Tachwedd 2 yw Diwrnod Cadwedigaeth Ddigidol y Byd, digwyddiad blynyddol sydd wedi’i arwain gan Glymblaid Cadwedigaeth Ddigidol i ddathlu’r gwaith cydweithredol sy’n cael ei wneud yn fyd-eang i sicrhau bod cynnwys digidol ar gael i’w defnyddio yn y presennol a’r dyfodol. Thema eleni yw Cadwedigaeth Ddigidol: Ymdrech ar y Cyd, sy’n cyd-fynd yn arbennig â’n gweithgareddau yng Nghymru. Fel gwlad fach a chlyfar rydym wedi hen arfer gwneud ymdrechion ar y cyd er lles pawb, a adlewyrchir yn arbennig yn ein Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r Ddeddf hon yn unigryw i Gymru ac mae’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau a gweithio ar y cyd. Rydym yn sicr wedi cwrdd â gofynion y Ddeddf yng nghyd-destun cadwedigaeth ddigidol, gan ddylanwadu ar benderfyniadau drwy greu polisi cenedlaethol sy’n eiriol dros fuddsoddi, datblygu sgiliau a thrwy lawer o fentrau cydweithredol.
Cydnabuwyd llwyddiant ein gwaith eirioli wrth i ni dderbyn Gwobr Rhwydwaith Treftadaeth Ddigidol yr Iseldiroedd yn 2022 ar gyfer Addysg a Chyfathrebu. Mae cydweithio a throsglwyddo gwybodaeth wedi bod yn allweddol i’n llwyddiant. Enghraifft dda o effaith ein hymdrech ar y cyd yw prosiect Kickstart Cymru. Ariannwyd y fenter hon gan Lywodraeth Cymru gyda’r nod o ddarparu’r caledwedd a’r meddalwedd angenrheidiol (y Bwndeli) a hyfforddiant i swyddfeydd cofnodion cyhoeddus yng Nghymru i ymgymryd â thasgau sylfaenol wrth gyrchu cofnodion digidol. Mae fideos cysylltiedig, cyflwyniadau PowerPoint a dogfennaeth bellach ar gael ar becyn cymorth staff Diogelu’r Didau Archifau Cymru: https://archives.wales/staff-toolkit/saving-the-bits-programme/.
Elfennau o’r Bwndeli, gan gynnwys storfa allanol, atalydd ysgrifennu, UPS a meddalwedd wedi’i llwytho ymlaen llaw
Mae’r Llyfrgell hefyd yn datblygu ei llifoedd gwaith ei hun trwy weithio gydag adneuwyr i sicrhau nad yw’r broses gyflwyno yn rhy feichus, ond yn bodloni gofyniad y Llyfrgell i alluogi amlyncu cynnwys dibynadwy a chadwadwy. Mae gwerth yr ymdrech ar y cyd hwn wedi’i ddangos yng nghyhoeddiad diweddar y casgliad the Phonology of Rhondda Valleys, sydd ar gael drwy gatalog Atom: https://archives.library.wales/index.php/the-phonology-of-rhondda-valleys-english. Mae’n cynnwys ymchwil am yr acen Saesneg yng Nghymoedd Rhondda, De Cymru. Mae’n gasgliad cymhleth sy’n cynnwys cyfweliadau ag aelodau o Glybiau’r Gweithwyr yng nghymunedau’r Cymoedd, recordiadau sain mp3 a ffeiliau PDF aml-dudalen o drawsgrifiadau. Roedd darparu mynediad i gasgliadau yn golygu ymwneud â nifer o faterion technegol a hawliau, na ellid eu datrys ond trwy ymdrech gyfunol yr adneuwr, yr archifydd derbyniad digidol, datblygwr Archivematica a llu o rai eraill, sy’n dangos bod cadwedigaeth ddigidol yn wir yn ymdrech ar y cyd!
Ni ddylai fod yn syndod i neb fod Deallusrwydd Artiffisial (AI) wedi cyrraedd brig agenda’r Ffederasiwn Archifau Teledu Rhyngwladol, sef FIAT-IFTA oedd yn cwrdd yn Locarno y mis hwn. Roeddwn i yno ar ran Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Archif Ddarlledu Cymru, gan ein bod bellach yn aelod llawn o’r gymuned rhyngwladol yma, ynghyd ag yn agos at 300 o gynrychiolwyr yn cynrychioli 120 o sefydliadau a 45 o wledydd. Dyma eu cynhadledd mwyaf erioed, mae’n debyg, gyda chynrychiolaeth gan lawer o ddarlledwyr yn dal i fod yn gwarchod eu harchifau eu hunain e.e. RTE o Iwerddon, ond nifer hefyd sydd wedi trosglwyddo eu harchifau i Lyfrgelloedd ac Archifau Cenedlaethol fel sydd wedi digwydd yn achos Cymru, ac roedd yno hefyd rhai sefydliadau academaidd a rheoleiddwyr darlledu, felly sawl perspectif amrywiol o’r sector.
Er bod yr arwydd y tu allan y Gynhadledd yn dweud “Blame it on the Algorithm”, dylwn i ddweud bod y neges a gawson ni y tu mewn i’r drysau yn annog y gwrthwyneb, yn dweud y dylai’r bobl sy’n defnyddio algorithmau cysylltiedig a Deallusrwydd Artiffisial gymryd y cyfrifoldeb i ddeall y defnydd sy’n cael ei wneud o’r data, ac i ddatblygu’r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial mewn ffordd priodol a gofalus, yn hytrach na beio cyfrifiaduron.
Roedd yn amlwg o nifer o’r trafodaethau a gafwyd bod llawer iawn o gynnydd wedi ei wneud mewn un elfen o dechnoleg deallusrwydd artiffisial – sef technoleg llais i destun, hynny yw, rhedeg cyfrifiaduron i ddeall yr hyn sy’n cael ei ddweud gan bobl mewn ffeiliau sain a fideo digidol, a chreu testun ohonno. Mae hyder gan yr archifau teledu yn gyffredinol bod y dechnoleg yma yn ei le ar gyfer y prif ieithoedd Ewropeaidd, ond diddorol er hynny oedd clywed yn y Swistir bod llawer o waith ar ôl i’w wneud hyd yn oed gyda eu hieithoedd mawr nhw, Eidaleg, Ffrangeg ac Almaeneg, er mwyn delio ag acenion a chyd destunau rhanbarthol, er enghraifft acenion y Swistir.
Rydyn ni yng Nghymru hefyd yn cymryd diddordeb yn y dechnoleg yma, yn rhannol gan fod gan Archif Ddarlledu Cymru dros 80,000 o ffeiliau sain digidol gan y BBC. Yn achos y Gymraeg mae angen gwella’r safon y modelau sy’n trosi sain i destun Cymraeg, gan nad yw mor gryf a’r hyn sydd ar gael ar gyfer ieithoedd mwy. Dyna’n union ydy bwriad Archif Ddarlledu Cymru mewn partneriaeth a’r BBC ac a Chanolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor, gobeithio bydd gennym newyddion am hynny yn fuan. Cam dilynol i ni ei ystyried fydd unrhyw angen i roi sylw i voice2text Saesneg ar gyfer acenion a chyd destun Cymreig, yn debyg i’r hyn godwyd yma am acenion Eidaleg y ran yma o’r Swistir.
Trafodwyd llawer o dechnolegau, wrth gwrs, dros pedwar diwrnod y gynhadledd, ac mae’n weddol amlwg mai’r cam nesaf sy’n dilyn o greu data yn seiliedig ar y sain yn yr hen recordiadau archifol ydy deall sut i ddefnyddio’r testun hwnw, ac adnabod lleoedd, pobl, ac allweddeiriau perthnasol sydd yn y data a grëwyd. Mae hyn yn dasg gymhleth sy’n gofyn am gyfuniad o ddealltwriaeth artiffisial a dealltwriaeth pobl go iawn, ac mae archifau yn y Ffindir, Ffrainc, Sbaen a’r Iseldiroedd yn amlwg yn gwneud cynnydd mawr yn hyn o beth. Yr her ydy sicrhau bod y cyfuniad priodol o bobl a sgiliau technegol, a phobl sy’n deall yr archif a’r cyd destun yn dod ynghyd i gydweithio,
Dwi’n obeithiol y bydd hyn hefyd yn digwydd yn y Llyfrgell Genedlaethol, rydyn ni wedi gwneud llawer o waith tebyg gyda thestun wedi ei ddarllen o ffeiliau graffeg o bapurau newydd trwy OCR, ac mae gennym adran technoleg gwybodaeth cryf. Mae’n gwestiwn er hynny a yw’n ddigon, ar ôl clywed am strwythur staffio rhai o’r archifdai mwyaf blaengar, ble mae’r gyfran gyfran o bobl sydd a sgiliau technegol wedi cynyddu i tua hanner. I’r bobl sydd ofn y dechnoleg yma, mae’n bwysig nad ydyn ni’n dychryn gormod, ac yn wynebu’r her yn adeiladol. Does dim osgoi’r faith bod deallusrwydd artiffisial yn mynd i ofyn am dipyn o newid swyddi a hyfforddi, ond nid yw’n edrych fel bod rheidrwydd ei fod yn cymryd swyddi i ffwrdd yn y sector yma ar hyn o bryd.
Y cyd destun yw bod yr angen i warchod y gwir yn fwy nag erioed, dyna yw priod waith archifau, ond rydym wedi clywed digon yn y gynhadledd yma am y cyfleoedd newydd i ffugio gwybodaeth a chamarwain sy’n codi drwy’r amser, mater sydd o bwys hanfodol i bobl sy’n gyfrifol am newyddion. Os ydyn ni fel cymdeithas yn fodlon i ddeallusrwydd artiffisial chwarae rhan cynyddol yn ein bywydau rhaid i ni hefyd gymryd y cyfrifoldeb i ddysgu am agweddau mwy cynnil y dechnoleg, am y tueddiadau/bias sydd ynddo, a sut i ymdopi a’r camgymeriadau sy’n cael eu gwneud ganddo.
Digon i bendroni yn ei gylch, dydyn ni ddim yn mynd i ateb pob problem ar unwaith, nac ymgymryd a phob technoleg sy’n datblygu ar hyn o bryd, ond mae’n dod yn fwyfwy amlwg i fi bod rhaid i sefydliadau cyhoeddus, gan gynnwys y Llyfrgell Genedlaethol, agor eu llygaid i’r hyn sy’n digwydd yn y maes, gwerthfawrogi’r cyfleoedd yn ogystal a’r bygythiadau sydd o’n blaenau i gyd. Allwn ni ddim cau ein llygaid, beio pobl eraill, beio cyfrifiaduron, beio’r algorithmau, mae cyfrifoldeb arnom i wneud llawer mwy na hynny.
Einion Gruffudd
Rheolwr Clyweled ac Archif Ddarlledu
Diolch i gyllideb drwy Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol, mae’r Bywgraffiadur Cymreig (YBC) yn ymgymryd â phrosiect newydd i gynyddu ansawdd ac ystod ei gynnwys. Dros y flwyddyn hon a’r un nesaf, bydd y Prosiect Amrywedd yn canolbwyntio’n benodol ar ethnigrwydd a chydraddoldeb rhyw drwy gomisiynu erthyglau newydd i wella’r gynrychiolaeth o hanes amrywiol Cymru.
Enwau newydd i’w hychwanegu
Byddwn yn diweddaru, cywiro ac yn ail-ysgrifennu erthyglau sydd eisoes wedi’u cyhoeddi. Fe fyddwn hefyd yn comisiynu erthyglau newydd am bobl sydd ar goll. Mae YBC eisoes wedi cyhoeddi rhestr enwau sydd angen eu hychwanegu. Ers dechrau’r prosiect, yr ydym wedi adnabod sawl person hanesyddol o bob cefndir.
Rufus Elster Fennell (1887–1974)
Ymysg yr enwau newydd sydd wedi’u cynnwys yn y rhestr yw Rufus Elster Fennell (1887-1974). Yn enedigol o UDA, cafodd ei arestio gan yr heddlu fel tyst i’r Terfysgoedd Hil yng Nghaerdydd yn 1919. Yn dilyn ei rhyddhad, bu’n feirniadol o ragfarn hiliol a chreulondeb heddlu de Cymru wrth ddelio â’r terfysgoedd. Degawd yn ddiweddarach, fel actor mewn ffilmiau ac ar y llwyfan, ymddangosodd gyferbyn â Paul Robeson yn Jericho. Yn y pen draw, dychwelodd Fennel i’r Unol Daleithiau ble fu farw mewn cartref gofal yn 1874.
Peter Jones, Kahkewāquonāby (1802-1856)
Wrth chwilio drwy Gasgliad Portreadau’r Llyfrgell ar Wikimedia Commons, daethom o hyd i lun o Kahkewāquonāby (1802-1856) a gymrodd yr enw Peter Jones. Yr oedd o linach Gymreig ac Americanaidd Brodorol cymysg a gafodd ei fagu gan ei fam yn niwylliant, crefydd ac iaith y Mississauga Ojibwa.
Fel bachgen yn ei arddegau, ymunodd a’i dad estronedig ac, ymhen amser, daeth yn genhadwr Methodistaidd. Yn hwyrach, byddai Jones, fel arweinydd ymddiriedig o fewn y gymuned, yn cynrychioli diddordebau gwleidyddol y Mississaugas o flaen y llywodraeth Ganadaidd. Ymwelodd â Phrydain ar dri achlysur gwahanol i godi arian ar gyfer ei waith. Er na ymwelodd â Chymru, adroddodd y papurau newydd Cymreig am ei ddarlithiau cyhoeddus â brwdfrydedd.
Ble mae’r menywod?
Mae’n fwy anodd dilyn bywgraffiadau menywod hanesyddol oherwydd bod eu bywydau a’u cyflawniadau yn aml yn cael eu hesgeuluso a heb eu cofnodi. Fodd bynnag, yr ydym wedi adnabod sawl menyw yr hoffem eu coffau drwy erthyglau’r Bywgraffiadur. Ymysg y rhain yw Justina Jeffreys (1787-1869), a ganed yn Jamaica ac yn hwyrach o Gastell Glandyfi, y fyfyrwraig o Aberystwyth Irish de Freytas (1896-1989) a oedd y fenyw gyntaf i ymarfer y gyfraith yn y Caribî, neu Mahala Davis, y person Du cyntaf i ganu yn Gymraeg ar y teledu yn yr 1960au.
Cefnogi ein gwaith
Mae’r detholiad yma ond yn crafu’r wyneb ac yr ydym yn dibynnu’n fawr ar wybodaeth a brwdfrydedd y cyhoedd i’n cynorthwyo i sicrhau bod YBC yn tyfu, ehangu ac adlewyrchu’n deg amrywedd Cymru. Mae ein rhestr o enwau bellach ar gael ar wefan YBC. Os ydych yn ymwybodol o enw dylid ei gynnwys neu os oes diddordeb gennych i ysgrifennu erthygl am y bobl sydd eisoes wedi’i hadnabod, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.
Agorodd arddangosfa newydd gyffrous o fapiau o’r Llyfrgell Genedlaethol yn Oriel Glan-yr-afon, Hwlffordd, ar ddydd Sadwrn 23 Medi.
Mae’r mapiau hyn wedi eu dewis o’r 1.5 miliwn o wrthrychau sy’n cael eu gwarchod yn y Casgliad Mapiau Cenedlaethol yn Aberystwyth. Mae’r arddangosfa’n amrywio o’r map hynaf yn y llyfrgell i weithiau celf sydd wedi’u comisiynu’n ddiweddar.
Ymhlith yr uchafbwyntiau mae’r map cyntaf i ddangos Cymru’n unig, map o Ddoc Penfro a luniwyd yn gyfrinachol gan yr Undeb Sofietaidd yn ystod y Rhyfel Oer, cardiau chwarae o’r 17eg Ganrif ar thema mapiau, a map propaganda Almaenig sy’n dyfynnu geiriau David Lloyd George. Mae gweithiau celf newydd sbon a ysbrydolwyd gan y casgliad mapiau hefyd i’w gweld.
Yn 2023, comisiynodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru bedwar artist o liw i greu gweithiau celf yn ymateb i’r casgliad. Tyfodd dau o’r prosiectau o’r eitemau yn y casgliad mapiau gan ganolbwyntio ar hanesion anodd a dadleuol caethwasiaeth a threfedigaethedd. Bydd y gweithiau newydd hyn gan yr artistiaid Cymreig Mfikela Jean Samuel a Jasmine Violet Sheckleford yn cael eu harddangos yn gyhoeddus am y tro cyntaf yn yr arddangosfa hon, ynghyd â’r eitemau a’u hysbrydolodd o’r casgliad mapiau. Mae’r rhain yn taflu golau newydd ar fapiau trefedigaethol Prydeinig o Affrica, a’r cysylltiadau Cymreig â chaethwasiaeth planhigfeydd yn Jamaica.
Bydd Cymru i’r byd: mapiau o Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn Hwlffordd tan 24 Chwefror 2024.
Fe ffrwydrodd Niall Griffiths ar y llwyfan llenyddol efo’i nofel gyntaf Grits yn 2000. Wedi’i lleoli yn ardal Aberystwyth, mae’r nofel yn archwilio bywyd ar ymylon enbydus a difantais cymdeithas. Fe ddenodd ei ymdriniaeth o gyffuriau, rhyw a throsedd a’i defnydd helaeth o iaith lafar gymhariaethau amlwg â’r nofelydd Albanaidd Irvine Welsh (Trainspotting).
Serch hynny, medda Griffiths ar lais pwysig, grymus a diddorol ynddo’i hun, fel y gwelir o’r 22 bocs o’i bapurau a gatalogwyd yn ddiweddar yn y Llyfrgell. Mae’r rhain yn cynnwys nodiadau, drafftiau, deunydd ymchwil, dyddiaduron, gohebiaeth, papurau gweinyddol ac effemera sy’n ymwneud â phob agwedd o’i fywyd llenyddol, gan gynnwys ei nofelau i gyd hyd at Broken Ghost (2019), yn ogystal â’i farddoniaeth, ei storïau byrion ac amryw ryddiaith arall, dramâu radio a ffilm, erthyglau ar gyfer cylchgronau, adolygiadau o weithiau gan awduron eraill, cyfweliadau, gweithdai, gŵyliau, papurau academaidd, cyhoeddiadau’n ymwneud â’i waith ei hunan, a llawer mwy.
Er iddo gael ei eni a’i fagu yn Lerpwl, a’i fod â theyrngarwch chwyrn tuag at y ddinas honno, ac er iddo fyw am dair blynedd yn Awstralia o’i fod yn 12 oed, mae Niall Griffiths yn awdur nodweddiadol Cymreig. Yng Nghymru y lleolir y rhelyw o’i waith, ac ar gyrion Aberystwyth y mae e wedi byw am y rhan fwyaf o’i fywyd. Efallai nad yw hyn yn syndod, oherwydd gan ei deulu Cymreig a chan y llenor o’r Rhondda Ron Berry y dysgodd gyntaf am bwysigrwydd iaith, straeon ac anianoldeb. Cyhoeddwyd ei ddau deithlyfr Real Aberystwyth a Real Liverpool yng Nghymru, a dyfarnwyd ei nofel Stump (2003) yn Llyfr y Flwyddyn gan Gyngor Llyfrau Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru. Mae Griffiths yn olrhain ei berthynas agos â bryniau Cymru i’r cyfnod y treuliodd yn Eryri tra ar gwrs troseddwyr ifanc yn ei arddegau, a phriodola natur danllyd, anhydrin ac (yn aml) ysbrydol ei waith i’w wreiddiau Celtaidd.
Mae Griffiths wedi byw’r bywyd a ddisgrifia yn Grits: partïo, cyflawni gwaith di-grefft a chael a chael wrth fyw ar y gwynt. Yn aml, mae ei gymeriadau’n chwilio am ryw foddhad yn eu bywydau, ac mae nifer ohonynt yn byw dan lach tlodi – unigolion llawn gofidiau sydd yn ceisio gwneud y gorau o fyd gelyniaethus sy’n tueddu amlygu eu beiau a’u diffygion – tra bod ei dirweddau gwledig a dinesig yn atsain i ysgytiadau anghytgord eu harddwch ynghlwm â’u creulondebau. Cyflwynir hyn oll gan Griffiths mewn arddull graffig a chydag empathi ac argyhoeddiad dwfn, agwedd sy’n treiddio trwy eraill o’i weithiau.
Wrth ddarlunio’r aelodau hynny o gymdeithas nas clywir eu lleisiau’n aml, mae Griffiths yn hynod ymwybodol o’r berthynas sydd rhwng iaith a gwleidyddiaeth. Mae nifer o’i lyfrau wedi’u hysgrifennu mewn tafodiaith, gydag acenion wedi’u trawsgrifio’n ffonetig (a chyda phob rhwydd hynt i iaith fras) ac fe eilw ar ei wybodaeth lenyddol eang er mwyn rhoi naws arwrol i’w gymeriadau. Mae ei arddull ddwys a thelynegol wedi denu cryn edmygedd a llwyddiant masnachol, ond ar yr un pryd wedi llwyddo i ddieithrio rhai darllenwyr ac adolygwyr.
Nid fod Niall Griffiths yn poeni ryw lawer am adolygwyr llenyddol ac academaidd. Dechreuodd ysgrifennu pan oedd yn ifanc iawn, wedi’i gymell yn ddiarwybod gan rhyw ysfa neu’i gilydd, ac, er iddo adael yr ysgol yn 15 oed, daeth i ddeall pwysigrwydd addysg – yn ogystal â’i gyfyngiadau. Dychwelodd i fyd addysg, gan fentro cyn belled â dechrau gradd Doethuriaeth mewn barddoniaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, ond fe brofodd ddadrithiad, gan ddweud yn ddiweddarach fod angen iddo ddad-ddysgu rhan helaeth o’i addysg academaidd. Ers hynny, mae ei waith wedi ennill iddo gadair athrawol anrhydeddus ym Mhrifysgol Wolverhampton.
Amlygir cyfuniad o chwilfrydedd, angerdd, dysg, ansicrwydd ariannol ac afradrwydd trwy gydol cynnwys a threfniant yr archif fel ei gilydd. Ynghyd â’r ymchwil drylwyr a ymgymerwyd gan Griffiths ar ystod eang o bynciau, mae ei bapurau’n datgelu ei farn ddi-flewyn-ar-dafod ar sawl mater personol, creadigol, proffesiynol, cymdeithasol, gwleidyddol ac athronyddol. Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn cysyniadau hunaniaeth a hefyd mewn hanes llenyddol ac ym mhrofiad, crefft ac ystyr bywyd y llenor, ynghyd â diddordeb mewn teithio a nifer o bynciau eraill – yn enwedig pêl-droed, ac yn arbennig felly Clwb Pêl-droed Lerpwl.
Cymerwch olwg ar bapurau Niall Griffiths sydd newydd eu catalogio er mwyn gweld pam y bu – a pham y parha i fod – gymaint o alw amdano fel cyfrannwr i gyhoeddiadau a gweithgareddau mewn cymaint o wledydd ledled y byd.
Yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol cefais y fraint o roi sgwrs yn y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg ar y trysorau gwyddonol yng nghasgliadau’r Llyfrgell. Cyflwynodd y sgwrs honno 27 o drysorau gwyddonol yn dyddio o’r 11eg ganrif hyd at yr 20fed ganrif gan gynnig blas o’r math o ddeunydd yn ymwneud â gwyddoniaeth sydd gan y Llyfrgell. Bydd y blog hwn yn eich cyflwyno i bedair o’r eitemau hyn, gan ganolbwyntio ar rai gweithiau printiedig allweddol sy’n ymwneud â gwyddoniaeth o gasgliadau print y Llyfrgell.
Dechreuwn gydag un o’r llyfrau mwyaf arwyddocaol yn natblygiad syniadaeth gwyddonol, sef Dialogo di Galileo Galilei…: sopra i due massimi sistemi del mondo Tolemaico, e Copernaico (1632) gan Galileo. Yn gwneud achos feirniadol dros ddamcaniaeth Copernicus bod y ddaear yn troi o amgylch yr haul, mae gwaith Galileo ar ffurf deialog rhwng dau athronydd, Saliviati, yn cynrychioli safbwyntiau Galileo a rhagdybiaeth Copernicus, a Simplicio, yn cynrychioli’r safbwynt Ptolemaidd a gefnogir gan yr Eglwys Gatholig, a lleygwr amhleidiol, Sagredo. Arweiniodd cyhoeddi’r llyfr hwn at achos llys Galileo am heresi, ei cyfyngu i’w dŷ am weddill ei oes, ac osodiad y llyfr ar y Mynegai o Lyfrau Gwaharddedig o 1633 hyd at 1835. Yr argraffiad cyntaf a gyhoeddwyd yn Fflorens yn 1632 yw copi’r Llyfrgell.
Tudalen deitl llyfr enwog Galileo.
Llun o lyfr enwog Galileo
Daw’r ddau waith nesaf â ni i Gymru ac maent yn gynrychioliadol o weithiau Cymraeg ar wyddoniaeth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Mae’r cyntaf, Y Darluniadur Anianyddol (1850) gan Edward Mills, yn un o nifer o lyfrau gwyddoniaeth poblogaidd a gyhoeddwyd yng nghanol y 19eg ganrif. Teithiodd Mills (1802-1865) ledled Cymru yn darlithio ar seryddiaeth ac fe adeiladodd planedur 66 troedfedd, a ddisgrifiwyd fel un o ‘ryfeddodau’r oes’. Mills a’i fab oedd yn gyfrifol am y torluniau pren yn y Darluniadur.
Tudalen deitl Darluniadau Anianyddol
Darlun o eclips yr haul o 'Darluniadur Anianyddol'.
Y blaned Sadwrn yn 'Darluniadau Anianyddol'.
Yr ail yw Y Gwyddonydd, y cylchgrawn gwyddonol arloesol iaith Gymraeg a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru rhwng 1963 a 1996. Roedd y cylchgrawn yn cynnwys papurau academaidd, erthyglau, adolygiadau a newyddion ar bynciau gwyddonol. Nododd Dr Gwyn Chambers, un o sylfaenwyr y cylchgrawn, fod Y Gwyddonydd “wedi profi addasrwydd y Gymraeg i drafod pynciau gwyddonol o bob math, a hynny mewn ffordd gwbl naturiol.” Gellir gweld holl rifynnau Y Gwyddonydd ar wefan Cylchgronau Cymru Ar-lein drwy’r cysylltiad hwn.
Daw’r eitem olaf â ni at y presennol a’r angen frys i weithredu yn wyneb yr argyfwng hinsawdd mwyfwy difrifol sy’n wynebu’r blaned. Wedi’i gyd-olygu gan y gwyddonydd o Gymru, John Theodore Houghton, roedd yr adroddiad Climate Change a gyhoeddwyd gan y Panel Rhyngwladol ar Newid Hinsawdd ym 1990, yn un o’r cyhoeddiadau gwyddonol cynnar wnaeth ein rhybuddio am raddfa’r her sy’n ein hwynebu nawr mewn perthynas â newid hinsawdd anthropogenig.
Clawr Adroddiad yr IPCC ar newid hinsawdd pan oedd y Cymro Sir John Haughton yn Gadeirydd yr IPCC.
Blas yn unig yw hwn o’r gweithiau gwyddonol sydd yng nghasgliadau printiedig y Llyfrgell. Mae gennym hefyd weithiau pwysig gan Isaac Newton, Francis Bacon, Robert Hooke, gweithiau gan wyddonwyr Cymreig fel William Robert Grove, Lewis Weston Dillwyn, Eirwen Gwynn a Donald Davies, a agraffiad cyntaf o’r Origin of the Species gan Charles Darwin a ddarganfuwyd yn ddiweddar. Mae llawer iawn fwy i’w darganfod, felly beth am galw lan i’r Llyfrgell i chwilio am y gweithiau gwyddonol yn ein casgliadau?
Eleni cynhaliwyd Cynhadledd Flynyddol Cymdeithas Archifau a Chofnodion y DU ac Iwerddon (ARA) yn Belfast rhwng 30 Awst a 1 Medi. Yn ystod y gynhadledd derbyniodd dau aelod o staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydnabyddiaeth am eu gwaith caled yn y sector Archifau.
Cyflwynwyd Gwobr Gwasanaeth Nodedig mewn Archifau i Sally McInnes, Pennaeth Cynnwys Unigryw a Chyfoes. Cymhwysodd Sally fel archifydd ym 1988 a daeth i weithio yn y Llyfrgell ym 1989, ac mae wedi bod yma ers hynny! Mae Sally wedi gweithio ar bob lefel i helpu i hwyluso cadwraeth a mynediad at archifau, gan ddod yn Bennaeth Gofal Casgliadau yn 2010 ac yn Bennaeth Cynnwys Unigryw a Chyfoes yn 2015. Gwelodd Sally archifau a chasgliadau arbennig y Llyfrgell drwy heriau sylweddol, gan gynnwys tân yn 2013 ac yn fwy diweddar y pandemig Covid-19, yn ogystal â sicrhau Achrediad Gwasanaeth Archifau ar gyfer y Llyfrgell a hyrwyddo Cadwedigaeth Ddigidol.
Mae Sally wedi gwneud cyfraniad anhygoel i’r gwaith o gasglu a chadw archifau yma yn y Llyfrgell a hefyd ar draws y proffesiwn archifau ehangach, ac rydym yn siŵr y byddwch yn ymuno â ni i ddymuno llongyfarchiadau iddi.
Llongyfarchiadau hefyd i Julian Evans, Cynorthwy-ydd Cadwraeth, a dderbyniodd ei Dystysgrif mewn Cadwraeth Archifau. Dechreuodd Julian ei Hyfforddiant Cadwraeth Archifau ARA yn LlGC yn 2019, gan weithio ar lawer o wahanol dechnegau a chasgliadau gan gynnwys rhwymo llyfrau, cadwraeth papur, glanhau ac atgyweirio. Mae Julian nawr yn dechrau ar ei yrfa fel Cadwraethwr Archifau cwbl gymwys, gan helpu i gadw sgiliau hanfodol ar gyfer cadwraeth archifau yn y dyfodol.
Wrth ymchwilio at waith diweddar ar ddata etifeddiaeth yng nghasgliad ffuglen y Llyfrgell Genedlaethol, darganfuwyd nifer o gyhoeddiadau gan yr awdur Hymen Kaner, a aned yn Rwmania. Tynnwyd sylw at y llyfrau hyn gan iddynt gael eu cyhoeddi yn Llandudno. Gydag ychydig iawn o gofnodion catalog llawn ar gael ar gyfer cyhoeddiadau Kaner, bu rhaid i un o’n llyfrgellwyr yma sicrhau fod y cyfrolau’n cael eu catalogio’n llawn, a’u cynnwys fel rhan o Lyfryddiaeth Cenedlaethol Cymru.
Rhai o lyfrau gan Hymen Kaner sydd yn y Llyfrgell.
Trwy’r broses hon sylwais ar stori ddiddorol, o deulu o fewnfudwyr o Rwmania yn cyrraedd Prydain Fawr, yn gyntaf i Lundain, yna i Landudno. Ar ryw adeg sefydlodd Kaner wasg gyhoeddi yn Llandudno, yn bennaf i gyhoeddi ei waith ei hun. Er hyn, cyhoeddwyd gweithiau gan awduron eraill hefyd. Nid yw’n glir pa mor llwyddiannus oedd y fenter, ond mae’r ffaith fod sawl casgliad o straeon byrion, gan gynnwys ‘Ordeal by moonlight’, ‘Hot Swag!’, and ‘Fire watchers night’, wedi’u cyhoeddi’n fasnachol ac sydd bellach o fewn casgliad y Llyfrgell yn brawf fod Kaner wedi cael rhywfaint o lwyddiant.
Er mwyn darllen rhagor am hanes yr awdur, darllenwch y ddolen yma a ysgrifennwyd gan Laurence Worms o Ash Rare Books:
Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.