryd. 

 

 

Prif achos y ddamwain yn Aber-miwl oedd bod staff yn yr orsaf yno ddim yn dilyn y rheolau am ddefnyddio’r tabled, gyda’r canlyniad bod 2 gyrrwr yn meddwl bod gyda nhw awdurdod i fod ar yr un lein sengl ar yr un pryd. Roedd trên cyflym o Aberystwyth wedi gadael y Drenewydd yn cario’r tabled cywir am y lein rhwng y Drenewydd ac Aber-miwl, tra roedd trên lleol yn teithio i’r cyfeiriad arall wedi mynd i’r un darn o’r lein yn cario tabled am y lein rhwng Aber-miwl a Threfaldwyn. Nid oedd gyrrwr na thaniwr y trên lleol na’r Orsaf feistr yn Aber-miwl wedi gwirio’r tabled – gyda chanlyniadau erchyll. 

Mae llawer o adnoddau ar gael o fewn y Llyfrgell am y ddamwain; oherwydd cyfyngiadau Covid-19, nid oes modd i’w harchwilio neu eu rhannu am y tro, ond mae llawer o adnoddau am y ddamwain, yr ymchwiliad, a’r bobl gafodd eu heffeithio ar gael ar-lein. 

Cafodd y drychineb cryn dipyn o sylw yn y cyfryngau, ac mae llawer o adroddiadau ym mhapurau newydd lleol a chenedlaethol am y ddamwainEr bod gwasanaeth Papurau Newydd Cymru yn gorffen yn 1919, mae rhai erthyglau ar gael ar-lein i ddefnyddwyr y Llyfrgell drwy ein adnoddau allanol. Roedd y Times a’r Mirror yn cario straeon manwl am y ddamwain y diwrnod wedyn, gyda’r Mirror yn adrodd bod Arglwydd Herbert Vane-Tempest, un o gyfarwyddwyr y cwmni rheilffordd a chyfaill i’r Brenin, ymhlith y meirw, ac yn cynnwys lluniau o’r ddamwain. Roedd y Times wedi danfon gohebydd i siarad gyda’r staff rheilffordd oedd wedi goroesi yn yr ysbyty a chodi cwestiynau ar sut ddigwyddodd y ddamwain gan fod y system tabledi yn weithredol. Cafwyd llawer o adroddiadau pellach ar yr ymchwiliad ac angladdau’r meirw yn yr wythnoau i ddilyn. 

 

 

Mae casgliadau print y Llyfrgell yn cynnwys llawer o ymchwil ar y ddamwain, gan gynnwys nifer o lyfrau ac erthyglau megis Red for Danger gan L. T. C. Rolt a The Deadly Tablet gan David Burkhill-Howarth. Mae’n ddiddorol bod llyfr ar hanes Rheilffyrdd y Cambrian, a gyhoeddwyd yn 1922, The Story of the Cambrian gan C. P. Gasquoine, dim ond yn rhoi paragraff i’r drychineb. Mae copi digidol o’r llyfr ar gael trwy Brosiect Gutenburg.

Mae adroddiad swyddogol y ddamwain, a ysgrifennwyd gan Col. Pringle, Archwilydd swyddogol y Rheilffordd, ymhlith y papurau seneddol yn y Llyfrgell. Mae’r 28 tudalen yn llawn gwybodaeth ac yn dangos manylder ei ymchwiliad. Mae copi digidol o’r adroddiad ar gael gan Archif y Rheilffyrdd ac, wrth gwrs, mae Hansard yn cofnodi’r amryw o gwestiynau codwyd yn y Senedd.

Ymhlith y deunydd nad yw ar gael yn ddigidol, mae Llyfr Ffoto Rheilffyrdd 2 yn cynnwys ffotograffau o’r ddamwain ac mae’r Archif Sgrin a Sain yn cynnwys nifer o raglenni teledu yn adrodd stori’r damwain, gan gynnwys Y Dydd (1967) a Your Century (2003). Mae hyd yn oed cân am y ddamwain yn ein casgliad, The Ballad of Abermule Railway Disaster gan Evan Andrew. 

Mae cysylltiad uniongyrchol rhwng trychineb Aber-miwl a’r Llyfrgell Genedlaethol. Roedd cadeirydd cwmni Rheilffordd y Cambrian adeg y ddamwain, Arglwydd Davies Llandinam, wedi cefnogi sefydlu’r Llyfrgell, rhoi tir ar gyfer yr adeilad, a gwasanaethu fel Llywydd y Llyfrgell o 1927 ymlaen. Mae ei archif yntau yn cynnwys gohebiaeth o’r cyfnod a rhai papurau yn ymwneud â’i ddiddordeb yn rheilffyrdd ar draws Cymru. 

Canrif yn ôl papurau newydd oedd y ffordd cafodd adroddiadau am drychineb Aber-miwl eu lledaenu. Heddiw, rydym yn medru defnyddio’r technoleg diweddaraf trwy ddigido a’r phori’r Wê i ddarllen yr un adorddiadau yn ein cartrefi.  

 

Rob Phillips
Yr Archif Wleidyddol Gymreig

Tywysogion Hynafol a Beirdd Modern: Gweithiau David Harries

Casgliadau / Cerddoriaeth / Collections / Derbynion newydd - Postiwyd 11-01-2021

Cynhyrchodd David Harries, un o gyfansoddwyr blaenaf y 20fed ganrif, catalog amrywiol ac unigryw yn ystod ei gyrfa hir. Roedd ysbrydoliaeth Harries yn dod yn bennol o’i gwreiddiau Cymreig, a adlewyrchir hwn yn ei gyfansoddiadau, sy’n cynnwys agweddau o farddoniaeth a chaneuon gwerin Gymreig yn ogystal â chyfeirio dylanwadau ehangach fel chwedloniaeth Groeg.

Ganwyd David Harries yn 1933 a gafodd ei fagu yn Sir Benfro cyn astudio cerddoriaeth yn Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a graddiodd yn 1954. Aeth ymlaen i ddysgu yn y Coleg Cerdd a Drama Cymru lle ddaeth yn Bennaeth Cyfansoddi yn 1985, a pharhaodd i ysgrifennu cyfansoddiadau tan y 1990au. Mor gynnar â’r 1950au roedd ei waith siambr a cherddorfaol yn dangos amrywiaeth o ddylanwadau cerddorol, yn cynnwys ei Opws 1, ‘Introduction (Quasi Notturno) and Allegro Scherzoso for String Quintet’ (1952) a ymgorfforodd y caneuon gwerin draddodiadol ‘Hun Gwenllian’ a ‘Hela’r ‘Sgyfarnog’. Mae ei diddordeb mewn hanes a chwedloniaeth hefyd yn amlwg yn y cyfansoddiadau cynharach hyn, gyda’i Opws 3, ‘Incidental Music to Antigone’ (1953) yn seiliedig ar y ddrama 1944 ‘Antigone’ gan Jean Anouilh, sef addasiad o waith Sophocles.

Yn ogystal â sgoriau offerynnol, ysgrifennodd Harries nifer o weithiau ar gyfer llais a phiano, a chyfansoddwyd llawer ohonynt fel dehongliadau o gerddi. Yn benodol, mae beirdd Eingl-gymreig yr 20fed ganrif yn ymddangos yn ei waith. Mae ei Opws 10, ‘Canticle for Voice and Piano: Words by Twentieth Century Anglo-Welsh Poets’ (1956-1961) yn cynnwys alawon yn seiliedig ar eiriau o’r cerddi ‘Lie Still, Sleep Becalmed’ gan Dylan Thomas, a ‘When I Was a Child’ gan R. S. Thomas, ymysg eraill. Mae’n amlwg parhaodd y diddordeb hwn trwy gydol gyrfa Harries, ond ni ddefnyddiodd geiriau beirdd Cymreig yn unig. Defnyddiwyd hefyd gweithiau’r bardd Bengali o ddiwedd y 19eg ganrif/dechrau’r 20fed ganrif, Rabindranath Tagore, yn ei Opws 65, ‘Gitanjali Song Offerings: Six Poems of Rabindranath Tagore for Soprano & Chamber Orchestra’ (1993).

Ond o bosib y mwyaf deniadol o weithiau Harries yw’r rhai sy’n dod ag elfennau canoloesol i fywyd. Mae’r casgliad yn cynnwys sawl darn wedi eu cyfansoddi ar gyfer cerddorfa lawn, ond yr amlycaf ohonynt yw’r sgôr cerddorfaol Opws 48, ‘Princes of Gwynedd: Symphonic Impressions’, a chomisiynwyd ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caernarfon yn 1979. Mae nodyn sydd wedi’i gynnwys gyda’r casgliad yn esbonio bod y gwaith wedi’i drefni mewn pedwar rhan er mwyn cyfleu argraff gerddorol o bedwar tywysog canoloesol o Wynedd: Maelgwn Gwynedd (a bu farw 547); Cadwaladr Fendigaid (664); Owain Gwynedd (1170); a Llywelyn ap Gruffydd (1282). Fel ysbrydoliaeth, defnyddiodd Harries dyfyniadau o awduron a beirdd canoloesol bron-gyfoes i adeiladu bob darn, yn cynnwys gweithiau Gildas, Sieffre o Fynwy, Gwalchmai ap Meilyr, a Gruffudd ab yr Ynad Coch. Mae’r defnydd dychmygus hwn o destunau canoloesol yn dod â’r tywysogion hynafol hyn i fywyd maen ffordd unigryw a chreadigol.

 

 

Mae creadigrwydd yn rhedeg trwy dudalennau cyfansoddiadau Harries, a adlewyrchir hyn yn ei arddull ysgrifennu. Mae ei ddrafftiau o sgoriau yn llawn sgriblo, nodiadau, a dwdlau sy’n aml yn darlunio pwynt cerddorol – er enghraifft, mae un o’r llawysgrifau Opws 48 (David Harries Music Manuscripts, 5/3) wedi’i addurno gyda braslun o flaidd yn swnio, i arwyddo diwedd y darn.

Mae llawysgrifau cerddorol David Harries yn dangos creadigrwydd ac ehangder cyfansoddi dros bum degawd. Efallai yn fwy na dim arall, mae’r casgliad yn dangos sut mae dylanwadau ac ysbrydoliaeth o lenyddiaeth Gymreig yn gallu cael eu defnyddio i greu darnau o gelf gerddorol.

Gellir gweld y catalog llawn ar Gatalog Archifau a Llawysgrifau’r Llyfrgell. 

 

Lucie Hobson
Archifydd Dan Hyfforddiant

Gwobr Barddoniaeth Mewn Iaith Geltaidd Michael Marks

Casgliadau / Collections - Postiwyd 18-12-2020

Llongyfarchiadau mawr i Rhys Iorwerth ar ennill Gwobr Barddoniaeth Mewn Iaith Geltaidd Michael Marks. Dyfarnwyd y wobr iddo ar nos Lun, 14 o Ragfyr, yn ystod achlysur rhithwir o’r Llyfrgell Brydeinig yn Llundain – a nifer o leoliadau eraill – am ei bamffled carthen denau.

Er bod gwobrau barddoniaeth Michael Marks yn adnabyddus ym myd cyhoeddi Saesneg dyma’r ail dro yn unig i’r wobr Geltaidd gael ei dyfarnu. Noddir y gwobrau gan y Michael Marks Charitable Trust a chadeirydd yr ymddiriedolaeth, Marina, Y Foneddiges Marks sydd y tu ôl i’r syniad o wobr am farddoniaeth yn yr ieithoedd Celtaidd. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn falch o fod yn rhan o drefniadau’r wobr hon.

 

 

Meddai’r Prifardd Dafydd Pritchard am ddwy o’r cyfrolau: ‘Roedd Dy Galon Ofalus/Your Careful Heart, gan Elinor Wyn Reynolds, a carthen denau, gan Rhys Iorwerth, yn bamffledi o safon uchel o ran cynnwys a diwyg. Gobeithio y bydd cyhoeddiadau o’r fath yn ysgogiad i ragor o feirdd a gweisg fynd ati i gynhyrchu rhagor o ddeunydd yn y cyfrwng cyffrous hwn. Mae Rhys Iorwerth yn enillydd teilwng tu hwnt.

Mae’n dda gweld gwasg Y Stamp yn dod i’r brig unwaith eto eleni. Tybed oes yna feirdd a chyhoeddwyr arloesol eraill sydd am fentro i fyd cyhoeddi pamffledi barddoniaeth yn y flwyddyn newydd? Bydd manylion cystadleuaeth 2020-21 i’w gweld yn Gymraeg ar wefan y Wordsworth Trust cyn bo hir.

Traddodiadau Blwyddyn Newydd yng Nghymru

Darganfod Sain - Postiwyd 16-12-2020

Wrth ddigido recordiadau sain mae’r tîm Datgloi Ein Treftadaeth Sain wedi darganfod rhai cyfweliadau coll gan bobl yn siarad am atgofion eu plentyndod, nôl ar ddiwedd y 1800au a dechrau’r 1900au megis eu dyddiau ysgol, bywyd teuluol, cymunedau a thafodiaith leol. Trwy arbed y recordiadau hyn rydym yn caniatáu i genedlaethau’r dyfodol glywed ein gorffennol a dysgu am ein hanes.

Mae Cymru yn wlad sydd ag amrywiaeth o arferion a thraddodiadau sy’n rhan bwysig o’n diwylliant a’n hanes. Un o’r rhain yw traddodiad y Flwyddyn Newydd.

Mae straeon am arferion lleol o’r 19eg ganrif yn cael eu hadrodd, er enghraifft ‘Y Fari Lwyd’. Arferiad gwerin ganoloesol, gyda’r pwrpas o gasglu arian i’r tlawd a’r digartref i wneud iawn am y diffyg cefnogaeth gan y llywodraeth. Enwebwyd person tal i arwain, gan ddal penglog y ceffyl wedi’i wneud o bren, gyda dau arall y tu ôl i ddal yr offrymau a gasglwyd.

Gwrandewch ar Myra Evans yn disgrifio’r Fari Lwyd yng Nghei Newydd:

 

Gellir gweld trawsgrifiad o’r ffeil sain ar ddiwedd y blog.

 

Mae Myra Evans yn cofio gweld Y Fari Lwyd yng Nghei Newydd ym mis Ionawr 1887, dyma un o’r golygfeydd olaf o’r Fari Lwyd yn yr ardal.

Dywedodd Myra fod parti Y Fari Lwyd yn cyfarfod y tu allan i’r dref i ddechrau’r orymdaith i mewn i Gei Newydd. Yn arwain oedd y tri dyn gyda’r gaseg, yna’r dynion, ac yn dilyn bechgyn dros 12 oed. Pob un yn gwisgo mwgwd dros eu hwynebau rhag i neb eu hadnabod.

Mae Myra yn cofio bod ei thad i ffwrdd ar y môr ym 1887, gan adael dim ond hi a’i mam yn y tŷ. Dywedwyd wrthi, os oedd hi eisiau gweld yr orymdaith, a oedd yn mynd heibio eu cartref, roedd yn rhaid iddi fod yn dawel a sicrhau nad oedd unrhyw un yn ei gweld. Yna fe wnaeth ei mam gloi’r drysau i atal y dynion rhag mynd mewn i’r tŷ.

Aeth y parti mewn i bob tafarn, siopau mawr a thai teuluoedd cyfoethog i ofyn am arian i’r tlodion. Pe byddent yn gwrthod neu ddim yn rhoi llawer, byddai’r parti yn gorfodi eu ffordd i mewn i’r adeilad ac yn cymryd unrhyw beth yr oeddent eisiau.

Gwelodd Myra y parti yn mynd heibio ei thŷ, o du ôl y llenni, gan wneud yn siŵr ei bod yn dawel, a heb ei gweld. Pe byddent yn ei gweld dywedodd y fam y byddent yn ceisio torri mewn i’r tŷ.

 

 

Mae Calennig yn draddodiad Cymreig arall, lle mae plant yn mynd o ddrws i ddrws ar Ddydd Calan, hyd at ganol dydd, yn canu dymuniadau da am y flwyddyn i ddod ac yn cael calennig yn gyfnewid. Byddai’r rhain naill ai’n fwyd neu’n arian.

Un gân a ganwyd yng nghanolbarth Cymru oedd:

Blwyddyn Newydd Dda i chi
Ac i bawb sydd yn y tŷ
Dyma fy nymuniad i
Blwyddyn Newydd Dda i chi

 

Ni chaniataodd rhieni Margaret Davies iddi fynd allan i hel Calennig, ond mae’n cofio plant yn galw yn ei thŷ ac yn derbyn ceiniog neu ddarn o fara.

Tra bod D.J. Morgan o Abermeurig, yn cofio mynd am y tro cyntaf gyda’i fam a’i pedair chwaer. Roeddent yn deffro am 5yb i fynd o amgylch y ffermydd cyfagos. Mae’n cofio taw’r fferm orau iddo ymweld â hi oedd Mrs Griffiths, lle cawsant ddarn o gacen am ganu, a chael darn arall iddynt fynd adref gyda nhw.

 

 

Mae Jack Poole yn cofio codi ar doriad y wawr a mynd yn syth i’r tŷ pellaf yn y pentref a gweithio ei ffordd yn ôl, waeth beth oedd y tywydd. Roedd pawb yn mwynhau ac yn canu penillion wrth bob drws.

Mae Jack yn cofio gweld gwraig weddw a’i phum plentyn yn mynd o gwmpas yn gofyn am Galennig gyda bagiau ar eu cefnau. Roeddent yn casglu bwyd megis bara neu gaws. Cariai pob plentyn lwyth ar ei gefn.

Gwrandewch ar Jack yn adrodd yr adnod yr arferai ei hadrodd:

 

Gellir gweld trawsgrifiad o’r ffeil sain ar ddiwedd y blog.

 

Mae’r recordiadau sain yn rhan o gasgliad hanes llafar Llyfrgell Ceredigion, ac mae modd gwrando arnynt yma yn y Llyfrgell drwy apwyntiad.

 

Trawsgrifiad: Myra Evans
Wel, dewiswyd gŵr tal i gludo’r pen ceffyl ar ysgwyddau i arwain yr orymdaith ac roedd dau ddyn arall, un bob ochr iddo, yn ei helpu i gerdded yng nghanol y ffordd. Roedd un ohonynt yn cymryd gofal o’r pwrs lledr mawr oedd ganddo i gadw’r arian gawsent, ar llall yn rhigymwr da i geisio rhoddion o arian a gwin a theisennau wrth ŵr y siop neu rywun cyfoethog. Roedd y pen ceffyl a lliain gwyn drosto, wedi addurno’r llygaid a chlustiau lledr a safn rhubanau o bob lliw, coch, melyn a glas. Roedd y rhosynnau yn goch pan welais i’r pen ar rhibannau yn rhydd yn hongian dros y gwddf o bob lliw.

Trawsgrifiad: Mr Jack Poole
A oeddan ni gorfod canu neu wneud rhyw ffras wrth bob drws, fel enghraifft
Dydd Calan yw hi heddiw
Rwy’n dyfod ar eich traws
I ofyn am y geiniog
Neu doc o fara a chaws
O peidiwch a diraenu
Na newid dim o’ch gwedd
Cyn daw dydd calan nesa
Bydd llawer yn eu bedd
Ac wedyn os byddech chi mewn brys i fynd, byddech chi yn dweud
Calennig yn gyfan ar fora dydd Calan, unwaith, dwywaith, tair gwaith
ac wedyn Blwyddyn Newydd Dda

Cred mewn Cynydd

Casgliadau / Sgrin a Sain - Postiwyd 14-12-2020

Mae’n annhebygol y byddai ffilm sy’n hyrwyddo ysbyty heddiw yn dangos i chi ystafell y boeler neu’r tanc septig (oni bai bod gan y ddau gymwysterau gwyrdd chwyldroadol) ond mae’r ddau yn ymfalchïo yn eu lle, ynghyd â’r peirianwyr lleol, yr adran pelydr-X a ward mamolaeth Llandinam, mewn ffilm c.1942 yn apelio am arian ar gyfer Ysbyty Cenhadol Cymru Bryniau Casia yn Shillong yn nwyrain India.
Os hoffech wylio Shillong Hospital (gyda chaniatâd yr Eglwys Bresbyteraidd yng Nghymru) cysylltwch, os gwelwch yn dda, â gofyn@llgc.org.uk.

Yn yr un modd, mae Cardiff Royal Infirmary – please give generously yn darparu lluniau manwl o odro yn y Pentrebane Dairy, Sain Ffagan, sy’n cynhyrchu’r llaeth Gradd A a gyflenwir i’r ysbyty. Mae yna hefyd siotiau yn dangos bwtsierdy’r ysbyty, ei offer cynhyrchu dŵr soda a rhew a’i beiriannau torri bara a phlicio tatws, pob arloesedd modern ym 1937 pan oedd yr ysbyty’n apelio am arian ar gyfer estyniad newid.

Ar gael i’w weld ar-lein ar y BFI Player: https://player.bfi.org.uk/free/film/watch-cardiff-royal-infirmary-please-give-generously-1937-online

 

 

Mae agweddau anfeddygol a meddygol yr ysbytai yn cael sylw cyfartal, gan ddangos i gyfranwyr ariannol i ble mae eu harian yn mynd a phwysleisio pa mor bwysig yw cyfleusterau modern – ym mhob maes – ar gyfer iechyd a lles cleifion a staff.

Ond ai balchder cyn cwympo yw balchder mewn cynnydd? Mae pandemig byd-eang Covid, sy’n cyd-daro â’r cynnydd mewn eithafiaeth asgell dde, newid yn yr hinsawdd a phrotestiadau Black Lives Matter, wedi arwain at ailarchwiliad eang o bopeth sydd efallai wedi’i gymryd yn ganiataol hyd yma. Mae ffilmiau’r Archif yn adlewyrchu hanes yr amseroedd pryd saethwyd nhw – yn ddaearyddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol – lle saethwyd y ffilm – ac felly maent mor agored i’w hail-werthuso ag unrhyw beth arall.

Roedd David Lloyd George, prif weinidog Prydain (1916-22), yn frwd dros ddatblygiad modern, mecanyddol ac fe’i gwelwn ar ei fferm ‘Bron-y-de’ yn Churt, Surrey, yn rhoi prawf ar ddau beiriant enfawr ym 1938. Gan ei fod yn gynhyrchydd mêl ac afalau, efallai y byddai wedi dod i edifarhau y math o gynnydd y cyfrannodd peiriannau o’r fath ato: ffermio diwydiannol.

Gweler Rotatiller a Caterpillar Tractor – Oct. and Nov. 1938 ar-lein ar y BFI Player:
https://player.bfi.org.uk/free/film/watch-rotatiller-and-caterpillar-tractor-oct-and-nov-1938-1938-online

 

 

Bu petrol “Motor Spirit” Cory yn hwb i’r defnydd o beiriannau trwm fel rhain, ac i’r cynnydd ym mherchnogaeth ceir, ac mae’r ffilm hyrwyddo Energy (1935) – gyda rhyng-deitlau Saesneg a Sbaeneg – yn dathlu glofeydd y cwmni yn ne Cymru a’i burfeydd olew ledled y byd. Bu tanwydd ffosil Cory’s yn hwb i gadw olwynion y byd diwydiannol i droi, ond mae’r pris am ddefnyddio tanwydd o’r fath yn cael ei dalu heddiw.

Ar gael i’w weld ar-lein ar y BFI Player: https://player.bfi.org.uk/free/film/watch-energy-1935-online

 

 

Anaml y defnyddiwyd ‘ma bach yn brydferth/small is beautiful’ fel is-bennawd ar gyfer cynnydd yn y byd diwydiannol ac mae’r Archif yn diogelu llawer o ffilmiau sy’n mawrygu campau enfawr o goncrit, o wneud dur, o ddyfeisgarwch dynol, o lanast amgylcheddol. Mae ffilm Jack Howells’ Mine Shaft Sinking yn olrhain gwneud “twll rhyfeddol yn y ddaear” – siafft 4 yng Nglofa Cynheidre, ger Llanelli. Dangosir y gwaith yn fanwl ac mae’r sylwebaeth yn rhoi ystadegau concritio syfrdanol y prosiect.

Os hoffech wylio’r ffilm hon cysylltwch, os gwelwch yn dda, â gofyn@llgc.org.uk.

Mae galw mawr am y Frenhines ar achlysur agor cynlluniau diwydiannol mawr fel hyn. Ar 26 Hydref 1962 roedd hi yn Llanwern, Casnewydd, ar gyfer agoriad Spencer Works newydd Richard Thomas a Baldwins, a recordiwyd yn y ffilm A Great Day. Mae’r Araith Croeso gan RTB yn cyfeirio at gael gwared ar 40 milltir o wrychoedd, defnyddio 10 miliwn o frics, gosod 39 milltir o drac rheilffordd, adeiladu 27 milltir o ffordd. Mae’n swnio’n debyg, ond ar raddfa lai, i’r cwympo coetir a gwrychoedd hynafol a cholli gwarchodfeydd natur a SSSIs ar gyfer datblygiad HS2, a hynny yn ei dro siŵr o fod yn debyg i raddfa’r difrod amgylcheddol a achoswyd er mwyn creu rhwydwaith rheilffyrdd gwreiddiol y DU (a gychwynnwyd, fel HS2, i wasanaethu buddiannau busnes). Chwarae teg iddo, mae cynrychiolydd RTB yn mynd ymlaen i nodi, “yn yr holl gynnwrf a’r dwndwr hwn, mae adar gwyllt ac elyrch wedi gwrthod gadael yr ardal ac rydym yn gadael ychydig o byllau ar y safle er eu mwynhad arbennig nhw a’n pleser ein hunain.”

Ar gael i’w weld ar-lein ar y BFI Player: https://player.bfi.org.uk/free/film/watch-a-great-day-1962-online

 

 

Gweler hefyd Port Talbot’s Royal Day sydd yn achlysur mawr ym mhob ystyr. Ar gael i’w weld ar-lein ar y BFI Player:
https://player.bfi.org.uk/free/film/watch-port-talbots-royal-day-1970-online

Fel yr adar gwyllt ac elyrch Casnewydd, mae draenogod yn fach ac yn hardd ac angen help. Maent yn dirywio mewn ardaloedd gwledig a threfol am amryw o resymau a achoswyd gan fodau dynol, felly rydym yn falch o gael cofnod hudolus o un a ffilmiwyd gan y ffermwr Ion Trant, ym Mhowys – A Prickly Visitor at Maesmawr Hall, Welshpool. Fe’i gwelir wedi cyrlio i fyny, mewn siot agos, ac yn cael ei annog i ymagor trwy chwifio ŵy wedi’i ferwi o dan ei drwyn.

Ar gael i’w weld ar-lein ar y BFI Player: https://player.bfi.org.uk/free/film/watch-a-prickly-visitor-at-maesmawr-hall-welshpool-1956-online

 

 

Mary Moylett, Catalogydd (Ffilm) Archif Sgrin a Sain

<- Cofnodion Hŷn

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog